Llwybr brys yw’r dudalen hon i bopeth rydym ni wedi’u cyhoeddi ar Gymru, Cynulliad Cenedlaethol Cymru a’r llywodraeth leol yng Nghymru.
Cael mynediad i gynnwys Cymraeg ar ein gwefan
Rydym yn ymroddedig i gyflawni gwasanaeth o ansawdd uchel yn y Gymraeg fel yr amlinellwyd yn ein Cynllun Iaith Gymraeg. Fel rhan o’r ymrwymiad hwnnw, mae rhai cyhoeddiadau neu gynnwys arlein ar gael yn gyfan gwbl, neu’n rhannol, yn Gymraeg. Mae modd cael mynediad i gynnwys o’r fath drwy’r dolenni a’ r nodweddion ‘diweddariadau diweddaraf’ isod.
Os ydych yn gwybod am beth yr ydych yn chwilio, defnyddio ein teclyn chwilio yn Gymraeg
Amdanom ni
Yn yr ardal hon gallwch ddarganfod am ein rôl a’n cyfrifoldebau, ein strwythur corfforaethol, ein hamcanion a’n cyflawniadau a rôl ein swyddfa yng Nghymru.
Ein Cynllun Iaith Gymraeg
Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth dwyieithog yng Nghymru.
Dod o hyd i arweiniad ac adnoddau yn ôl pwnc
Am arweiniad ac adnoddau Cymraeg i’ch helpu i gydymffurfio â’r gyfraith ac arfer orau etholiadol, dewiswch y pwnc perthnasol o’r gwymplen isod.
Adnoddau i weinyddwyr etholiadau
- Cofrestru etholiadol
- Hygrededd etholiadol
- Etholiadau Seneddol y DU
- Etholiadau Senedd Ewrop
- Etholiadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru
- Etholiadau llywodraeth leol Cymru
- Refferenda
Adnoddau i’r rheiny yr ydym yn eu rheoleiddio
- Pleidiau gwleidyddol a swyddogion pleidiau
- Cofrestru plaid newydd
- Ymgeiswyr ac asiantau
- Ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau (trydydd partïon cydnabyddedig)
- Ymgyrchwyr mewn refferenda (yn cynnwys cyfranogwyr a ganiateir)
- Unigolion eraill a reoleiddir (fel deiliaid swyddi etholedig ac aelodau pleidiau gwleidyddol, yn cynnwys darpar ymgeiswyr)
- Mudiadau eraill a reoleiddir (aelod gymdeithasau a chymdeithasau anghorfforedig)
![]()
Ein hadroddiad terfynol i Fwrdd yr Iaith Gymraeg ar ein Cynllun Iaith Gymraeg
Ar 21 Rhagfyr 2011 mi wnaeth y Comisiwn anfon yr adroddiad terfynol ar y broses o weithredu'r argymhellion a nodwyd yn ymchwiliad statudol Bwrdd yr Iaith Gymraegi i fewn i Gynllun Iaith y Comisiwn.
Fe gawsom wybod ar y 11 Ionawr 2012 bod y Bwrdd yn fodlon ar y dystiolaeth a'r wybodaeth a gyflwynir ar weithredu'r argymhellion hyn ac rydym yn edrych ymlaen at ddatblygu'r gwaith hwn ymhellach yn y dyfodol.
Safonau perfformio diwygiedig
Rydym wedi cyhoeddi safonau perfformio diwygiedig i Swyddogion Canlyniadau ym Mhrydain Fawr. I weld y safonau diwygiedig, dilynwch y ddolen isod:
Papur Materion ar amseru cyfrif etholiadau
Mae amseru cyfrif etholiadau yn fater sylweddol i’r rheiny sydd yn ymwneud ag etholiadau. Credwn ei fod yn amser ystyried os oes angen newid y ffordd y caiff penderfyniadau ar amseru cyfrif etholiadau eu gwneud – er mwyn delifro buddion i bleidleiswyr, ymgeiswyr sy’n sefyll mewn etholiadau ac i’r rheiny sydd yn gyfrifol am ddarparu’r etholiadau.
Rydym wedi cyhoeddi y papur hwn i ac i ymofyn barn ar os oes angen newidiadau. Rydym yn croesawu unrhyw sylwadau sydd gennych cyn 3 Chwefror 2012. . Os oes angen, fe fyddwn yn gwneud argymhellion ar unrhyw newidiadau y teimlwn sydd eu hangen. Rydym yn disgwyl cyhoeddi’r argymhellion yma erbyn canol mis Mawrth 2012. Os hoffech chi gyflwyno eich sylwadau, cysylltwch â: gwybodaeth@comisiwnetholiadol.org.uk
Darllenwch y papur (Cymraeg) | Read the paper (English)
Ffigurau gwariant terfynol ar gyfer etholiad 2011
Mae’r manylion terfynol ynglŷn â gwariant yn yr etholiad gyffredinol Cynulliad Cenedlaethol Cymru ym mis Mai’r flwyddyn hon yn awr ar gael. Fe wariodd un plaid, y Blaid Geidwadol, dros £250,000 ar ymgyrchu yn y cyfnod cyn yr etholiad.
Darllen y ddatganiad i’r wasg (Cymraeg) | Read the news release (English) | Gweld y ffigurau (Saesneg)
Adroddiad ar etholiad cyffredinol Cynulliad Cenedlaethol Cymru 5 Mai 2011
Rydym wedi cyhoeddi ein hadroddiad ar yr etholiadau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru a gynhaliwyd ar 5 Mai 2011.
- Darllenwch yr adroddiad (PDF)
- Darllenwch y datganiad newyddion
- Edrychwch ar adroddiadau ymchwil perthnasol (Saesneg)
Ar 19 Hydref 2011, cyhoeddwyd manylion ar wariant ymgeiswyr yn yr etholiadau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru 2011. Lawrlwythwch y ffeiliau isod i weld y gwariant a gwybodaeth ar rhoddion. Mae'r data a ddarparwyd yn y dogfennau hyn yn seiliedig ar ffurflenni a gyflwynir i ni gan Swyddogion Canlyniadau.
Os ydych yn dymuno gweld copïau o'r ffurflenni, cysylltwch â'r Swyddog Canlyniadau perthnasol neu’r awdurdod lleol.
'Cyfnodau rheoleiddiedig' a terfynau gwario yng Nghymru
Yng Nghymru roedd y cyfnod rheoleiddiedig rhwng 25 Mawrth a Mai 5, 2011 (diwrnod y bleidlais).
Mae terfyn gwario ar gyfer ymgeisydd etholaeth oedd £ 7,150 ynghyd â 7c ar gyfer pob etholwr ar y gofrestr os mewn etholaeth 5c sir neu ar gyfer pob etholwr ar y gofrestr os mewn etholaeth bwrdeistref.
I gael rhagor o wybodaeth fanwl am y ddeddfwriaeth sy'n rheol gwariant ymgeisydd, gan gynnwys manylion am derfynau ar gyfer ymgeiswyr rhanbarthol, defnyddiwch y ddolen ganlynol: Canllawiau ar wariant ymgeiswyr mewn etholiadau yng Nghymru
Gwariant yr ymgyrch yn etholiadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2011
Rydym wedi cyhoeddi gwybodaeth gwariant ymgyrch gan bleidiau gwleidyddol lle mae’r gwariant yn llai na neu'n hafal i £250,000 yn etholiadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2011.
Ffurflenni gwariant (Saesneg) | Datganiad newyddion (Saesneg) | Canlyniadau etholiad 2011 (Saesneg)
Adroddiad ar refferendwm Cymru
Rydym ni wedi cyhoeddi ein adroddiad ar y modd y rhedwyd refferendwm 3 Mawrth ynghyd â chanlyniadau ymchwil barn gyhoeddus ar brofiad pleidleiswyr.
Crynodeb o’r adroddiad (PDF) | Adroddiad llawn (PDF) | Darllen ein datganiad i’r wasg (Saesneg)
Canfyddiadau ymchwil
- Adroddiad cryno’r Comisiwn Etholiadol ar y nifer a bleidleisiodd a data gweinyddol (Word - Saesneg)
- Data a gasglwyd gan y Comisiwn Etholiadol: y nifer a bleidleisiodd a data gweinyddol (Excel - Saesneg)
- Crynodeb adroddiad Ipsos-MORI (PPT - Saesneg)
- Data a gasglwyd gan Ipsos-MORI (Word - Saesneg)
Cynllun corfforaethol 2011–12 hyd 2015–16
Yr ydym wedi cyhoeddi ein cynllun corfforaethol 2011-12 i 2015-16.
Rydym yn rhoi buddiannau etholwyr wrth galon yr hyn yr ydym yn ei wneud. Mae'r cynllun yn nodi ein cyfeiriad ar gyfer y pum mlynedd nesaf, yn amlinellu'r gweithgareddau ac adnoddau a fydd yn ein galluogi i gyflawni ein nod o gonestrwydd a hyder y cyhoedd yn y broses ddemocrataidd.
