Read in English / Tudalen Saesneg
Ar y dudalen hon gallwch weld ein harweiniad cofrestru etholiadol, adnoddau a ffurflenni Cymraeg i weinyddwyr etholiadol.
Rheoli gwasanaethau cofrestru etholiadol
Llawlyfr arweiniad cofrestru etholiadol
Rydym wedi cynhyrchu llawlyfr arweiniad cynhwysfawr i swyddogion cofrestru Etholiadol (EROs) ar draws Prydain Fawr. Mae hwn yn disodli Rheoli gwasanaethau etholiadol.
Patrymluniau safonau perfformiad
Rydym yn monitro perfformiad EROs drwy ein fframwaith safonau perfformiad (Saesneg yn unig). Rydym wedi datblygu ystod o gynlluniau patrymlun i gynorthwyo EROs ym Mhrydain Fawr i gwrdd â’r safonau hyn.
Canfasio blynyddol
Rydym wedi cynhyrchu amryw o gynnyrch cefnogol i Swyddogion Cofrestru Etholiadol a staff cofrestru etholiadol, i’w defnyddio yn ystod y canfasio blynyddol.
Bwriedir i’r adnoddau gael eu defnyddio fel ffyrdd o gefnogi’r broses o reoli a chyflwyno’r canfasio, ac mae fformat y templedi yn caniatáu i ofynion lleol gael eu hymgorffori yn y cynnyrch unigol. Dyma’r templedi:
- Cynllun templed safonau perfformiad canfasio blynyddol (DOC)
- Templed enghreifftiol o ddisgrifiad swydd canfasiwr (DOC)
- Taflen gofnodi canfasiwr (DOC)
- Cerdyn galw canfasiwr (DOC)
- Cwestiynau a Ofynnir yn Aml (DOC)
- Rhestr o wledydd cymwys at ddibenion cofrestru etholiadol (PDF)
- Canllawiau’r Llyfrgell Brydeinig ar gyfer darparu’r gofrestr etholiadol (PDF) (Saesneg yn unig)
Rydym hefyd wedi creu oriel luniau a thempled o ddatganiadau i’r wasg, i’ch helpu i godi ymwybyddiaeth am y canfasio blynyddol trwy eich cyfryngau lleol. Gellir dod o hyd i’r datganiadau i’r wasg ar ein gwefan Gwna Wleidyddiaeth.
Adnoddau i gefnogi’r broses o friffio canfaswyr
Fersiynau ieithoedd eraill
Mae’r datganiad o ddiben y ddogfen ganfasio flynyddol ar gael yn yr ieithoedd canlynol:
Cofrestru treigl
Gellir lawrlwytho ein ffurflenni cofrestru treigl oddi ar ein gwefan Fy Mhleidlais I.
Rhoddir cyngor ymarferol ar sut i gynnal cofrestr cyflawn a chywir drwy gydol y flwyddyn yn ein llawlyfr cofrestru etholiadol.
Gellir dod o hyd i adnoddau eraill i weinyddwyr a manylion am ein hymgyrchoedd gwybodaeth gyhoeddus ar ein gwefan Gwna Wleidyddiaeth.
Pleidleisio absennol
Adnewyddu dynodyddion pleidlais absennol
Yn dilyn cais gan y Gweithgor Etholiadau a Chofrestru, rydym wedi llunio testun templed ar gyfer llythyrau eglurhaol y gall Swyddogion Cofrestru Etholiadol yng Nghymru a Lloegr ei ddefnyddio i adnewyddu dynodyddion pleidlais absennol yn 2012. Er ein bod wedi awgrymu testun ar gyfer llythyrau eglurhaol, nid ydym wedi darparu templedi ar gyfer yr hysbysiadau casglu, oherwydd rydym ar ddeall bod cyflenwyr eisoes wedi bod yn gweithio gyda gweinyddwyr ar fformat yr hysbysiadau. Nodir y templedi isod:
- Llythyr yn gwneud cais am ddynodyddion pleidlais bost (DOC)
- Llythyr yn gwneud cais am ddynodyddion pleidlais drwy ddirprwy (DOC)
- Llythyr canslo (DOC)
Defnyddio a darparu cofrestri etholiadol
Cloriau blaen y gofrestr lawn
Templedi o gloriau blaen ar gyfer y gofrestr lawn yw’r canlynol, sydd yn rhoi gwybodaeth i’r rhai hynny sydd yn archwilio/archebu/gwneud cais am gopi o’r gofrestr lawn am sut gellir defnyddio’r gofrestr ac am yr holl gosbau y gallant eu hwynebu os ydynt yn defnyddio’r gofrestr at ddibenion eraill, nad ydynt wedi’u gosod mewn deddfwriaeth.
- Taflen glawr ar gyfer copïau o’r gofrestr lawn sydd ar werth (DOC)
- Taflen glawr ar gyfer copïau o’r gofrestr lawn sydd i’w darparu’n rhad ac am ddim ar gais (DOC)
- Taflen glawr ar gyfer copïau o’r gofrestr lawn sydd ar gael i’w harchwilio (DOC)
Nodiadau canllaw i staff
Clawr blaen y gofrestr wedi’i golygu
Templed o glawr blaen ar gyfer y gofrestr wedi’i golygu yw’r canlynol, sy’n cynnwys gwybodaeth ar werthu’r gofrestr wedi’i golygu ac ar y system ‘optio allan’:
Dylunio gwasanaethau etholiadol (Lloegr)
Lluniwyd y ddogfen hon o ganlyniad i’r heriau sy'n wynebu awdurdodau unedol newydd i sefydlu unedau gwasanaethau etholiadol newydd. Mae'n amlinellu'r ffactorau ac yn tynnu sylw at faterion cyffredin y dylid eu hystyried wrth ddylunio gwasanaeth newydd. Rydym yn sylweddoli nad oes 'un ateb i bawb’, ond rydym yn ceisio dod o hyd i’r ffyrdd gorau o sefydlu strwythur effeithiol, ac yn rhoi gwybodaeth ynghylch cymorth a chyfarwyddyd ychwanegol i’r rhai hynny sydd ynghlwm yn y broses.
Yn ôl i hafan Cymru
