Quick links

Swyddfa Cymru – ein rôl

Rydym yn gyfrifol am ddelio â holl swyddogaethau’r Comisiwn yng Nghymru. Mae ein cylch gwaith yn cynnwys holl etholiadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru, etholiadau Senedd Ewrop a’r D.U. ac etholiadau llywodraeth leol.

Nod allweddol arall yw sicrhau bod barnau budd-ddeiliaid Cymru, gan gynnwys y cyhoedd, aelodau etholedig a swyddogion Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Llywodraeth Cynulliad Cymru, Swyddfa Cymru, yr awdurdodau lleol a chyrff perthnasol o’r sectorau cyhoeddus a gwirfoddol, yn cyfrannu at holl agweddau o’n gwaith. Bydd hyn yn sicrhau bod gweithdrefnau ac arferion sy’n benodol i Gymru yn cael eu cymryd i ystyriaeth, a’u hadlewyrchu mewn gweithgareddau ar draws y Comisiwn.

Yn ogystal, rydym yn gweithredu fel pwynt cyfeirio ar gyfer etholwyr yng Nghymru. Rydym ar gael i ateb ymholiadau a cheisiadau am gyngor ar faterion etholiadol gan y cyhoedd a sefydliadau perthnasol.

Mae ein tîm yn gweithio’n agos gyda chydweithwyr yn swyddfeydd eraill y Comisiwn ar draws y DU, sy’n cynnwys bod yn gyfrifol am brosiectau penodol drwy’r D.U. cyfan fel bo’n briodol.