Cofrestru i bleidleisioOs hoffech chi roi eich barn yn yr etholiadau lleol ar Ynys Môn ym mis Mai, mae’n rhaid eich bod chi wedi cofrestru i bleidleisio. Y dyddiad cau ar gyfer cofrestru i bleidleisio yw dydd Mercher 17 Ebrill. Canfyddwch sut i gofrestru nawr yn Fy Mhleidlais i |
Cofrestru pleidleiswyr
Mae’n rhaid i chi fod ar y gofrestr etholiadol i bleidleisio mewn etholiad neu refferendwm.
Pwy sy’n cael cofrestru i bleidleisio?
- Unrhyw un sydd yn 16 mlwydd oed neu’n hŷn (ond ni chewch chi bleidleisio nes eich bod yn 18 mlwydd oed)
- Yn ddinesydd Prydeinig neu’n ddinesydd cymwys o’r Gymanwlad. Mae hyn yn golygu dinasyddion y Gymanwlad sydd â chaniatâd i aros yn y DU neu nad oes angen caniatâd o’r fath arnynt.
- Dinasyddion Gweriniaeth Iwerddon neu un o wledydd eraill yr Uned Ewropeaidd (UE)
Pwy sy’n cael pleidleisio?
- Mae dinasyddion Gweriniaeth Iwerddon a dinasyddion cymwys o’r Gymanwlad (yn cynnwys Cyprus a Malta) yn cael pleidleisio ym mhob etholiad.
- Mae dinasyddion o wledydd eraill yr Uned Ewropeaidd sy’n byw yn y DU yn cael pleidleisio mewn etholiadau llywodraeth leol, ond nid ydynt yn cael pleidleisio mewn etholiadau Senedd y DU.
- Mae’r rhai hynny sy’n byw yn yr Alban neu yng Nghymru yn cael pleidleisio hefyd yn etholiadau Senedd yr Alban neu yn etholiadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Ydw i wedi cofrestru i bleidleisio?
Os ydych chi eisiau cofrestru i bleidleisio neu ddarganfod os ydych chi wedi pleidleisio, gweler y manylion cyswllt ar gyfer eich Swyddog Cofrestru Etholiadol ar ein gwefan; Fy Mhleidlais I. Ar y safle hon, rydym hefyd yn egluro am yr hyn y gallech bleidleisio drostynt, y gwahanol ffyrdd y gallwch bleidleisio, a sut i gofrestru. Fy mhleidlais i
Cwestiynau a Ofynnir yn Aml
Twyll etholiadol
Mae’r dudalen hon yn cyflwyno gwybodaeth i’r cyhoedd cyffredin ynghylch rhoi gwybod am honiadau o dwyll etholiadol, ac yn darparu rhestr o droseddau etholiadol:
![]()
Dyfodol cofrestru pleidleiswyr
I ddarganfod mwy ynghylch dyfodol cofrestru pleidleiswyr, ewch i’n tudalen: individual electoral registration (tudalen iaith Saesneg)
