Quick links

Cofrestru plaid newydd

Read in English/ Tudalen Saesneg

Trosolwg

Cewch wybodaeth ar y dudalen hon am gofrestru plaid wleidyddol newydd. Os ydych yn edrych am arweiniad i blaid sydd eisoes wedi’i chofrestru ewch i’r dudalen pleidiau gwleidyddol a swyddogion pleidiau.

Os ydych eisoes yn gwybod pa fath o blaid yr ydych yn dymuno ei chofrestru, ewch i:

Ansicr ynghylch math y blaid y dylech ei chofrestru, ewch i:

Edrych am wybodaeth gefndir?

Pa fath o blaid ydych am ei chofrestru?

Rydym yn cofrestru dwy fath o blaid: plaid wleidyddol gofrestredig a phlaid lai. 

Cofrestru plaid wleidyddol

Gall plaid wleidyddol gofrestredig wneud cais i gofrestru ar gofrestr Prydain Fawr (GB), cofrestr Gogledd Iwerddon (NI) neu’r ddwy gofrestr. Mae pleidiau ar gofrestr GB hefyd yn dewis pa rannau o’r GB y maent am gofrestru ynddynt. Gall pleidiau ddewis cyfuniad o Loegr, yr Alban a Chymru.

Yn dymuno mwy o wybodaeth ar gofrestru plaid wleidyddol?

Yn dymuno gallu gweld yr holl arweiniad a ffurflenni sydd ar gael ar gyfer cofrestru plaid wleidyddol?

Cofrestru plaid lai

Mae plaid lai wedi’i chofrestru ar gofrestr Prydain Fawr, ond gall ymladd etholiadau cyngor plwyf yn Lloegr ac etholiadau cyngor cymuned yng Nghymru yn unig. Gall cofrestru fel plaid lai hefyd ddiogelu enw plaid yn yr Alban.

Os byddwch yn sefydlu plaid lai ni fydd angen i chi gyflwyno cymaint o wybodaeth i ni wrth wneud cais i gofrestru, neu fod yn destun yr un graddau o reoliadau ariannol, o’i gymharu â phlaid wleidyddol gofrestredig.

Yn dymuno mwy o wybodaeth ar gofrestru plaid lai?

Yn dymuno gallu gweld yr holl arweiniad a ffurflenni sydd ar gael ar gyfer cofrestru plaid lai?

Rydym yn gwella mynediad i’n hadnoddau Cymraeg ar gyfer yr adran hon.  Darllenwch am ein hymrwymiad i ddarparu ein gwasanaethau trwy gyfrwng y Gymraeg yn ein Cynllun Iaith Gymraeg (PDF).

Yn ôl i hafan Cymru