Logo

Y corff annibynnol sy'n goruchwylio etholiadau a rheoleiddio cyllid gwleidyddol yn y DU

Dewislen yr adran

Ymgyrchwyr mewn Refferenda

Mae'n rhaid i ymgyrchwyr deiseb adalw ddilyn rheolau ar wariant, roddion ac adrodd yn y cyfnod cyn refferendwm. Rydym yn rheoleiddio'r rheolau hynny.

Ry'n ni'n cofrestru ymgyrchwyr yn Refferendwm yr UE ac yn rhoi cyngor a chanllawiau ar y rheolau gwariant a rhoddion sy'n rhaid i ymgyrchwyr ddilyn.

Mae ein canllawiau ar gael i helpu ymgyrchwyr i gydymffurfio gyda'r rheolau. Does dim rhaid i chi ddilyn y canllawiau hyn, ond os gwnewch, byddwch fel arfer yn gwneud digon i gydymffurfio gyda'r gyfraith.

Cynhaliwyd Refferendwm ar aelodaeth y DU o'r Undeb Ewropeaidd ar 23 Mehefin 2016.

Mae ein canllawiau ar gyfer y digwyddiad wedi'i osod isod. I gael mwy o wybodaeth ar y refferendwm, gweler

Canllawiau i ymgyrchwyr ar gyfer y refferendwm ar aelodaeth y Deyrnas Unedig o'r Undeb Ewropeaidd

Ymgyrchwyr arweiniol dynodedig

Mae gan y Comisiwn Etholiadol ddyletswydd statudol i benodi grwpiau ymgyrchu arweiniol dynodedig ar gyfer pob ochr o ymgyrch y refferendwm neu ar gyfer un ochr yn unig. Bydd yr ymgyrchydd dynodedig yn gweithredu fel y grŵp ymgyrchu arweiniol ar ran y rhai sy'n ymgyrchu dros y canlyniad hwnnw.

Rydym wedi dynodi The In Campaign Ltd fel y prif ymgyrchydd ar gyfer canlyniad Aros a Vote Leave Ltd fel y prif ymgyrchydd ar gyfer canlyniad Gadael yn refferendwm ar aelodaeth y DU o'r Undeb Ewropeaidd.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y broses ddynodi yma: Proses dynodi ar gyfer Refferendwm yr UE (PDF).

Cychwyn cyfnod y refferendwm

Mae cyfnod ymgyrchu ffurfiol a elwir yn gyfnod y refferendwm pan fydd y rheolau ar wariant yn gymwys. Mae cyfnod y refferendwm yn dechrau ar 15 Ebrill ac yn dod i ben ar y diwrnod pleidleisio sef 23 Mehefin.

Ni chewch wario mwy na £10,000 ar ymgyrchu yn ystod cyfnod y refferendwm, oni bai eich bod wedi cofrestru â ni i fod yn ‘ymgyrchydd cofrestredig’ cyn gwneud hynny.

Adrodd cyn y bleidlais

Yn y cyfnod cyn y refferendwm, rhaid i ymgyrchwyr cofrestredig (heb gynnwys pleidiau gwleidyddol cofrestredig, ond gan gynnwys pleidiau llai) roi gwybod i ni am roddion a benthyciadau penodol. Gelwir hyn yn adrodd cyn y bleidlais.

Y cyfnod adrodd cyn y bleidlais cyntaf ar gyfer ymgyrchwyr cofrestredig yw 1 Chwefror - 21 Ebrill 2106. Y dyddiad cau ar gyfer yr adroddiad cyn y bleidlais cyntaf yw 28 Ebrill 2016.

Mae rhagor o wybodaeth am adroddiadau cyn y bleidlais ar ein gwefan. Y dyddiadau adrodd cyn y bleidlais ar gyfer ymgyrchwyr cofrestredig yw:

Diweddariadau

Rydym yn cyhoeddi cyfres o ddiweddariadau i'ch hysbysu'n rheolaidd am y Refferendwm a phryd fyddwn yn cyhoeddi mwy o ganllawiau.

Cofrestrwch i dderbyn diweddariadau drwy e-bost

Diweddariadau rheolaidd ar gyfer ymgyrchwyr refferendwm

Diweddariad i ymgyrchwyr refferendwm rhif 10 – 30 Mehefin 2016 (PDF)

  • refferendwm ar aelodaeth y DU o'r Undeb Ewropeaidd
  • talu anfonebau ar gyfer gwariant ymgyrchu a hawl i dalu
  • cofnod o ddim gwariant
  • dyddiadau cau adrodd ymgyrchu
  • ymgyrchwyr refferendwm anghofrestredig
  • ble gallwch chi gael mwy o wybodaeth

Diweddariad i ymgyrchwyr refferendwm rhif 9 – 11 Mai 2016 (PDF)

  • mynychu'r digwyddiad cyfrif cenedlaethol
  • Digwyddiad briffio'r Prif Swyddog Cyfrif i ymgyrchwyr
  • adrodd cyn y bleidlais
  • argraffnodau
  • cydweithio
  • ble y gallwch gael rhagor o wybodaeth

Diweddariad i ymgyrchwyr refferendwm rhif 8 – 13 Ebrill 2016 (PDF)

  • penodi ymgyrchwyr arweiniol dynodedig
  • dechrau cyfnod y refferendwm
  • cofrestr o ymgyrchwyr

Diweddariad i ymgyrchwyr refferendwm rhif 7 – 31 Mawrth 2016 (PDF)

  • amserlen y refferendwm
  • canllawiau i ymgyrchwyr
  • cofrestru fel ymgyrchydd
  • grwpiau ymgyrchu arweiniol dynodedig
  • llyfryn gwybodaeth i'r cyhoedd ar Refferendwm yr UE
  • ble y gallwch gael rhagor o wybodaeth

Diweddariad i ymgyrchwyr refferendwm rhif 6 – 26 Chwefror 2016 (PDF)

Mae'r diweddariad hwn wedi cael ei ddiwygio i gywiro'r dyddiad adrodd cyn y bleidlais o 29 Ebrill i 28 Ebrill.

  • dyddiadau allweddol y refferendwm
  • gwasanaeth cyngor a chanllawiau
  • cyfnod y refferendwm ac etholiadau mis Mai
  • cyfyngiadau ar

Diweddariad i ymgyrchwyr refferendwm rhif 5 – 26 Ionawr 2016 (PDF)

  • statws y Ddeddf a'r rheolau i ymgyrchwyr
  • canllawiau i ymgyrchwyr
  • cofrestru fel ymgyrchydd
  • adrodd cyn y bleidlais
  • rhoddion a benthyciadau

Diweddariad i ymgyrchwyr refferendwm rhif 4 – 21 Gorffennaf 2015 (PDF)

  • Statws yDdeddf
  • sut rydym yncyhoeddi ein canllawiau
  • Etholiadau Mai2016: etholiadau Senedd yr Alban, Cynulliad Cenedlaethol Cymru a Chynulliad Gogledd Iwerddon.
  • cyfrifpleidleisiau yn refferendwm yr UE

Diweddariad i ymgyrchwyr refferendwm rhif 3 – 4 Tachwedd 2015 (PDF)

  • grwpiau ymgyrchu arweiniol dynodedig
  • rôl y Comisiwn yn y broses ddynodi
  • y cyfnod gwneud cais am ddynodiad
  • sut y caiff y penderfyniad dynodi ei wneud

Diweddariad i ymgyrchwyr refferendwm rhif 2 – 7 Hydref 2015 (PDF)

  • statws y Bil
  • cwestiwn y refferendwm
  • cofrestru
  • gwariant ar y refferendwm

Diweddariad i ymgyrchwyr refferendwm rhif 1 - 16 Gorffennaf 2015 (PDF)

  • crynodeb o'n rôl yn y refferendwm
  • gwybodaeth sylfaenol ynghylch y refferendwm
  • ble allwch chi gael mwy o wybodaeth

Cysylltwch â ni

Os oes gennych unrhyw ymholiadau am ein canllawiau cysylltwch â ni ar 0333 103 1929 neu drwy e-bost pef@electoralcommission.org.uk.

Ar gyfer ymholiadau'r wasg a'r cyfryngau cysylltwch â swyddfa'r wasg: 020 7271 0704 neu drwy e-bost: press@electoralcommission.org.uk.

Cyflwyniadol

Cyflwyniad i refferendwm

Mae’r rhan hon yn cynnwys:

  • Beth yw refferendwm
  • Beth sy'n digwydd pan gynhelir refferendwm
  • Pwy sy'n gwneud beth

Cyflwyniad i refferendwm (PDF)

Trosolwg

Ymgyrchu a chofrestru ar gyfer ymgyrchwyr Refferendwm yr UE

Trosolwg

Gwariant ar gyfer ymgyrchwyr Refferendwm yr UE

Mae’r rhan hon yn cynnwys:

  • Beth yw gwariant ar refferendwm
  • Rheoli gwariant ar refferendwm
  • Cofnodi gwariant ar refferendwm
  • Adrodd ar wariant ar refferendwm

Gwariant ar gyfer ymgyrchwyr Refferendwm yr UE (PDF) – Diweddarwyd 28 Ebrill 2016

Refferendwm y UE ac etholiadau Mai 2016 (PDF)

Taflen ffeithau: Rheolau gwariant Refferendwm yr UE – yr effaith bosibl ar weithgareddau eich sefydliad (PDF) – Diweddarwyd 14 Ebrill 2016

Papurau arbenigol: Rhannu gwariant ar ymgyrchu (PDF)

Sefyllfaoedd a Gweithdrefnau

Cydweithio ar gyfer ymgyrchwyr Refferendwm yr UE

Mae’r rhan hon yn cynnwys:

  • Cydweithio ag ymgyrchwyr refferendwm eraill
  • Yr hyn sydd ac nad yw'n wariant ar y refferendwm
  • Adrodd ar ôl y refferendwm

Cydweithio ar gyfer ymgyrchwyr Refferendwm yr UE (PDF)

Sefyllfaoedd a Gweithdrefnau

Adrodd cyn y bleidlais ar gyfer ymgyrchwyr Refferendwm yr UE

Mae’r rhan hon yn cynnwys:

  • Amserlen adrodd cyn yr etholiad
  • Beth yw rhoddion a benthyciadau
  • Beth sydd angen i chi roi gwybod amdano

Sefyllfaoedd a Gweithdrefnau: Adrodd cyn y bleidlais ar gyfer ymgyrchwyr Refferendwm yr UE (PDF)

Trosolwg

Rhoddion a benthyciadau ar gyfer ymgyrchwyr Refferendwm yr UE

Mae’r rhan hon yn cynnwys:

  • Beth sy'n cyfrif fel rhodd
  • Derbyn rhoddion
  • Beth a olygwn gan fenthyciadau
  • Pwy all fod yn fenthyciwr
  • Cynnal gwiriadau i gadarnhau a yw rhoddwyr neu fenthycwyr yn rhai a ganiateir
  • Cofnodi rhoddion a benthyciadau a rhoi gwybod amdanynt

Trosolwg: Rhoddion ar gyfer ymgyrchwyr Refferendwm yr UE (PDF)

Trosolwg: Benthyciadau ar gyfer ymgyrchwyr Refferendwm yr UE (PDF)

Sefyllfaoedd a Gweithdrefnau: Caniatâd ar gyfer ymgyrchwyr Refferendwm yr UE (PDF)

Sefyllfaoedd a Gweithdrefnau

Proses dynodi ar gyfer Refferendwm yr UE

Mae’r rhan hon yn cynnwys:

  • Sut y dynodir ymgyrchwyr arweiniol
  • Y cyfnod gwneud cais
  • Y cyfnod dynodi a'r prosesau
  • Buddiannau grwpiau ymgyrchu arweiniol dynodedig

Sefyllfaoedd a Gweithdrefnau: Proses dynodi ar gyfer Refferendwm yr UE (PDF)

Trosolwg

Asiantiaid yn refferendwm yr UE

Plaid neu ymgyrchydd