Accessibility
Datganiad hygyrchedd ar gyfer y Comisiwn Etholiadol
Mae’r datganiad hygyrchedd hwn yn cymhwyso https://www.comisiwnetholiadol.org.uk
Cynhelir y wefan hon gan y Comisiwn Etholiadol. Rydym am i gymaint o bobl â phosibl gallu defnyddio’r wefan. Er enghraifft, mae hynny’n golygu y dylech fod yn gallu:
- newid lliwiau, lefelau cyferbynnedd a ffontiau
- chwyddo mewn hyd at 300% heb i’r testun ddod oddi ar y sgrin
- gwe-lywio rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
- gwe-lywio rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod llais
- gwrando ar y rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio rhaglen darllen sgrin (gan gynnwys y fersiynau diweddaraf o JAWS, NVDA a VoiceOver)
Rydym hefyd wedi gwneud testun y wefan mor syml â phosibl i’w ddeall.
Mae gan AbilityNet gyngor ynghylch gwneud eich dyfais yn haws i’w ddefnyddio os oes gennych anabledd.
Pa mor hygyrch yw’r wefan hon
Rydym yn gwybod nad yw rhannau o’r wefan hon yn gwbl hygyrch:
- Darperir rhai o’n canllawiau a’n hadnoddau ar gyfer gweinyddwyr etholiadol, pleidiau ac ymgyrchwyr, ymgeiswyr ac asiantiaid, a chyrff eraill wedi’u rheoleiddio, mewn fformat PDF neu Word yn unig. Nid yw’r dogfennau hyn yn gwbl hygyrch. Mae rhywfaint o'r canllaw hwn wedi'i ddiweddaru a'i ailgyhoeddi ar ôl 2018, ac nid yw'n gwbl hygyrch oherwydd ei fod yn seiliedig ar dempledi sy'n rhagddyddio 2018.
- Nid yw siartiau Tableau yn hygyrch. Er enghraifft, nid yw’n bosibl chwyddo mewn i 200% heb gael problemau arddangos ar y sgrin, a nid oes modd rhyngweithio â nhw gan ddefnyddio bysellfwrdd.
Rydym yn gweithio i wneud y dogfennau a’r siartiau hyn yn gwbl hygyrch. Yn y cyfamser, os oes angen yr wybodaeth hon arnoch mewn fformat hygyrch, cysylltwch â ni.
Yr hyn i’w wneud os na allwch gyrchu rhannau o’r wefan hon
Os oes angen gwybodaeth arnoch ar y wefan mewn fformat gwahanol, megis PDF hygyrch, print bras, hawdd ei ddeall, recordiad sain neu braille:
- llenwch ein ffurflen cysylltu â ni
- ffoniwch 0333 103 1928
Byddwn yn ystyried eich cais ac yn eich hateb cyn pen 10 diwrnod gwaith.
Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd gyda’r wefan hon
Rydym bob amser yn chwilio am ffyrdd o wella hygyrchedd y wefan hon. Os dewch o hyd i broblemau nad ydynt wedi’u rhestru ar y dudalen hon, neu os ydych o’r farn nad ydym yn bodloni gofynion y rheoliadau hygyrchedd, rhowch wybod am y problemau hyn drwy:
- llenwi’r ffurflen adborth ar y dudalen lle daethoch o hyd i’r broblem
- llenwi ein ffurflen cysylltu â ni
- ffonio 0333 103 1928
Gallwch hefyd e-bostio’r tîm Cyfathrebu a Dysgu Digidol yn uniongyrchol.
Gweithdrefn gorfodi
Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol sy’n gyfrifol am orfodi’r rheoliadau hygyrchedd. Os nad ydych yn fodlon gyda sut rydym yn ymateb i’ch cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Cymorth Cydraddoldeb (EASS).
Os ydych wedi’ch lleoli yng Ngogledd Iwerddon a’ch bod yn anfodlon gyda sut gwnaethom ymateb i’ch cwyn, cysylltwch â’r Comisiwn Cydraddoldeb ar gyfer Gogledd Iwerddon (ECNI).
Cysylltu â ni dros y ffôn neu ymweld â ni’n bersonol
Mae gan ein swyddfeydd ddolenni sain. Cysylltwch â ni cyn ymweld â ni os oes gennych anghenion mynediad.
Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon
Mae’r Comisiwn Etholiadol wedi ymrwymo i wneud ei wefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018.
Statws cydymffurfio
Mae’r wefan yn cydymffurfio’n rhannol â safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We, fersiwn 2.1, oherwydd y diffyg cydymffurfio â’r eithriadau a restrir isod.
Baich anghymesur
Problemau gyda dogfennau PDF a dogfennau eraill
Nid yw llawer o’n hen ddogfennau a ffurflenni PDF yn bodloni’r safonau hygyrchedd presennol. Mae llawer o’r rhain yn rhagddyddio 2018, neu’n defnyddio templed sy’n rhagddyddio 2018.
Rydym yn gweithio i newid ein prosesau o fewn ein busnes i sicrhau lle bod angen ffurflenni PDF a dogfennau Word, eu bod yn bodloni Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018. Rydym wedi cyflwyno templed tudalen newydd i ddangos cynnwys hirach, a fyddai wedi’i gyhoeddi fel PDF yn flaenorol. Byddwn yn defnyddio hwn, lle’n bosibl, i ddisodli’r fformatau PDF.
Rydym hefyd wedi cyflwyno templed HTML newydd ar gyfer cyhoeddi canllawiau i weinyddwyr etholiadol a’r rheiny rydym yn eu rheoleiddio. Caiff canllawiau eu mudo o hen ddgfennau PDF i’r fformat hwn gyda phob cylch etholiadol.
Serch hynny, nid yw rhai o’r dogfennau Word a’r ffurflenni PDF sydd wedi’u cyhoeddi ers mis Medi 2018 yn hygyrch. Mae hyn oherwydd eu bod yn ddiweddariadau o ddogfennau a gyhoeddwyd cyn mis Medi 2018, ac yn defnyddio templedi sy'n dyddio cyn 2018.
Rydym wedi pennu bod yr amser a gymerir i wneud yr holl ddogfennau a thempledi hyn yn hygyrch yn faich anghymesur.
Fodd bynnag, rydym yn gweithio i wneud unrhyw ddogfennau hanfodol a gyhoeddwyd yn ystod y cyfnod hwnnw yn hygyrch dros y blynyddoedd sydd i ddod, drwy bob cylch etholiadol.
Os oes dogfen benodol nad ydyw ar gael i chi drwy ddull hygyrch, cysylltwch â ni.
Problemau gydag offer rhyngweithiol a thrafodion
Ar hyn o bryd, nid yw siartiau a thablau y’u hadeiladwyd yn Tableau yn hygyrch.
Mae problemau cyferbynnedd o fewn yr elfen Tableau a phroblemau arddangos ar y sgrin wrth chwyddo mewn i 200%
Mae defnyddwyr yn hofran dros segmentau o’r graffiau er mwyn gweld cynnwys ychwanegol. Ni ellir cael gwared ar y cynnwys hwn gan ddefnyddio’r bysellfwrdd ac nid yw’n hofran nac yn barhaus.
Nid oes modd cyrchu siartiau a thablau Tableau gan ddefnyddio bysellfwrdd. Rydym wedi adolygu opsiynau gwahanol ar gyfer Tableau yn ddiweddar ond nid ydym wedi nodi opsiwn gwahanol. Rydym yn bwriadu adolygu hyn eto ym mis Awst 2022.
Cynnwys nad yw’n dod o dan gwmpas y rheoliadau hygyrchedd
Nid yw’r rheoliadau hygyrchedd yn ei gwneud hi’n ofynnol arnom i drwsio ffurflenni PDF neu ddogfennau Word a gyhoeddwyd cyn 23 Medi 2018 os nad ydynt yn hanfodol i ddarparu ein gwasanaethau. Er enghraifft, nid ydym yn bwriadu trwsio cofnodion cyfarfod a ddigwyddodd dros bedair blynedd yn ôl, nac adnoddau ar gyfer etholiadau sydd eisoes wedi mynd heibio.
Paratoi’r datganiad hygyrchedd hwn
Paratowyd y datganiad hwn ar 28/07/2019. Roedd y diweddariad diwethaf ar 19/10/2021.
Profwyd y wefan hon ddiwethaf ar 13/08/2021. Cynhaliwyd y prawf gan Zoonou.
Defnyddiodd Zoonou y dull hwn i benderfynu ar sampl o dudalennau i’w profi: WCAG-EM.