Rydym yn gorff annibynnol a sefydlwyd gan Senedd y DU. Ein nod yw hygrededd y broses ddemocrataidd a hyder y cyhoedd ynddi. Rydym yn rheoleiddio cyllid pleidiau ac etholiadau ac yn gosod safonau ar gyfer etholiadau a gynhelir yn dda.
Ein hamcanion
Tryloywder a hygrededd cyllid pleidiau ac eholiadau
Etholiadau, refferenda a chofrestru etholiadol gynhelir yn dda
Rydym yn:
- cofrestru pleidiau gwleidyddol
- sicrhau bod pobl yn deall ac yn dilyn y rheolau ar gyllid pleidiau ac etholiadau
- cyhoeddi manylion am lle mae pleidiau ac ymgeiswyr yn cael eu harian a sut maent yn ei wario
- gosod y safonau ar gyfer cofrestru etholiadol a chynnal etholiadau ac adrodd ar ba mor dda y gwneir hyn
- sicrhau bod pobl yn deall ei fod yn bwysig cofrestru i bleidleisio, ac yn gwybod sut i bleidleisio
- cynnal unrhyw refferenda yn unol â Deddf Pleidiau Gwleidyddol ac Etholiadau 2000
Lawrlwythwch ffeithlen ar eich rôl a’n gweithgareddau yma (PDF)
Ein cynllun corfforaethol a’n hadroddiadau blynyddol
Mae ein cynllun corfforaethol yn nodi’n blaenoriaethau ar gyfer y pum mlynedd nesaf a’r gweithgareddau yr ydym wedi’u cynllunio er mwyn cyflawni ein nod a’n hamcanion. Rydym yn adrodd yn flynyddol ar gyflawniad yn erbyn ein cynllun corfforaethol ac ar ein hadnoddau.
- Cynllun corfforaethol 2010-11 to 2014-15 (PDF)
- Ein cyflawniadau yn 2009-10 (PDF)
- Ein cyfrifon 2009-10 (PDF - Saesneg yn unig)
Gallwch weld ein holl gynlluniau corfforaethol, adroddiadau blynyddol a chyfrifon adnoddau ar ein tudalen cyhoeddiadau corfforaethol.
Sut ydym yn cael ein rhedeg
Rydym wedi ein harwain gan chwe Chomisiynydd a’n cefnogi gan Brif Weithredwr, tîm Gweithredol a gweithlu o oddeutu 150 o gyflogeion.
Diweddariad
Mae Senedd y DU wedi cymeradwyo cynnig i benodi pedwar Comisiynydd Etholiadol newydd, yn dilyn proses ddethol wedi’i goruchwylio gan Bwyllgor y Llefarydd. Cewch wybod mwy yn ein datganiad newyddion (Saesneg yn unig).
Mae ein siart trefniadaeth yn nodi ein strwythur (PDF - Saesneg yn unig)
Ein swyddfa yng Nghymru
Rydym yn gyfrifol am ddelio â holl swyddogaethau’r Comisiwn yng Nghymru. Mae ein cylch gwaith yn cynnwys holl etholiadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru, etholiadau Senedd Ewrop a’r DU ac etholiadau llywodraeth leol.
Nod allweddol arall yw sicrhau bod barnau budd-ddeiliaid Cymru, gan gynnwys y cyhoedd, aelodau etholedig a swyddogion Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Llywodraeth Cynulliad Cymru, Swyddfa Cymru, yr awdurdodau lleol a chyrff perthnasol o’r sectorau cyhoeddus a gwirfoddol, yn cyfrannu at holl agweddau o’n gwaith. Bydd hyn yn sicrhau bod gweithdrefnau ac arferion sy’n benodol i Gymru yn cael eu cymryd i ystyriaeth, a’u hadlewyrchu mewn gweithgareddau ar draws y Comisiwn.
Yn ogystal, rydym yn gweithredu fel pwynt cyfeirio ar gyfer etholwyr yng Nghymru. Rydym ar gael i ateb ymholiadau a cheisiadau am gyngor ar faterion etholiadol gan y cyhoedd a sefydliadau perthnasol.
Mae ein tîm yn gweithio’n agos gyda chydweithwyr yn swyddfeydd eraill y Comisiwn ar draws ar DU sy’n cynnwys bod yn gyfrifol am brosiectau penodol drwy’r DU cyfan fel bo’n briodol.
