Quick links

Adnoddau i’r rheiny yr ydym yn eu rheoleiddio

Read in English/ Tudalen Saesneg

Trosolwg

Byddwch yn dod o hyd i wybodaeth ar y dudalen hon i egluro sut ydym yn darparu gwasanaethau cyngor a chyfarwyddyd ar gyfer y cymdeithasau a’r unigolion yr ydym yn eu rheoleiddio.

Ein rôl rheoleiddio yw hyrwyddo hygrededd a thryloywder cyllid pleidiau ac etholiadau.  Os ydych yn edrych am wybodaeth gefndirol ynghylch y gyfraith sy’n tanategu ein rôl rheoleiddio, ewch i’r dudalen party and election finance (Saesneg yn unig).

Cael mynediad i’n hadnoddau Cymraeg

Gallwch gael mynediad i’n holl adnoddau rheoleiddio Cymraeg trwy bwyso ar y dolenni yn yr adran ‘Canfod Gwybodaeth’ isod.

Rydym yn gwella ein mynediad i’n hadnoddau Cymraeg.  Darllenwch ynghylch ein hymrwymiad i ddarparu ein gwasanaethau trwy gyfrwng y Gymraeg yn ein Cynllun Iaith Gymraeg (PDF).

Canfod Gwybodaeth

Os ydych chi’n edrych am gyfarwyddyd a ffurflenni i’ch cynorthwyo chi i gydymffurfio â’r gyfraith ar gyllid pleidiau ac etholiadau, gweler y dudalen cyfarwyddyd perthnasol:

Ymholiadau

Darllenwch fwy ynghylch ein gwasanaeth ymholiadau...

Os ydym yn eich rheoleiddio, a’ch bod chi angen cyngor wedi’i deilwra neu rhagor o gymorth, anfonwch e-bost at pef@electoralcommission.org.uk neu ffoniwch ni ar 020 7271 0616.

Os hoffech gymorth gan swyddfeydd y Comisiwn yn yr Alban, Cymru neu Ogledd Iwerddon, cysylltwch â:

Swyddfa Yr Alban drwy anfon e-bost i infoscotland@electoralcommission.org.uk neu drwy ffonio 0131 225 0200

Swyddfa Cymru drwy anfon e-bost i infowales@electoralcommission.org.uk neu drwy ffonio 029 2034 6800

Swyddfa Gogledd Iwerddon drwy anfon e-bost i infonorthernireland@electoralcommission.org.uk neu drwy ffonio 028 9089 4020

Tudalennau cyfarwyddyd ar y wefan

Darllenwch fwy ynghylch ein gwasanaethau cyngor a chyfarwyddyd ...

Tudalennau cyfarwyddyd ar y wefan

Rydym yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf ar y newidiadau rheoleiddio ac ar y newidiadau sy’n effeithio ar ein budd-ddeiliaid yn adran ‘Y diweddaraf’, sydd i’w gweld ar bob tudalen cyfarwyddyd.

Gallwch gael mynediad i’n ffurflenni a’n cyfarwyddyd ysgrifenedig cyfredol trwy’r tudalennau hyn.

Ffurflenni a chyfarwyddyd ysgrifenedig

Rydym yn darparu cyfarwyddyd ysgrifenedig, ffurflenni statudol a nodiadau eglurhaol i’ch cynorthwyo chi i lenwi ffurflenni statudol. Mae’r rhan fwyaf o’n dogfennau’n cael eu cynhyrchu ar ffurf pdf, ond mae rhai yn cael eu cynhyrchu ar ffurf excel neu word. Os ydych chi’n cael unrhyw anawsterau wrth lawrlwytho ein cyfarwyddyd a’n ffurflenni, cysylltwch â ni drwy’r gwasanaeth ymholiadau.

Yn ddiweddar, rydym wedi adolygu’r cyfarwyddyd yr ydym yn ei ddarparu ar gyfer y rheiny yr ydym yn eu rheoleiddio, ac fe fyddwn yn cyflwyno steil newydd o gyfarwyddyd dros y flwyddyn nesaf. Rydym yn gwneud y newidiadau hyn i’w gwneud hi’n fwy rhwydd i chi i ddod o hyd i’r wybodaeth benodol rydych chi’n edrych amdano, ac i wneud ein cyfarwyddyd yn glir a’n ddealladwy

 

Hyfforddiant

Gallwn ddarparu hyfforddiant ar gais.

Cyflwyno ein cyfarwyddyd steil newydd

Rydym wedi cynhyrchu ein cyfarwyddyd mewn fformat newydd, sy’n fwy cyfeillgar i’r defnyddwyr.  Mae wedi’i drefnu mewn cyfres o ddogfennau bychain, sy’n cysylltu â’i gilydd, sy’n dod yn fwy cymhleth wrth i chi symud o gyflwyniad at bapurau mwy arbenigol.

  • Mae Cyflwyniadau yn berthnasol i bawb.  Defnyddiwch gyflwyniad i’ch cynorthwyo chi i ddeall y pwnc a dewiswch y dogfennau sy’n berthnasol i chi.
  • Mae’r trosolwg a’r sefyllfaoedd a gweithdrefnau yn darparu gwybodaeth fanwl i gwrdd ag anghenion y rhan fwyaf o ddarllenwyr.  Defnyddiwch y dogfennau hyn i’ch tywys chi drwy’r gofynion adrodd, neu i wella eich dealltwriaeth o faterion, prosesau neu ddigwyddiadau etholiadol penodol.
  • Cyfarwyddyd manwl yw papurau arbenigol sy’n trafod materion mwy anodd.  Ni fydd y mwyafrif o bobl a sefydliadau angen cyn gymaint o fanylder â hyn.
  • Rydym hefyd yn cynhyrchu ffurflenni a nodiadau eglurhaol i’ch cynorthwyo chi i gydymffurfio â’r gyfraith.

 Yn ôl i hafan Cymru