Read in English/ Tudalen Saesneg
Trosolwg
Ar y dudalen hon fe gewch wybodaeth i helpu cymdeithasau aelodau a chymdeithasau anghorfforedig i gydymffurfio â’r rheolau ar gyfraniadau a rhoddion a gyflwynwyd yn Neddf Pleidiau Gwleidyddol ac Etholiadau 2009 (saesneg yn unig).
Dolenni cyflym:
- Sut ydyn ni’n canfod a ydy’r wybodaeth ar y dudalen hon yn berthnasol i’n sefydliad ni?
- cymdeithasau aelodau
- cymdeithasau anghorfforedig
|
Does dim diweddariadau ar hyn o bryd. |
Sut ydyn ni’n canfod a ydy’r wybodaeth ar y dudalen hon yn berthnasol i’n sefydliad ni?
Gallwch wirio a yw eich sefydliad yn gymdeithas anghorfforedig drwy edrych ar yr wybodaeth ar wefan Cyswllt Busnes (saesneg yn unig).
Cymdeithas aelodau yw sefydliad nad yw’n blaid wleidyddol ond y mae ei haelodau i gyd, neu yn bennaf, yn aelodau o blaid wleidyddol. Mae cymdeithasau aelodau yn perthyn i gategori o sefydliadau ac unigolion a elwir yn ‘buddiolwyr wedi’u rheoleiddio’. Gweler rhagor am fuddiolwyr wedi’u rheoleiddio (saesneg yn unig).
Os yw eich sefydliad yn cwrdd â meini prawf diffiniad cymdeithas aelodau dylech ddilyn y canllawiau ar gyfer cymdeithasau aelodau.
Cymdeithas Aelodau
Rydyn ni’n rheoleiddio cymdeithasau aelodau. Maen nhw’n rhoi gwybod am gyfraniadau a benthyciadau y maen nhw’n eu derbyn ac maen nhw’n gyfrifol am wirio a yw’r cyfraniadau a’r benthyciadau hyn yn rhai a ganiateir.
Ffurflenni a chanllawiau
Mae gwahanol ffurflenni a chanllawiau ar gyfer cyfranwyr wedi’u rheoleiddio ym Mhrydain a Gogledd Iwerddon. Mae’n bwysig eich bod yn gwneud yn siŵr eich bod wedi lawrlwytho’r ffurflenni a’r canllawiau cywir ar gyfer eich lleoliad.
Rydym yn darparu:
- Cyfraniadau a benthyciadau: canllawiau ar gyfer buddiolwyr wedi’u rheoleiddio ym Mhrydain (PDF) neu
- Cyfraniadau a benthyciadau: canllawiau ar gyfer buddiolwyr wedi’u rheoleiddio yng Ngogledd Iwerddon (PDF) (saesneg yn unig)
- Ffurflen RD1A: Rhoi gwybod am rodd neu ymweliad (PDF)
- Ffurflen RD1B: Adroddiad ar rodd nas derbyniwyd gan dderbynnydd a reoleiddir (PDF)
- Ffurflen RD1C: Adroddiad ar drafodion wedi'u rheoli gan gyfranogwr rheoledig (PDF)
- Ffurflen RD1D: Rhoi gwybod am drafodyn nas caniateir gan gyfranogwr rheoledig (PDF)
- Ffurflen R1: Hysbysiad o benodi unigolyn cyfriol gan gymdeithas o aelodau heb drysorydd (DOC)
Cymdeithasau aelodau sydd hefyd yn gymdeithasau anghorfforedig
Rhaid i gymdeithasau aelodau sy’n gymdeithasau anghorfforedig gydymffurfio â’r rheolau newydd ar gyfer cymdeithasau anghorfforedig. Gweler:
Dylech ein hysbysu pan fyddwch yn gwneud cyfraniadau gwleidyddol gwerth dros £25,000 mewn blwyddyn galendr. Mae cyfraniadau gwleidyddol yn cynnwys cyfraniadau a benthyciadau i bleidiau gwleidyddol, sefydliadau sy’n ymgyrchu mewn etholiadau ac unigolion mewn swydd etholedig megis Aelodau Seneddol neu aelodau o’r deddfwriaethau datganoledig. Mae’r manylion hyn wedi eu cyhoeddi ar y gofrestr cymdeithasau anghorfforedig (saesneg yn unig).
Dylech barhau i roi gwybod am gyfraniadau wrth i chi eu derbyn. Ni fydd gofyn i chi roi gwybod ddwywaith am roddion sy’n gyfraniadau.
Ond os byddwch yn anfon hysbysiad i ni am gyfraniadau gwleidyddol ar ôl Ionawr 2010 bydd gofyn i chi hefyd cwblhau Ffurflen MA1 ar ddiwedd pob chwarter calendr nes i’ch cyfrifoldeb reportio ddod i ben. Dyma’r ffurflenni sydd eu hangen arnoch chi:
Cymdeithasau anghorfforedig
Dylai cymdeithasau anghorfforedig ein hysbysu pan fyddan nhw’n gwneud cyfraniadau gwleidyddol gwerth dros £25,000 mewn blwyddyn galendr. Mae cyfraniadau gwleidyddol yn cynnwys cyfraniadau a benthyciadau i bleidiau gwleidyddol, sefydliadau sy’n ymgyrchu mewn etholiadau ac unigolion mewn swydd etholedig megis Aelodau Seneddol neu aelodau o’r deddfwriaethau datganoledig.
Yn ogystal â’n hysbysu ni bydd angen i chi ddweud wrthym am y rhoddion hysbysadwy a dderbyniwyd gan eich cymdeithas yn ystod:
- y flwyddyn galendr cyn i chi wneud y cyfraniad
- blwyddyn galendr gwneud y cyfraniad a’r
- flwyddyn galendr yn dilyn y cyfraniad,
Mae’r wybodaeth hon wedi ei chyhoeddi ar y gofrestr cymdeithasau anghorfforedig (saesneg yn unig) a’r gofrestr o roddion y mae’n rhaid eu cofnodi i gymdeithasau anghorfforedig.
Am ragor o wybodaeth gweler:
Mae rhoddion y mae’n rhaid eu hadrodd yn cynnwys:
- rhodd unigol o dros £7,500
- dwy neu fwy o roddion gan yr un person yn yr un flwyddyn galendr sy’n dod i dros £7,500. Dim ond rhoddion unigol gwerth mwy na £500 sy’n rhaid i chi eu cyfrif yn y cyfanswm hwn
- unrhyw roddion ychwanegol a roddwyd gan ffynhonnell yr ydych eisoes wedi hadrodd iddo roi rhodd yn y flwyddyn galendr honno os yw’r rhoddion gwerth, neu’n dod i gyfanswm o dros £1,500
Yn y cyfamser dylai cymdeithasau anghorfforedig sy’n bwriadu gwneud cyfraniadau gwleidyddol o dros £25,000 ar ôl Ionawr 2010 gadw cofnod o unrhyw roddion gwerth dros £500 y maen nhw’n eu derbyn o 21 Gorffennaf 2009 ymlaen.
Dyma’r ffurflenni sydd eu hangen arnoch chi:
- Ffurflen UA1: Hysbysiad o gymdeithas anghorfforedig yn gwneud cyfraniad gwleidyddol (PDF)
- Ffurflen UA2: Adroddiad o roddion gafodd eu derbyn gan gymdeithas anghorfforedig cyn i gyfraniad gwleidyddol gael ei wneud (PDF)
- Ffurflen UA3: Adroddiad chwarterol o roddion a dderbyniwyd gan gymdeithas anghorfforedig ar ôl i gyfraniad gwleidyddol gael ei wneud (PDF)
