01 Dec 2011
Read in English / Darllenwch y Saesneg
Mae’r Comisiwn Etholiadol, y corff gwarchod etholiadau annibynnol, wedi cyhoeddi ffigyrau ar wariant ymgyrchu pleidiau gwleidyddol a wariodd dros £250,000 yn ymgyrchu yn etholiadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru ym mis Mai eleni.
Gwariodd un blaid, y Blaid Geidwadol ac Unoliaethol, dros £250,000 yn ymgyrchu yn y cyfnod yn arwain i fyny at yr etholiad, gan wario cyfanswm o £283,269. Mae’r ffigwr hwn yn cwblhau’r darlun cyflawn o wariant gan bob plaid yn etholiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Mae cyfanswm o 16 plaid wedi adrodd ar wariant cyfunol o £869,546 ar eu hymgyrchoedd yn ystod y cyfnod a reoleiddir. Roedd y cyfnod hwn yn rhedeg o 6 Ionawr 2011 i ddiwrnod yr etholiad ar 5 Mai 2011.
Roedd rhaid i bleidiau a wariodd dros £250,000 gyflwyno ffurflen dychweliad gwariant ymgyrchu wedi’i harchwilio i’r Comisiwn erbyn 5 Tachwedd 2011.
Roedd rhaid i’r 15 plaid a 5 trydydd parti a wariodd £250,000 neu lai gyflwyno’u ffurflen dychweliad gwariant i’r Comisiwn ym mis Awst. Cyhoeddwyd y rhain ar 1 Medi 2011.
Adroddodd pum trydydd parti eu bod wedi gwario cyfanswm o £27,632 yn ystod yr ymgyrch (gweler Nodiadau i’r Golygyddion 5). Ni wariodd unrhyw drydydd parti fwy na £250,000.
Meddai Kay Jenkins, Pennaeth Swyddfa Cymru’r Comisiwn Etholiadol: “Mae’n bwysig i dryloywder y broses ddemocrataidd fod y cyhoedd yn gallu gweld faint o arian a wariwyd yn yr etholiadau hyn. Mae’r wybodaeth hon nawr yn cwblhau’r darlun ar wariant ymgyrchoedd yn etholiadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru.”
Gwariant ymgyrch yn etholiadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2011
| Plaid | Gwariant |
| Plaid Genedlaethol Prydain /BNP | £20,141 |
| Y Blaid Gristnogol “Cyhoeddi Arglwyddiaeth Crist” | £2,480 |
| Plaid Gomiwnyddol Prydain | £1,905 |
| Y Blaid Geidwadol ac Unoliaethol | £283,269* |
| Plaid Gydweithredol | £228 |
| Plaid Democratiaid Seisnig | £2,297 |
| Democratiaid Rhyddfrydol | £56,944 |
| Llais Gwynedd – The Voice of Gwynedd | £153,009 |
| Y Blaid Werdd | £114,178 |
| Y Blaid Lafur | £432 |
| Official Monster Raving Loony Party | £0 |
| Plaid Cymru – The Party of Wales | £173,139 |
| Rhoi Llanelli’n Gyntaf | £2,720 |
| Plaid Lafur Sosialaidd | £3,173 |
| Clymblaid Undebau Llafur a Sosialaidd | £240 |
| United Kingdom Independence Party (UK I P) | £55,391 |
| Cyfanswm | £869,546 |
* Mae’r ffigurau a gyhoeddwyd heddiw wedi eu amlygu. Cyhoeddwyd y ffigurau eraill ar y 01/09/11. Mae'r rhain yn cael eu darparu ar gyfer cyd-destun.
Yn eu ffurflenni dychweliad gwariant i’r Comisiwn, roedd y pleidiau’n adrodd ar yr holl wariant yn erbyn un o naw categori. Dengys y tabl isod y gwariant fesul categori ar gyfer bob un o’r 16 plaid a adroddodd ar wariant yng Nghymru.
| Categori | Gwariant |
| Darllediadau pleidiau gwleidyddol | £105,792 |
| Hysbysebu | £114,217 |
| Deunyddiau digymell | £469,827 |
| Maniffesto a dogfennau polisi | £26,428 |
| Ymchwil marchnad a chanfasio | £52,429 |
| Cynadleddau i’r wasg/ cyfryngau | £2,080 |
| Cludiant | £22,779 |
| Ralïau a digwyddiadau eraill | £11,131 |
| Gorbenion a gweinyddu cyffredinol | £64,864 |
Gellir canfod ffigyrau a gyhoeddwyd eisoes ar 1 Medi 2011 o bleidiau a thrydydd partïon a wariodd £250,000 neu lai yn etholiadau Cynulliad Gogledd Iwerddon yn y datganiad i’r wasg ar www.electoralcommission.org.uk/news-and-media/news-releases/electoral-commission-media-centre/news-releases-donations/Electoral-Commission-publishes-details-of-party-spending-at-Northern-Ireland-Assembly-election-2011
Diwedd
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:
Swyddfa’r wasg y Comisiwn Etholiadol: 029 20 346810
Tu allan i oriau swyddfa: 07789 920 414
Nodiadau i olygyddion
- Mae’r Comisiwn Etholiadol yn gorff annibynnol a sefydlwyd gan Senedd y DU. Ein nod yw hygrededd y broses ddemocrataidd a hyder y cyhoedd ynddi. Rydym yn rheoleiddio cyllid pleidiau ac etholiadau ac yn gosod safonau ar gyfer etholiadau a gynhelir yn dda ac rydym yn gyfrifol am gynnal a rheoleiddio refferenda o dan y Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau & Refferenda (2000).
- Mae’r ffigyrau i gyd wedi’u talgrynnu i’r £1 agosaf
- Yn gynharach eleni cyhoeddasom ein hadroddiad statudol ar etholiadau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae hwn ar gael yma: www.electoralcommission.org.uk/__data/assets/pdf_file/0012/141330/Final-NAW-report-web.pdf. Y flwyddyn nesaf, byddwn hefyd yn cyhoeddi adroddiad byr pellach ar wariant ymgyrchoedd yn etholiadau 2011.
- Gellir canfod y rheolau ar gyfer gwariant pleidiau yn cynnwys manylion llawn am derfynau gwariant ar ein gwefan ar www.electoralcommission.org.uk/elections/election-spending/party-campaign-expenditure
- Dyma wariant trydydd parti yn etholiadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2011:
TRYDYDD PARTI GWARIANT Llafur Na i AV £3,529 Undeb Gwasanaethau Cyhoeddus a Masnachol £19,221 Searchlight Information Services Ltd £342 Yr Ymgyrch i Roi Terfyn ar yr Holl Arbrofion Anifeiliaid £1,647 Uno’n Erbyn Ffasgaeth £2,893 CYFANSWM £27,632 - Cyhoeddwyd y manylion gwariant trydydd parti ym Medi 2011. Sefydliad yw trydydd parti sy’n ymgyrchu ar adeg etholiad o blaid neu’n erbyn plaid, ymgeisydd neu bolisi. Am ragor o fanylion gweler www.electoralcommission.org.uk/party-finance/legislation/third-partiespermitted-participants/third-parties
- Mae rhagor o fanylion, gan gynnwys dadansoddiad o wariant bob plaid fesul categori, a chopïau o anfonebau a derbynebau unigol, ar gael ar wefan y Comisiwn Etholiadol ar www.electoralcommission.org.uk/party-finance/party-finance-analysis/campaign-gwariant/2011-devolved-elections
- Pan na dderbyniwyd ffurflenni dychweliad gwariant erbyn y terfynau amser priodol rydym yn asesu bob toriad posib yn unol â’n polisi gorfodaeth y gellir ei weld yn www.electoralcommission.org.uk/__data/assets/pdf_file/0003/106743/Enforcement-Policy-30March11.pdf
- Cyhoeddodd y Comisiwn fanylion o gostau ymgeiswyr unigol ar Hydref 17. Mae’r rhain ar gael yma: www.electoralcommission.org.uk/party-finance/party-finance-analysis/campaign-expenditure/2011-devolved-elections-candidates-expenses
- Gellir canfod manylion llawn am ffurflenni dychweliad gwariant ar ein gwefan ar www.electoralcommission.org.uk/party-finance/party-finance-analysis/campaign-expenditure/2011-devolved-elections
- I gael manylion llawn i lawr i lefel eitem ffurflen dychweliad gwariant, cymharu data pennawd gydag etholiadau blaenorol neu dynnu gwybodaeth gwariant o’n cronfa ddata i’ch defnydd eich hun, os gwelwch yn dda defnyddiwch ein cofrestri PEF Ar-lein ar https://pefonline.electoralcommission.org.uk/search/searchintro.aspx
