Quick links

Deddfwriaeth

Mae Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 yn gosod fframwaith cyfreithiol ar gyfer refferenda rhanbarthol, cenedlaethol a ledled y Deyrnas Unedig.  Mae’n trafod:

  • rôl y Comisiwn
  • rheolau cyffredinol ynghylch sut dylai refferenda gael eu cynnal
  • rheolau ar ddeunydd hyrwyddol ac ar ymgyrchu mewn refferenda
  • cyfyngiadau gwariant ar gyfer ymgyrchwyr

O fewn y fframwaith hwn mae gennym nifer o bwerau a chyfrifoldebau. Ceir rhagor o wybodaeth ar ein tudalen rôl a chyfrifoldebau.

Deddfwriaeth ar gyfer bob refferendwm

Er mwyn i refferendwm ddigwydd, rhaid cael deddfwriaeth newydd i gynnwys manylion fel: 

  • dyddiad y refferendwm
  • cwestiwn y refferendwm
  • y rheolau manwl ar gyfer cynnal y refferendwm
  • y rheolau manwl sy’n gymwys i ymgyrchwyr cofrestredig

Refferendwm Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 3 Mawrth 2011

Ym mis Chwefror 2010, pleidleisiodd Cynulliad Cenedlaethol Cymru o blaid cynnal refferendwm yng Nghymru ar bwerau deddfu’r Cynulliad. Refferendwm Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 yw hwn, gyda rhai rheolau neilltuol sydd wedi’u gosod yn Neddf Llywodraeth Cymru.

Mae’r rheolau manwl ar gyfer y refferendwm wedi cael eu cynnwys mewn Gorchymyn, sy’n nodi sut dylai’r refferendwm gael ei gynnal.

Mae’r Gorchymyn hefyd yn gosod dyddiad y refferendwm fel 3 Mawrth 2011, ac yn cynnwys y cwestiwn refferendwm. Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru wedi ymgynghori â ni ar y cwestiwn arfaethedig, ac wedi derbyn y fersiwn wedi’i hailddrafftio a awgrymwyd gennym, sydd wedi ei gynnwys yn y Gorchymyn.

Refferendwm arfaethedig ar draws y Deyrnas Unedig: 5 Mai 2011

Cyflwynwyd Mesur y System Bleidleisio Seneddol ac Etholaethau i’r Senedd ym mis Gorffennaf 2010. Mae’n cyflwyno cynlluniau Llywodraeth y Deyrnas Unedig i gynnal refferendwm ar 5 Mai 2011 ar newid y system bleidleisio ar gyfer ethol ASau i Senedd y Deyrnas Unedig.

Mae’r Mesur yn cynnwys y rheolau ar gyfer rhedeg y refferendwm a’r rheolau ar gyfer ymgyrchwyr sydd eisiau cymryd rhan. Mae hefyd yn cynnwys cwestiwn arfaethedig y Llywodraeth, yr aseswyd gennym i weld p’un ai a oedd pleidleiswyr yn gallu ei ddeall. Rydym wedi cyhoeddi ein hadroddiad ar y cwestiwn, ac rydym wedi cynnig sut gellid ei wneud yn fwy rhwydd i’w ddarllen.

Refferenda lleol

Nid yw Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 yn trafod refferenda lleol, gan gynnwys refferenda maerol; Deddf Llywodraeth Leol 2000 sy’n delio â hyn.


Read in English >

Yn ôl i hafan Cymru