Quick links

Unigolion eraill a reoleiddir

Read in English/ Tudalen Saesneg

Trosolwg

Gallwch ddod o hyd i wybodaeth ar y dudalen hon i helpu unigolion a reoleiddir i gydymffurfio â’r rheolau ar roddion a benthyciadau.
Rydym yn rheoleiddio aelodau o bleidiau cofrestredig (yn cynnwys darpar ymgeiswyr) a deiliaid swyddi etholedig, sydd yn

  • Aelodau o Senedd y DU
  • Aelodau o Senedd Ewrop sy’n cynrychioli’r DU
  • Aelodau o Senedd yr Alban
  • Aelodau o Gynulliad Cenedlaethol Cymru
  • Aelodau o Gynulliad Gogledd Iwerddon
  • Aelodau o unrhyw awdurdod lleol yn y DU (ac eithrio cynghorau plwyf neu gymuned), yn cynnwys Cynulliad Llundain
  • Faer Llundain ac yn unrhyw Faer etholedig arall.

Mae’r bobl hyn yn perthyn i gategori o unigolion a sefydliadau a reoleiddir sy’n cael eu hadnabod fel ‘rhoddwyr rheoledig’.  I weld gwybodaeth gefndirol ar roddwyr rheoledig, ewch i’r dudalen legislation on regulated donees. (Saesneg yn unig)

Ewch i’r dudalen gwybodaeth ar adrodd rhoddion a benthyciadau ar gyfer:

Diweddariadau diweddaraf - Cymru

Nid oes dim i’w ddiweddaru ar hyn o bryd

Adrodd rhoddion a benthyciadau

Aelodau o Senedd y Du

Os hoffech gyfarwyddyd ynghylch derbyn rhoddion a chael benthyciadau, gweler Rhoddion a benthyciadau i Aelodau Seneddol: canllaw byr i ffynonellau a ganiateir a dulliau rhoi gwybod (PDF)

Deiliaid swyddi etholedig ac aelodau pleidiau gwleidyddol cofrestredig

O ran rhoddion a benthyciadau a dderbyniwyd ar ôl 1 Ionawr 2010, gwiriwch y caniateir unrhyw roddion a benthyciadau sydd yn werth mwy na £500, a rhowch wybod wrthym am unrhyw roddion na chaniateir.  Rhowch wybod hefyd, am unrhyw roddion neu fenthyciadau sydd yn werth mwy na £1,500.
Mae gennym wahanol ffurflenni a chyfarwyddiadau ar gyfer rhoddwyr rheoledig sydd yn gysylltiedig â phleidiau gwleidyddol sydd wedi cofrestru ar gofrestri Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon.  Gwnewch yn siŵr eich bod yn defnyddio’r ffurflenni a’r cyfarwyddiadau cywir.  Gweler y dogfennau canlynol:

Ffurflenni a Nodiadau eglurhaol

 

Yn ôl i hafan Cymru