Gwybodaeth gyffredinol
1. Mae gan y safle fesurau diogelwch i warchod yn erbyn colled, camddefnydd a newid y wybodaeth dan ein rheolaeth. Fodd bynnag, nid ydym yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb dros newid, camddefnyddio neu ddehongli ein data unwaith y mae wedi cael ei roi ar y we fyd-eang
2. Mae ein gwybodaeth ar y we fyd-eang yn amodol ar newid heb rybudd
3. Yn y mannau ble rydym yn darparu dolenni i safleoedd, nid ydym yn cefnogi unrhyw wybodaeth neu farnau sy’n ymddangos ynddynt drwy wneud hyn.
4. Nid ydym yn derbyn atebolrwydd am ddibynadwyaeth unrhyw dudalennau cysylltiedig
5. Mae’r wefan hon yn cael ei llywodraethu gan gyfraith y DU.
Google analytics
Rydym yn defnyddio Google Analytics i gynorthwyo i ddadansoddi ein gwefan. Mae’r teclyn dadansoddol hwn yn defnyddio ‘cwcis’ sef ffeiliau testunol sy’n cael eu gosod ar eich cyfrifiadur, i gasglu gwybodaeth log rhyngrwyd a gwybodaeth sy’n anhysbys am ymddygiad ymwelwyr. Mae’r wybodaeth sy’n cael ei gynhyrchu gan y cwci ynghylch eich defnydd chi o’r wefan (yn cynnwys eich cyfeiriad IP) yn cael ei anfon i Google. Yna, mae’r wybodaeth hwn yn cael ei ddefnyddio i werthuso defnydd ymwelwyr o’r wefan ac i lunio adroddiadau ystadegol ar weithgarwch y wefan ar gyfer y Comisiwn Etholiadol.
Ni fydd y Comisiwn Etholiadol yn defnyddio’r teclyn dadansoddi ystadegol i olrhain neu i gasglu unrhyw wybodaeth bersonol sy’n gallu datgelu’r ymwelwyr i’n gwefan. Ni fyddwn yn cysylltu unrhyw ddata a gasglwyd o’r safle hwn gydag unrhyw wybodaeth bersonol sy’n cael ei gadw gan y Comisiwn i geisio adnabod y defnyddwyr, neu o unrhyw ffynhonnell, wrth ddefnyddio teclyn dadansoddi ystadegol Google. Ni fydd y Comisiwn Etholiadol yn creu cyswllt, nac yn ceisio creu cyswllt, rhwng cyfeiriad IP a defnyddiwr cyfrifiadur.
Gweler Polisi Preifatrwydd Google (gwefan iaith Saesneg) i gael manylion ynghylch sut y mae Google yn delio â’r data hwn.
Data personol
Pwyswch yma i gael gwybodaeth am ein policy on collecting and holding personal information (PDF) (dogfen Saesneg).
