Quick links

Refferendwm ar bwerau deddfu Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Yn yr adran yma:

Adroddiad ar refferendwm Cymru

Rydym ni wedi cyhoeddi ein adroddiad ar y modd y rhedwyd refferendwm 3 Mawrth ynghyd â chanlyniadau ymchwil barn gyhoeddus ar brofiad pleidleiswyr.

Crynodeb o’r adroddiad (PDF) | Adroddiad llawn (PDF) | Darllen ein datganiad i’r wasg (Saesneg)

Canfyddiadau ymchwil

Dyddiad y refferendwm: 3 Mawrth 2011

Ar 9 Chwefror 2010, pleidleisiodd Cynulliad Cymru o blaid cynnal refferendwm yng Nghymru ar bwerau deddfu’r Cynulliad.  Bydd y refferendwm yn cael ei gynnal ar 3 Mawrth 2011.

Mae’r rheolau manwl ar gyfer y refferendwm wedi cael eu gosod mewn deddfwriaeth a gafodd ei basio ym mis Rhagfyr 2010.

Ynghylch y refferendwm: gwybodaeth i bleidleiswyr a’r cyfryngau 

Gwybodaeth i bleidleiswyr

Er mwyn pleidleisio yn y refferendwm, mae’n rhaid eich bod chi wedi cofrestru.  Ewch i’n safle arall, Fy Mhleidlais I, i ddarganfod sut allwch chi bleidleisio ac i lawrlwytho ffurflen gofrestru. 

Gwybodaeth ymgyrchwyr

Gan nad oedd yn bosib dynodi ymgyrchwyr ‘Ydw’ neu ‘Nac ydw’ ar gyfer refferendwm Cynulliad Cenedlaethol Cymru, rydym yn cyhoeddi datganiadau sydd wedi cael eu derbyn gan ymgyrchwyr refferendwm cofrestredig yn egluro eu barnau.

Gwybodaeth i’r cyfryngau

Y cwestiwn refferendwm ac ein hasesiad

Ymgyrchu

Dim 'ymgyrchwyr arweiniol' i Gymru

Nid ydym ni wedi gallu dynodi 'ymgyrchwyr arweiniol' ar gyfer y refferendwm ar bwerau deddfu Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Er bod yr ymgeisydd i fod yn ymgyrchydd arweiniol dros bleidlais 'Ie' yn cynrychioli'r rheiny sy'n ymgyrchu dros y canlyniad yma orau, nid yw'r ymgeisydd ar yr ochr 'Na' yn cwrdd a'r prawf statudol yma. 

Yn ol y gyfraith mae'n rhaid inni ddynodi prif grwpiau ymgyrchu ar gyfer dwy ochr y drafodaeth, neu beidio â dynodi o gwbl. 

Cyfarwyddyd

Cyfyngiadau gwariant

Ysgrifennom at Ysgrifennydd Gwladol Cymru i roi ein barnau ar gyfyngiadau gwariant yn y refferendwm a ddylai fod yn gymwys i refferendwm Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Monitro

Mae monitro cydymffurfiaeth â’r rheolau ar wariant refferendwm yn rhan o’n gorchwyl statudol. Fel rhan o’n gwaith ar gyfer y refferendwm, byddwn yn ymgymryd â rhaglen monitro ymgyrchoedd. 

Cyfrif y pleidleisiau a chyfarwyddiadau’r Prif Swyddog Cyfrif

Mae’r Prif Swyddog Cyfrif wedi gosod ei phenderfyniad ar bryd dylid cyfrif pleidleisiau’r refferendwm, yn dilyn atebion a dderbyniwyd i’n ymgynghoriad ym mis Hydref ar amseriad y cyfrif.

Mae hi hefyd wedi cyhoeddi cyfarwyddiadau ac adnoddau i Swyddogion Cyfrif i sicrhau cysondeb wrth ddosbarthu’r refferendwm.


Read in English

Yn ôl i hafan Cymru