Quick links

Monitro ymgyrchu: Refferendwm Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Cymru landing page - people outside building
Fel rheolydd annibynnol cyllid pleidiau ac etholiadau (Saesneg yn unig), sy’n cynnwys cyllid refferendwm, rydym yn sicrhau fod ymgyrchwyr refferendwm, yn cynnwys ei gwirfoddolwyr niferus, yn deall a dilyn y rheolau (Saesneg yn unig)

Rydym yn darparu cefnogaeth a chyfarwyddyd i’w helpu i wneud hyn, ac asesu’r data ariannol maent yn eu darparu. I sicrhau tryloywder a chynnal hyder cyhoeddus fod y gyfraith ar wariant yn cael ei dilyn, byddwn yn cyhoeddi gwybodaeth ariannol ymgyrchwyr refferendwm ar adran cofrestri cyhoeddus ein gwefan (Saesneg yn unig).

Mae monitro cydymffurfio â rheolau gwariant refferendwm yn rhan o’n cylch gwaith statudol. Fel rhan o’n gwaith ar gyfer y refferendwm ar bwerau deddfu Cynulliad Cenedlaethol Cymru, byddwn yn ymgymryd â rhaglen o fonitro’r ymgyrch.

Pwrpas y gwaith hwn yw hyrwyddo cydymffurfio â’r gyfraith trwy:

  • godi ymwybyddiaeth endidau a reolir o’r rheolau, a’n rôl yn eu cymhwyso;
  • gael gwybodaeth am weithgaredd ymgyrchu y gall y comisiwn gyfeirio ati wrth adolygu ffurflenni gwariant ar yr ymgyrch; a
  • dynodi materion sy’n ymddangos a chyfleoedd i ni gynnig yn rhagweithiol gyngor a chyfarwyddyd i’r rheiny sy’n cyfranogi

Byddwn yn monitro gweithgaredd ymgyrchu ar draws Cymru, yn cynnwys ymgyrchu gan ymgyrchwyr cofrestredig a phrif grwpiau ymgyrchu dynodedig. Pwrpas y gweithgaredd hwn yw archwilio a gwerthuso’r mathau o ymgyrchu ar-lein, yn cynnwys ymdriniaeth y wasg a’r we o ddigwyddiadau cysylltiedig parhaus.

Mae’n gwaith monitro’n cynnwys gweithgaredd y wasg ac ar-lein, hysbysebion ymgyrchu mewn papurau newydd, ac ar wefannau, gyda monitro parhaus o wefannau perthnasol fel gwefannau papurau newydd, YouTube, Twitter a blogiau. Bydd ein rhaglen monitro’r ymgyrch yn cychwyn ar draws Cymru yn Rhagfyr 2010 ac yn rhedeg tan ddiwrnod y bleidlais. Cyhoeddir adroddiad ar wariant ymgyrchu ar ôl y refferendwm.

I ddysgu mwy am ein gweithgareddau monitro, cysylltwch a'n llinell gwybodaeth cyllid pleidiau ac etholiadau ar 0207 271 0616 neu ebostiwch ni.


Read in English/ Darllenwch y Saesneg

Yn ôl i hafan Cymru