01 Sep 2011
Y Comisiwn Mae’r Comisiwn Etholiadol, y corff gwarchod etholiadau annibynnol, heddiw wedi cyhoeddi ffigyrau ar wariant ymgyrch gan bleidiau gwleidyddol a thrydydd partïon a fu’n ymgyrchu yn etholiadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru ym mis Mai eleni.
Safodd cyfanswm o 16 o bleidiau ar gyfer seddi yn etholiadau’r Cynulliad. O dan y Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (PPERA), roedd angen i’r rheiny a oedd yn adrodd iddynt wario £250,000 neu lai gyflwyno ffurflenni dychweliad gwariant i’r Comisiwn erbyn 5 Awst 2011.
Dim ond un plaid yng Nghymru, sef y Blaid Geidwadol, a wariodd fwy na £250,000 yn yr etholiadau a bydd angen iddi gyflwyno ei ffurflen dychweliad erbyn 5 Tachwedd 2011. Bydd y Comisiwn yn cyhoeddi’r wybodaeth hon ar ddydd Iau, 1 Rhagfyr 2011.
Gall y Comisiwn yn awr adrodd fod 14 o bleidiau wedi cyflwyno eu ffurflenni dychweliad gwariant erbyn y terfyn amser, gan wario cyfanswm o £586,817 ar ymgyrchu yn ystod y cyfnod a reoleiddir, a oedd yn rhedeg o 6 Ionawr 2011 i ddiwrnod yr etholiad ar 5 Mai 2011.
Adroddodd pum trydydd parti iddynt wario £27,632 yn ystod yr ymgyrch.
Cyflwynodd un plaid, Y Blaid Gristnogol “Cyhoeddi Arglwyddiaeth Crist” ac un trydydd parti, Yr Ymgyrch i Roi Terfyn ar yr Holl Arbrofion Anifeiliaid, eu ffurflenni dychweliad gwariant yn hwyr.
Mae cyflwyno ffurflen dychweliad gwariant yn hwyr heb esgus rhesymol yn torri rheolau cyllido pleidiau. Mae’r Comisiwn yn awr yn adolygu amgylchiadau’r achosion hyn yn unol â’i bolisi gorfodaeth.
Gwariant ymgyrch yn etholiadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2011
| Plaid | Gwariant |
| Plaid Genedlaethol Prydain | £20,141 |
| Y Blaid Gristnogol “Cyhoeddi Arglwyddiaeth Crist” | £2,480 |
| Plaid Gomiwnyddol Prydain | £1,905 |
| Plaid Gydweithredol | £228 |
| Plaid Democratiaid Seisnig | £2,297 |
| Y Blaid Werdd | £56,944 |
| Y Blaid Lafur | £153,009 |
| Democratiaid Rhyddfrydol | £114,178 |
| Llais Gwynedd – The Voice of Gwynedd | £432 |
| Official Monster Raving Loony Party | £0 |
| Plaid Cymru – Party of Wales (The) | £173,139 |
| Rhoi Llanelli’n Gyntaf | £2,720 |
| Plaid Lafur Sosialaidd | £3,173 |
| Clymblaid Undebau Llafur a Sosialaidd | £240 |
| United Kingdom Independence Party (UK I P) | £55,931 |
| Cyfanswm | £586,817 |
Yn eu ffurflenni dychweliad gwariant i’r Comisiwn, roedd y pleidiau’n adrodd ar yr holl wariant yn erbyn un o naw categori. Dengys y tabl isod y gwariant fesul categori i’r 15 plaid a adroddodd ar wariant yng Nghymru.
| Categori | Gwariant |
| Darllediadau pleidiau gwleidyddol | £93,662 |
| Hysbysebu | £81,399 |
| Deunyddiau digymell | £276,595 |
| Maniffesto a dogfennau polisi | £20,828 |
| Ymchwil marchnad a chanfasio | £50,550 |
| Cynadleddau i’r wasg/ cyfryngau | £2,080 |
| Cludiant | £20,298 |
| Ralïau a digwyddiadau eraill | £5,425 |
| Gorbenion a gweinyddu cyffredinol | £35,441 |
Gwariant trydydd parti yn etholiadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2011
| Trydydd parti | Gwariant |
| Llafur Na i AV | £3,529 |
| Undeb Gwasanaethau Cyhoeddus a Masnachol | £19,221 |
| Searchlight Information Services Ltd | £342 |
| Yr Ymgyrch i Roi Terfyn ar yr Holl Arbrofion Anifeiliaid | £1,647 |
| Uno’n Erbyn Ffasgaeth | £2,893 |
| Cyfanswm | £27,632 |
Ceir rhagor o fanylion, yn cynnwys dadansoddiad o wariant bob plaid fesul categori, a chopïau o anfonebau a derbynebau unigol, ar gael ar wefan y Comisiwn Etholiadol yn www.electoralcommission.org.uk/party-finance/party-finance-analysis/campaign-expenditure/2011-devolved-elections
Yn ychwanegol, mae gofyn i ymgeiswyr etholaeth Cynulliad gyflwyno ffurflenni dychweliad gwariant ymgeiswyr i Swyddogion Canlyniadau. Mae gofyn i ymgeiswyr rhanbarthol unigol gyflwyno ffurflenni dychweliad gwariant ymgeiswyr i’r Swyddogion Canlyniadau Rhanbarthol. Bydd y Comisiwn yn coladu a chyhoeddi data ar wariant ymgeiswyr ym mis Hydref.
Meddai Kay Jenkins, Pennaeth Swyddfa Cymru’r Comisiwn Etholiadol: “Mae’n bwysig i dryloywder y broses ddemocrataidd fod y cyhoedd yn gallu gweld faint o arian mae pleidiau’n ei wario ar ymgyrchu a’r hyn y gwariwyd yr arian arno. Mae rhyddhau’r wybodaeth hon heddiw yn rhan o sicrhau tryloywder yn y broses ddemocrataidd.
“Rydym yn siomedig na wnaeth un plaid ac un trydydd parti gyflwyno ffurflen dychweliad gwariant erbyn y terfyn amser er mwyn cyflawni’r lefel dda o dryloywder a gyflawnwyd gan ymgyrchwyr eraill. Rydym yn asesu’r achosion hyn, a all arwain at gosbau yn erbyn y ddau ymgyrchydd.”
Ar hyn o bryd mae’r Comisiwn yn craffu ar y wybodaeth a gyflwynwyd gan y pleidiau a thrydydd partïon. Mae’r Comisiwn yn monitro gweithgaredd ymgyrchu y pleidiau, ymgeiswyr a thrydydd partïon ar adeg etholiad, a byddant yn croes wirio’r wybodaeth a gasglwyd drwy ein monitro yn erbyn y ffurflenni dychweliad gwariant a gyflwynwyd.
Hefyd cyhoeddodd y Comisiwn heddiw ffurflenni dychweliad gwariant ymgyrch i bleidiau a wariodd £250,000 neu lai yn etholiadau Cynulliad Gogledd Iwerddon a Senedd yr Alban.
Diwedd
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:
Swyddfa’r wasg y Comisiwn Etholiadol:: 02920 346810
Tu allan i oriau swyddfa: 07789 920 414
Nodiadau i olygyddion
- Mae’r Comisiwn Etholiadol yn gorff annibynnol a sefydlwyd gan Senedd y DU. Ein nod yw hygrededd y broses ddemocrataidd a hyder y cyhoedd ynddi. Rydym yn rheoleiddio cyllid pleidiau ac etholiadau ac yn gosod safonau ar gyfer etholiadau a gynhelir yn dda ac rydym yn gyfrifol am gynnal a rheoleiddio refferenda o dan y Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau & Refferenda (2000).
- Gellir canfod y rheolau ar gyfer gwariant pleidiau yn cynnwys manylion llawn am derfynau gwariant ar ein gwefan ar www.electoralComisiwn.org.uk/etholiadau/election-spending/party-campaign-gwariant
- Gellir canfod manylion llawn am ffurflenni dychweliad gwariant ar ein gwefan ar www.electoralcommission.org.uk/party-finance/party-finance-analysis/campaign-expenditure/2011-devolved-elections
- Pan na dderbyniwyd ffurflenni dychweliad gwariant erbyn y terfynau amser priodol rydym yn asesu bob toriad posib yn unol â’n polisi gorfodaeth y gellir ei weld yn www.electoralComisiwn.org.uk/__data/assets/pdf_file/0003/106743/Enforcement-Policy-30March11.pdf
- Sefydliad yw trydydd parti sy’n ymgyrchu ar adeg etholiad o blaid neu’n erbyn plaid, ymgeisydd neu bolisi. Am ragor o fanylion gweler www.electoralComisiwn.org.uk/party-finance/legislation/third-partiespermitted-participants/third-parties
- I gael manylion llawn i lawr i lefel eitem ffurflen dychweliad gwariant , cymharu data pennawd gydag etholiadau blaenorol neu dynnu gwybodaeth gwariant o’n cronfa ddata i’ch defnydd eich hun, os gwelwch yn dda defnyddiwch ein cofrestri PEF Ar-lein ar https://pefonline.electoralComisiwn.org.uk/search/searchintro.aspx
