Statement on launch of CSPL review into electoral regulation
Summary
Dywedodd llefarydd ar ran y Comisiwn Etholiadol:
“Mae'r adolygiad a lansiwyd gan y Pwyllgor Safonau mewn Bywyd Cyhoeddus yn bwrw golwg amserol ar y fframwaith rheoleiddio ar gyllid etholiadol a orfodir gan y Comisiwn, yr heddlu a'r llysoedd. Mae'r fframwaith hwn yn sicrhau bod uniondeb a thryloywder democratiaeth a chyllid gwleidyddol yn cael eu cynnal yn y DU, ac eu bod yn sail i hyder y cyhoedd yn ein proses ddemocrataidd.
“Ers sefydlu’r drefn reoleiddio gyfredol yn 2000, mae natur ymgyrchu mewn etholiadau a refferenda wedi newid; mae'r defnydd o dechnegau ymgyrchu digidol yn sylweddol ac mae deddfau etholiadol yn ei chael hi'n anodd cadw i fyny. Mae hyn yn gwneud gwaith CSPL hyd yn oed yn fwy amserol a gwerthfawr. Rydym yn edrych ymlaen at ymgysylltu â'r Pwyllgor parthed yr adolygiad hwn, ac at drafod sut y gellir diweddaru'r fframwaith i gryfhau rheoleiddio ariannol a chynyddu hyder pleidleiswyr. "
Background
Cefndir
- Y Comisiwn Etholiadol yw'r corff annibynnol sy'n goruchwylio etholiadau a rheoleiddio cyllid gwleidyddol yn y DU.
- Sefydlwyd y Comisiwn Etholiadol ym mis Tachwedd 2000, o ganlyniad i Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000. Mae'n adrodd i Senedd y DU trwy Bwyllgor y Llefarydd ar y Comisiwn Etholiadol.
- Arweiniodd yr adolygiad blaenorol gan CSPL yn 2007 at newidiadau sylweddol a chadarnhaol i ddeddfwriaeth, rheoleiddio ymgyrchoedd etholiadol a refferenda ac agwedd y Comisiwn at orfodi.