Quick links

Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu

Read in English / Tudalen Saesneg

Gwybodaeth i bleidleiswyr

Ar 15 Tachwedd 2012, cynhaliwyd etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu cyntaf un ar draws Cymru a Lloegr (ac eithrio Llundain).

Adroddiad ar etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu

Ein hadroddiad ar etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu (CHTh) sy’n dangos mai dim ond un o bob pump o bobl oedd wedi derbyn digon o wybodaeth i wneud penderfyniad gwybodus.

Rydym hefyd wedi argymell newidiadau sylweddol sydd eu hangen cyn etholiadau nesaf CHTh yn 2016.

Darllenwch yr adroddiad (PDF) | Darllenwch y datganiad i'r wasg

Canlyniadau etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu

Cafodd canlyniadau ar gyfer yr etholiadau CHTh eu cyhoeddi a’u coladu gan bob Swyddog Canlyniadau Ardal Heddlu, ac maent ar gael ar wefan Dewis fy CHTh y Swyddfa Gartref.

Ymgeiswyr ac asiantau

Bellach, rydym wedi cyhoeddi’r holl gyfarwyddiadau i ymgeiswyr ac asiantau yn etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu.

Gweinyddwyr etholiadol

Mae’r wybodaeth ddiweddaraf ar gyfer gweinyddwyr fydd yn rhedeg etholiad Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu ar gael ar ein tudalen we: Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu

Rhagor o wybodaeth

Gwybodaeth gefndirol ar etholiadau CHTh

Os hoffech wybod mwy am unrhyw agwedd o’r etholiadau CHTh, mae ein briff i’r cyfryngau yn rhoi amryw o wybodaeth defnyddiol ynghŷd ag esboniad o’n rôl ni yn yr etholiadau newydd yma.

Ein cyfarwyddyd ar etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu

Cyhoeddwyd cyfarwyddyd gennym ym mis Medi yn nodi’r camau sydd angen eu cymryd i sicrhau bod etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu yn cael eu rhedeg yn dda. 

Cyhoeddwyd cyfarwyddiadau gennym hefyd, a amlinellodd ein barn am elfennau pwysig o Fesur Diwygio’r Heddlu a Chyfrifoldeb Cymdeithasol mewn cysylltiad â’r etholiadau hyn. Gwnaed hyn yn ystod y drafodaeth am y Mesur yn Nhŷ’r Cyffredin a Thŷ’r Arglwyddi.