Mae’r ddalen hon yn cynnwys yr holl gyfarwyddiadau ac adnoddau y byddwch eu hangen os ydych yn ymgeisydd neu’n asiant mewn etholiad Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu.
|
24 Ionawr 2013: Gwiriwch eich ffurflen wariantY mae wedi dod i'n sylw fod fersiwn anghywir o'r ffurflen wariant ar ein gwefan am gyfnod byr o amser ar ddiwedd mis Hydref; nid oedd ganddo adran 4 ar gyfer adrodd treuliau personol. Os ydych chi'n ymgeisydd neu asiant, os gwelwch yn dda gwiriwch fod eich ffurflen wariant yn cynnwys adran ar wariant personol. Cysylltwch a ni ar 020 7271 0616 os ydych chi wedi cyflwyno'r ffurflen anghywir, ac fe fyddwn ni'n medru helpu chi i gyflwyno'r ffurflen gywir. Fe fyddwn ni hefyd yn cysylltu a'r holl ymgeiswyr ac asiantau y medrwn er mwyn codi eu sylw nhw at y broblem posib yma. Rydym ni wedi cysylltu a PAROs, i ofyn iddynt wirio'r ffurflenni sydd wedi eu cyflwyno'n barod, ynghyd ag unrhyw rai eraill a fydd yn cyrraedd cyn y dyddiad cau er mwyn sicrhau eu bod nhw'n gywir. Fe fyddwn yn cysylltu ac unrhyw ymgeiswyr sydd wedi eu heffeithio er mwyn gadael iddynt wybod beth i wneud nesaf. |
I ymdrin â rhai o'r cwestiynau a godwyd gyda ni gan ddarpar ymgeiswyr ac i ddarparu gwybodaeth ychwanegol bellach i'r canllawiau a gyhoeddwyd ym mis Mehefin, rydym wedi gwneud newidiadau i'n canllawiau i roi eglurhad pellach ac i ddarparu mwy o fanylion ar bwyntiau penodol. Cliciwch yma i gael crynodeb o’r holl newidiadau a wnaed ers cyhoeddi ein canllawiau.
Mae yna ddogfen gyffredinol yn rhoi cyfarwyddiadau ar sut i ddefnyddio’r cyfarwyddyd yma a phwy sy’n gwneud beth yn yr etholiadau yma. Darllenwch y Trosolwg i ymgeiswyr ac asiantau (PDF).
Rydym yn croesawu adborth gan y rhai hynny sy'n defnyddio ein canllawiau, i’n helpu i’w gwella.
Amserlen ar gyfer etholiadau 15 Tachwedd 2012
Dyddiad | Digwyddiad |
| Cliciwch yma i gael amserlen fanwl ar gyfer etholiadau 2012 (PDF)
| |
| 8 Hydref 2012 | Y dyddiad olaf ar gyfer cyhoeddi hysbysiad am yr etholiad |
| 8 Hydref 2012 | Y dyddiad cau ar gyfer ymgeisio i gofrestru plaid newydd i gystadlu mewn etholiad |
| 12 y prynhawn ar 19 Hydref 2012 | Cau'r enwebiadau |
| 6/7 Rhagfyr 2012* | Y diwrnod olaf ar gyfer derbyn anfonebau am wariant mewn etholiadau |
| 13/14 Rhagfyr 2012* | Y diwrnod olaf ar gyfer alu anfonebau am wariant mewn etholiadau |
| 24/25 Ionawr 2013* | Y diwrnod olaf ar gyfer cyflwyno cofnod am wariant mewn etholiad |
| 7 diwrnod gwaith o'r diwrnod y cyflwynir cofnod gwariant yr ymgeisydd | Y diwrnod olaf ar gyfer derbyn datganiad yr ymgeisydd |
* yn dibynnu a yw canlyniad yr etholiad wedi'i gyhoeddi cyn hanner nos ar Tachwedd 15 neu ar Tachwedd 16.







