Quick links

Sefydliadau eraill

Mae nifer o adrannau’r llywodraeth sy’n gyfrifol am bolisi ar gynnal etholiadau yn y DU ac mae ganddynt gyfrifoldeb dros y ddeddfwriaeth y mae ein harweiniad yn seiliedig arni.

Dyma ddisgrifiad byr o waith rhai o’r adrannau hyn a sefydliadau perthnasol eraill, gyda dolenni i’w gwefannau.

Swyddfa’r cabinet

Swyddfa’r Cabinet yw adran ganolog y llywodraeth sy’n gyfrifol am y fframwaith deddfwriaethol ar gyfer etholiadau Seneddol y DU, etholiadau Senedd Ewrop a refferenda cenedlaethol, yn cynnwys etholfraint, cynnal ac ariannu..

Swyddfa Etholiadol Gogledd Iwerddon

Swyddfa Etholiadol Gogledd Iwerddon yw’r sefydliad sy’n cefnogi’r Prif Swyddog Etholiadol gyda chynnal ei gyfrifoldebau statudol, sy’n cynnwys gweinyddu etholiadau a llunio’r gofrestr etholwyr yng Ngogledd Iwerddon.

Swyddfa Ysgrifennydd Gwladol Cymru

Mae gan Swyddfa Ysgrifennydd Gwladol Cymru gyfrifoldeb dros y ddeddfwriaeth sy’n rheoli cynnal yr etholiadau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

Swyddfa’r Alban

Mae Ysgrifennydd Gwladol yr Alban yn gyfrifol am gynnal ac ariannu etholiadau Senedd yr Alban.

Cymunedau a Llywodraeth Leol

Cymunedau a Llywodraeth Leol yw adran y llywodraeth sy’n ymdrin â pholisi cenedlaethol ar lywodraeth leol yn Lloegr, yn cynnwys yr hyn y mae’n ei wneud, pa mor dda mae’n gweithio a sut y caiff ei hariannu. Mae’n gyfrifol am osod cylch etholiadau llywodraeth leol yn Lloegr ac mae ganddi gyfrifoldeb hefyd dros y ddeddfwriaeth sy’n llywodraethu adolygu a diweddaru trefniadau etholiadol o fewn awdurdodau lleol.

Llywodraeth yr Alban

Cyfrifoldeb Llywodraeth yr Alban yw polisi llywodraeth leol yn yr Alban. Mae Gweinidogion yr Alban yn gyfrifol am bolisi ar etholiadau llywodraeth leol a deddfwriaeth yn ymwneud â’u cynnal.


Yn ôl i hafan Cymru