Quick links

News releases

Y Comisiwn Etholiadol yn cyhoeddi adroddiad ar gwestiwn refferendwm Cymru

02 Sep 2010

Mae’r Comisiwn Etholiadol, y corff gwarchod annibynnol ar gyfer etholiadau, wedi cyhoeddi ei asesiad o’r cwestiwn arfaethedig fydd yn cael ei ddefnyddio yn y refferendwm sydd i ddod, ar bwerau deddfu Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Cynhaliwyd ymchwil o farn y cyhoedd gan y Comisiwn, a gwahoddwyd ymatebion gan unigolion a sefydliadau oedd â diddordeb yng Nghymru, yn cynnwys arbenigwyr hygyrchedd ac iaith, er mwyn sicrhau fod y cwestiwn - a gynigiwyd gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru - yn gallu cael ei ddeall yn rhwydd gan bleidleiswyr.

Er bod y mwyafrif o’r rhai hynny a ymatebodd yn credu y dylid cadw strwythur sylfaenol y cwestiwn, mae ymchwil y Comisiwn yn dangos nad oedd geiriad y cwestiwn yn rhwydd i’w ddeall, ac mewn rhai achosion, roedd yn amwys.

Mae’r Comisiwn wedi cynnig newidiadau i’r rhagarweiniad ac i’r cwestiwn yn seiliedig ar y dystiolaeth a gasglwyd drwy gydol y broses asesu, er mwyn rhoi dealltwriaeth a diddordeb y pleidleiswyr wrth wraidd unrhyw benderfyniad sy’n cael ei wneud ynghylch y geiriad. Mae’r newidiadau arfaethedig yn cael eu gosod allan yn yr adroddiad a gyhoeddir heddiw.

Meddai Ian Kelsall, Comisiynydd Etholiadol:
“Mae pwnc y refferendwm yn un heriol i’w gyfleu, ac nid yw drafftio cwestiwn yn fater rhwydd o gwbl. Felly, rydym yn ddiolchgar i Ysgrifennydd Gwladol Cymru am roi’r 10 wythnos lawn oedd eu hangen arnom i asesu’r cwestiwn, a sicrhau felly ein bod ni’n gallu siarad gyda phleidleiswyr ar draws y wlad a chlywed eu barnau.

“Mae’n bwysig fod rhai geiriau, ymadroddion a therminoleg allweddol yn cael eu hailddrafftio os yw pleidleiswyr yn mynd i ddeall y cwestiwn, er mwyn sicrhau cyfranogiad llawn yn y refferendwm.

“Rydym yn gobeithio y bydd ein hadroddiad a’n cynnig ar gyfer ailddrafftio yn dangos mai ein blaenoriaeth oedd cael cwestiwn oedd pleidleiswyr yn gallu ei ddeall, fel eu bod nhw’n gwybod am beth maen nhw’n pleidleisio.”

Yn unol â Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000, mae’n rhaid i Ysgrifennydd Gwladol Cymru ymgynghori â’r Comisiwn ar eiriad y cwestiwn refferendwm arfaethedig.  Yr Ysgrifennydd Gwladol sy’n gyfrifol am benderfynu ar eiriad terfynol y cwestiwn sy’n cael ei gyflwyno i bleidleiswyr.

Ends/

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â:
Swyddfa’r wasg Comisiwn Etholiadol Cymru: 029 2034 6810
E-bost: press@electoralcommission.org.uk 
Tu allan i oriau’r swyddfa 07789 920414

Nodiadau i olygyddion:

1. Corff annibynnol yw’r Comisiwn Etholiadol a sefydlwyd gan Senedd y Deyrnas Unedig. Ein nod yw hygrededd y broses ddemocrataidd a hyder y cyhoedd ynddi. Rydym yn rheoleiddio cyllid pleidiau ac etholiadau ac yn gosod safonau ar gyfer etholiadau a gynhelir yn dda. Y Swyddogion Canlyniadau sydd â’r cyfrifoldeb am redeg etholiadau ac am oruchwylio’r cyfrif, ac mae’r Comisiwn Etholiadol yn adrodd wedyn ar weinyddu Etholiadau Cyffredinol yn y Deyrnas Unedig.
2. Mae Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau & Refferenda 2000 yn rhoi cyfrifoldebau statudol penodol i’r Comisiwn Etholiadol mewn perthynas â refferenda,  Gellir dod o hyd i ragor o fanylion ynghylch ein rôl yma www.electoralcommission.org.uk/elections/referendums
3. Mae adroddiad y Comisiwn ar y newidiadau arfaethedig ar gael ar www.electoralcommission.org.uk/_media/response-submission/commission-responses-to-external-consultations/Question-assessment-WELSH.pdf 

back to latest news releases