Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod ein gwefan yn hygyrch i bawb.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu awgrymiadau ynghylch hygyrchedd y wefan hon, cysylltwch â ni .
Os hoffech gymorth i addasu eich golwg o’r wefan hon, ewch i wefan iaith Saesneg y BBC My Web My Way, a’r wefan iaith Saesneg My Computer, My Way.
Newid maint y testun
Mae gan y rhan fwyaf o borwyr y gallu i newid maint y testun ar y sgrin i lefel sy’n gyffyrddus i chi.
Mae’r teclyn hwn ar gael yn newislen amryw o borwyr fel a ganlyn:
| Porwr | Cyfarwyddiadau |
|---|---|
| Internet Explorer 7 (PC) | Tudalen > Chwyddo |
| Internet Explorer 5, 5.5, 6 (PC) | Gweld> Maint Testun |
| Firefox, Netscape 8 | Gweld > Maint testun |
| Opera | Gweld > Chwyddo |
| Netscape 6, 7, Mozilla | Gweld > Chwyddo Testun |
| Safari (Mac) | Gweld > Cynyddu Maint Testun |
Fel arall, os ydych yn defnyddio porwr modern ac â llygoden gydag olwyn, gallwch hefyd newid maint y testun drwy ddal y botwm ctrl (PC) neu command (Mac) i lawr ar eich bysellfwrdd a sgrolio i fyny ac i lawr gydag olwyn y llygoden.
Allweddi mynediad
Pwrpas yr allwedd mynediad yw caniatáu i chi fynd o amgylch y safle heb ddefnyddio eich llygoden i bwyso ar ddolenni.
Drwy ddefnyddio eich bysellfwrdd, mae’n bosibl neidio’n syth i rai dolenni neu rai rhannau o fewn tudalen, heb orfod symud eich llygoden o gwbl.
- IE (PC, yn cynnwys IE 7): Daliwch alt i lawr, pwyswch yr allwedd mynediad, rhyddhewch, pwyswch enter.
- IE, safari (MAC): Daliwch ctrl i lawr, pwyswch yr allwedd mynediad.
- Firefox, Netscape: Daliwch alt i lawr, pwyswch yr allwedd mynediad.
- Opera: Daliwch shift i lawr, pwyswch escape, rhyddhewch, pwyswch yr allwedd mynediad.
| Pwrpas | Allwedd mynediad |
|---|---|
| Osgoi’r gwe-lywio | S |
| Manylion allwedd mynediad | 0 |
| Hafan | 1 |
| Map safle | 3 |
| Chwilio | 4 |
| Cwestiynau a Ofynnir yn Aml | 5 |
| Telerau ac amodau | 8 |
| Ffurflen adborth | 9 |
Defnyddio’r botwm tab
Gallwch ddefnyddio’r botwm Tab ar eich bysellfwrdd i symud rhwng dolenni ar dudalen. Mae pwyso unwaith ar y botwm Tab yn tynnu sylw at y ddolen nesaf, mae Shift+Tab yn tynnu sylw at y ddolen flaenorol.
Pan rydych yn defnyddio’r botwm Tab i symud rhwng dolenni ar ein gwefan, byddwch yn cael eich tywys drwyddynt yn y drefn ganlynol:
- prif gynnwys
- llywio eilaidd
- llywio ategol
- troedyn – llywio’r bar tools
- llywio pennyn
- pennyn – llywio’r bar tools
- llywio cynradd
Mae pob ffurflen yn dilyn dilyniant Tab rhesymegol.
Dolenni
Mae dolenni i ffeiliau (er enghraifft, ffeiliau PDF a dogfennau Microsoft Word) yn agor mewn ffenestr newydd bob amser.
Mae pob ymdrech wedi cael ei wneud i sicrhau bod enwau dolenni yn wahanol ac nad ydynt yn cael eu hailadrodd ar dudalen.
Cyferbyniad
Rydym wedi gwneud pob ymdrech i sicrhau ein bod ni wedi defnyddio digon o gyferbyniad ar ein gwefan, ond os ydych yn sylwi ar unrhyw gyfuniadau lliw sy’n achosi problemau i chi, cysylltwch â ni.
Cydymffurfio â safonau
- Lle bynnag posibl, mae ein tudalennau yn cydymffurfio, o leiaf, gyda chydymffurfiath Level AA (gwefan iaith Saesneg) fel y nodir yn Web Content Accessibility Guidelines (gwefan iaith Saesneg) ac fel y cefnogir gan Royal National Institute for the Blind (RNIB) (gwefan iaith Saesneg). Mae’r mwyafrif o ofynion AAA (tudalen iaith Saesneg) yn cael eu cwrdd hefyd.
- Rhaid defnyddio technegau CSS wrth lunio ein gwefan i sicrhau cydymffurfiaeth ar draws porwyr, sy’n gallu achosi problemau dilysu. Fodd bynnag, rydym wedi sicrhau nad yw’r technegau rydym yn eu defnyddio yn niweidiol i hygyrchedd y safle.
- Rydym yn ceisio glynu at ofynion Deddf Diogelu Data (DDA) 1995 (tudalen iaith Saesneg) o ran darparu gwasanaethau ar-lein, yn unol â’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol .
