Quick links

News releases

Adroddiad etholiad yn dangos fod pleidleiswyr yn fodlon ond gwersi i’w dysgu

19 Oct 2011

Mae’r Comisiwn Etholiadol, y corff gwarchod etholiadau annibynnol, wedi cyhoeddi ei adroddiad ar etholiadau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru a gynhaliwyd ar 5 Mai 2011.

Dangosodd ein hymchwil fod 90% o bleidleiswyr yn hyderus fod yr etholiad wedi ei redeg yn dda. Roedd 97% o’r rheiny a oedd wedi pleidleisio yn y gorsafoedd pleidleisio a 98% o’r rheiny a oedd wedi pleidleisio drwy’r post yn fodlon â’r profiad. Mae hyn er gwaethaf cyfuniad etholiad y Cynulliad gyda refferendwm ar system bleidleisio Seneddol y DU ar 5 Mai, a gyflwynodd her unigryw i Swyddogion Canlyniadau ar draws Cymru wrth gynllunio a pharatoi.

Hefyd roedd cyfuniad yr etholiadau’n golygu fod gan y cydlyniad a chysondeb a oedd yn eu lle ar gyfer y refferendwm, gan gynnwys gosod terfynau ar y mwyafswm o bleidleiswyr fesul gorsaf bleidleisio a gofyn i orsafoedd pleidleisio fod â staff digonol, fuddiannau ehangach i Etholiadau’r Cynulliad Cenedlaethol ac efallai wedi cyfrannu at lefel uwch o foddhad pleidleiswyr. Hefyd mae’r Comisiwn Etholiadol heddiw wedi cyhoeddi adroddiad manwl ar y refferendwm system bleidleisio Seneddol.

Rydym yn cydnabod fod cyflenwad llyfn yr etholiad wedi cael ei gysgodi i ryw raddau gan waharddiad dau Aelod Cynulliad, ac yn yr adroddiad rydym yn cynnwys adroddiad ar yr hyn a ddigwyddodd; ein hymddiheuriad a’r hyn rydym yn ei wneud i sicrhau nad yw hyn byth yn digwydd eto.

Hefyd cyfeiria ein hadroddiad at fater amseru cyfrif y pleidleisiau a oedd yn fater o bwys i ymgeiswyr, pleidiau gwleidyddol, darlledwyr a staff etholiad yn y cyfnod yn arwain i fyny at 5 Mai. Er nad oes gan y Comisiwn unrhyw rôl mewn pennu amseriad cyfrif pleidleisiau, mae’n glir fod angen ymdrin â’r mater hwn. Bydd y Comisiwn yn gofyn i’r rheiny sydd â diddordeb yn amseriad cyfrif pleidleisiau, fel Swyddogion Canlyniadau, pleidiau gwleidyddol, darlledwyr a phleidleiswyr, am eu barn ar y mater ac rydym yn amcanu at wneud argymhelliad yn hanner cyntaf 2012.

Mater arall oedd fformat y papur pleidleisio rhanbarthol, a oedd wedi’i ddiwygio cyn yr etholiadau hyn. Bydd y Comisiwn Etholiadol yn ystyried y mater hwn ymhellach gyda phartneriaid â diddordeb, a gwneud unrhyw argymhellion angenrheidiol cyn y set nesaf o etholiadau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn 2016.

Meddai Kay Jenkins, Pennaeth Swyddfa Cymru’r Comisiwn Etholiadol:

“Rydym yn falch fod pleidleiswyr yn bositif ynglŷn â’u profiad o bleidleisio yn etholiadau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, yn y gorsafoedd pleidleisio a thrwy’r post. Rydym yn ymwybodol fod meysydd a oedd yn achosi pryder, fodd bynnag, fel amseru’r cyfrif a gwaharddiad dau aelod etholedig, ac rydym wedi ymrwymo i ffocysu ar y materion hyn er mwyn sicrhau na chânt eu hailadrodd.”

Meddai Ian Kelsall OBE, Comisiynydd Etholiad gyda chyfrifoldeb am Gymru:

“Hoffwn ddiolch i’r holl Swyddogion Canlyniadau a staff etholiad ar draws Cymru a helpodd sicrhau nid yn unig fod etholiadau’r Cynulliad yn rhedeg yn llyfn, ond hefyd dau refferendwm a weinyddwyd yn dda yn 2011.”

DIWEDD

Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Swyddfa’r wasg y Comisiwn Etholiadol: 029 2034 6810
Tu allan i oriau swyddfa: 07789 920414

Nodiadau i olygyddion:

  1. Mi fydd yr adroddiad llawn ar gael i’w lawr lwytho ar wefan y Comisiwn Etholiadol am 11:00yb ar ddydd Mercher 19 Hydref 2011 http://www.electoralcommission.org.uk/publications-and-research/election-reports
  2. Yn yr adroddiad ceir gwybodaeth am brofiad pleidleiswyr; data am yr etholiad, gan gynnwys y lefelau o bleidleisio drwy’r post mewn gwahanol rannau o Gymru; dadansoddiad o’r nifer o ymgeiswyr a materion ymgeiswyr; a thabl cymharol yn dangos pa mor hir a gymerodd bob etholaeth a rhanbarth i ddilysu a chyfrif y pleidleisiau.
  3. Bydd y Comisiwn hefyd yn cyhoeddi manylion gwariant ymgeiswyr yn etholiadau Cynuliiada Cenedlaethol Cymru ar ddydd Mercher 19 Hydref am 11 yb. Bydd rhain ar gael yma: http://www.electoralcommission.org.uk/party-finance/party-finance-analysis/campaign-expenditure
  4. Mae’r data wedi ei seilio ar gyfweliadau gyda 1,001 o oedolion oed 18+ ar draws Cymru. Cynhaliwyd y cyfweliadau gan ICM ar draws y DU rhwng 7 a 23 Mai 2011.
  5. Cafodd adroddiad y Comisiwn ar y Refferendwm ar bwerau deddfu i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ei lansio ar 13 Gorffennaf  2011 gydag adroddiad tebyg ar y refferendwm ar y System Bleidleisio Seneddol wedi ei lansio ddoe (Dydd Mawrth 18 Hydref 2011).
  6. Mae’r Comisiwn Etholiadol yn gorff annibynnol a sefydlwyd gan Senedd y DU. Ein nod yw hygrededd y broses ddemocrataidd a hyder y cyhoedd ynddi. Rydym yn rheoleiddio cyllid pleidiau ac etholiadau ac yn gosod safonau ar gyfer etholiadau a gynhelir yn dda.

back to latest news releases