Quick links

Ymgeiswyr ac asiantau

Read in English/ Tudalen Saesneg

Trosolwg

Ar y dudalen hon, gallwch gael mynediad i bob un o’n cyfarwyddiadau i ymgeiswyr a'u hasiantau sy’n ymwneud â sefyll mewn etholiad.  Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth i gynorthwyo ymgeiswyr ac asiantau i gydymffurfio â'r rheolau ar wariant ymgyrchu a rhoddion.

Rhwng etholiadau, mae rheolau’n bodoli sy’n ymwneud â rhoi rhoddion i unigolion at ddibenion gwleidyddol. Os ydych yn ddarpar ymgeisydd ac yn aelod o blaid gofrestredig, gwelwch hefyd ein tudalen ar gyfer unigolion rheoleiddiedig.

Ydych chi'n edrych am wybodaeth gefndirol?

Ewch i'r adran Etholiadau o'r wefan (Saesneg yn unig)

Diweddariadau diweddaraf - Cymru

31 Ionawr 2012: Y diweddaraf ar derfynau gwario yn yr Alban

Ewch i’n tudalen gyfarwyddyd ar gyfer etholiadau cyngor Lleol yn yr Alban (saesneg yn unig) i gael y manylion llawn.

17 Ionawr 2012: Cyfarwyddiadau ar gyfer etholiadau 3 Mai 2012

Cyhoeddwyd ein cyfarwyddiadau ar gyfer etholiadau 3 Mai 2012 ddiwedd fis Rhagfyr.  Ewch i’n tudalennau cyfarwyddyd i weld y cyfarwyddiadau canlynol:

Ein canllawiau a ffurflenni

Etholiadau Awdurdod Llundain Fwyaf

Etholiadau llywodraeth leol

Is-etholiadau Senedd y DU

Etholiadau Senedd Ewrop

Rydym yn rheoleiddio gwariant ymgeiswyr nad ydynt yn bleidiau yn ystod cyfnod rheoleiddiedig etholiadau Senedd Ewrop, ac yn darparu ffurflenni a chyfarwyddyd yn ôl y galw.

Roedd y cyfnod rheoleiddiedig ar gyfer etholiadau Senedd Ewrop 2009 yn rhedeg o 5 Chwefror 2009 tan 4 Mehefin 2009. Mae’r dyddiad cau ar gyfer rhoi gwybod am wariant a rhoddion wedi mynd heibio.

Etholiad cyffredinol y DU

Rydym yn rheoleiddio gwariant ymgeiswyr yn ystod cyfnod rheoleiddiedig etholiad cyffredinol y DU ac yn darparu ffurflenni a chyfarwyddyd yn ôl y galw.

Roedd y cyfnod rheoleiddiedig ar gyfer ymgeiswyr yn etholiad cyffredinol y DU 2010 yn rhedeg o 1 Ionawr 2010 tan 6 Mai 2010. Mae’r dyddiad cau ar gyfer rhoi gwybod am wariant a rhoddion wedi mynd heibio.

Etholiadau Senedd yr Alban

Rydym yn rheoleiddio gwariant ymgeiswyr yn ystod cyfnod rheoleiddiedig etholiadau Senedd yr Alban ac yn darparu ffurflenni a chyfarwyddyd yn ôl y galw.

Roedd y cyfnod rheoleiddiedig ar gyfer ymgeiswyr yn etholiadau 2011 yn rhedeg o 6 Ionawr 2011 tan 5 Mai 2011. Mae’r dyddiad cau ar gyfer rhoi gwybod am wariant a rhoddion wedi mynd heibio.

I weld cyfarwyddyd wedi'u harchifo , ewch i Etholiadau Senedd yr Alban (Saesneg yn unig)

Etholiadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Rydym yn rheoleiddio gwariant ymgeiswyr yn ystod cyfnod rheoleiddiedig etholiadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac yn darparu ffurflenni a chyfarwyddyd yn ôl y galw.

Roedd y cyfnod rheoleiddiedig ar gyfer ymgeiswyr yn etholiadau 2011 yn rhedeg o 25 Mawrth tan 5 Mai 2011. Mae’r dyddiad cau ar gyfer rhoi gwybod am wariant a rhoddion wedi mynd heibio.

I weld cyfarwyddyd wedi'u harchifo , ewch i Etholiadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru 

Etholiadau Cynulliad Gogledd Iwerddon

Rydym yn rheoleiddio gwariant ymgeiswyr yn ystod cyfnod rheoleiddiedig etholiadau Cynulliad Gogledd Iwerddon ac yn darparu ffurflenni a chyfarwyddyd yn ôl y galw.

Roedd y cyfnod rheoleiddiedig ar gyfer ymgeiswyr yn etholiadau 2011 yn rhedeg o 25 Mawrth tan 5 Mai 2011. Mae’r dyddiad cau ar gyfer rhoi gwybod am wariant a rhoddion wedi mynd heibio.

 

Yn ôl i hafan Cymru