Rydym yn chwarae rôl bwysig mewn refferenda yn y Deyrnas Unedig, sydd wedi’i amlinellu yn Neddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000.
Rydym yn gyfrifol am:
- sylwebu ar intelligibility of the referendum question (PDF) (Saesneg yn unig) gan ddefnyddio ein question assessment guidelines (PDF)
- cofrestru sefydliadau sydd eisiau ymgyrchu yn y refferenda fel 'cyfranogwyr a ganiateir'
- monitro gwariant ar yr ymgyrch wrth ddynesu at y refferenda yn unol â chyfyngiadau ar wariant y refferendwm a osodwyd gan PPERA
- ystyried penodi prif grwpiau ymgyrchu sy’n cael eu hadnabod fel sefydliadau dynodedig ar naill ochr yr ymgyrch
- sicrhau bod gan sefydliadau dynodedig (os ydynt yn cael eu penodi) fynediad at fathau penodol o gymorth
- cynhyrchu adroddiad ar wariant ar ymgyrch y refferendwm
- cynhyrchu adroddiad ar weinyddu refferendwm
Mae refferenda yn wahanol i etholiadau, gan mai’r Comisiwn sy’n gyfrifol am gynnal unrhyw refferendwm, yn unol â rheolau Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000.
Cadeirydd y Comisiwn (neu rywun a benodir ganddo ef neu ganddi hi) fydd y Prif Swyddog Cyfrif, fydd yn:
- penodi Swyddog Cyfrif ar gyfer pob awdurdod lleol o fewn ardal y refferendwm
- sicrhau cywirdeb y canlyniad cyffredinol a’n ei gyhoeddi
Darllenwch mwy ar y dudalen Prif Swyddog Cyfrif neu ewch i’n tudalen refferenda os hoffech ragor o wybodaeth ynghylch refferenda.
Ein gwaith ar refferenda
Rydym wedi adolygu ein polisïau a’n hagwedd at refferenda, gan fod peth amser wedi mynd heibio ers y cynhaliwyd refferendwm olaf Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 yn 2004. Roeddem eisiau sicrhau ein bod ni wedi ystyried y gwersi a ddysgwyd o’r profiad hwnnw wrth baratoi ar gyfer unrhyw refferendwm yn y dyfodol. Rydym wedi cyhoeddi crynodeb o’n barnau a’r egwyddorion y byddwn ni’n eu defnyddio i wneud penderfyniadau mewn meysydd lle mae gennym rôl mewn cynnal refferendwm.
Yn ddiweddar, rydym hefyd wedi rhoi tystiolaeth i ymchwiliad y Pwyllgor Cyfansoddiadol am refferenda yn Nhŷ’r Arglwyddi.
