Supporting people with the voter ID requirement
Rhoi cymorth i bobl gyda’r gofyniad ID pleidleisiwr
Yn y DU, mae’n ofynnol yn ôl y gyfraith i chi ddangos prawf adnabod (ID) ffotograffig pan fyddwch yn pleidleisio mewn gorsaf bleidleisio mewn rhai etholiadau (‘y gofyniad ID pleidleisiwr’).
Gall unrhyw un nad oes ganddo fath derbyniol o ID ffotograffig wneud cais am ddogfen ID am ddim i bleidleiswyr, a elwir yn Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr.
Gwyddom fod rhai grwpiau yn fwy tebygol o wynebu rhwystrau wrth baratoi ar gyfer y newid hwn ac y gall fod angen cymorth arnynt i gael ID ffotograffig.
Gall sefydliadau sy’n gweithio’n uniongyrchol gyda phleidleiswyr, gan gynnwys awdurdodau lleol ac elusennau, chwarae rôl bwysig i helpu pleidleiswyr i sicrhau bod ganddynt ID ffotograffig y gallant ei ddefnyddio i bleidleisio.
Rydym wedi llunio’r pecyn hwn er mwyn helpu sefydliadau i godi ymwybyddiaeth a helpu’r bobl rydych yn gweithio gyda nhw i wneud cais am Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr, os oes angen un. Mae’r adnoddau hyn hefyd yn cynnwys gwybodaeth am gofrestru i bleidleisio.
Mae adnoddau ID Pleidleisiwr ar gael
Beth sydd yn y pecyn cymorth hwn:
- R Canllaw i’ch staff a’ch gwirfoddolwyr
- R Llyfryn a ’dalen fewnosod’ gryno A5 i bleidleiswyr
- R Posteri
- R Adnoddau digidol, gan gynnwys graffigau arddangosiadau digidol, copi o dempledi graffigau cyfryngau cymdeithasol, a chopi ar gyfer gwefannau a chylchlythyrau.
- R Adnoddau eraill, gan gynnwys adnoddau i’r wasg ac
adnoddau i helpu pobl y gallai fod yn fuddiol iddynt gofrestru i
bleidleisio'n ddienw, fel goroeswyr cam-drin domestig.
Mae’r holl adnoddau ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg.
Sylwch: Mae'r dyddiad cau ar gyfer gwneud cais am ID pleidleisiwr am ddim i'w ddefnyddio yn yr etholiad cyffredinol wedi mynd heibio. Felly ni ddylai'r adnoddau sy'n annog pobl i wneud cais am ID pleidleisiwr am ddim gael eu defnyddio nawr.
Canllaw i staff a gwirfoddolwyr
Lawrlwytho’r canllaw i staff a gwirfoddolwyr yn Gymraeg
Lawrlwythwch ein canllaw i staff a gwirfoddolwyr, sy’n rhoi’r wybodaeth allweddol y bydd
ei hangen arnynt i helpu’r bobl y maent yn eu cefnogi i ddeall y gofyniad ID pleidleisiwr.
Gellir defnyddio’r canllaw ar ffurf ddigidol neu argraffedig, ac mae’n esbonio:
• Sut i gofrestru i bleidleisio
• Pa fathau o ID a dderbynnir
• Sut i wneud cais am Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr
• Beth i’w ddisgwyl yn yr orsaf bleidleisio
• Ffyrdd eraill o bleidleisio
Fformatau sydd ar gael:
• Yn hygyrch ar sgrin
• Yn barod i’w argraffu (graddlwyd)
Guide for staff and volunteers accessible versions available
Llyfryn i bleidleiswyr
Lawrlwytho’r llyfryn i bleidleiswyr yn Gymraeg
Lawrlwythwch ein llyfryn i bleidleiswyr, sy’n esbonio:
• Sut i gofrestru i bleidleisio
• Ym mha etholiadau y mae angen dangos ID ffotograffig
• Pa fathau o ID a dderbynnir
• Sut i wneud cais am Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr
• Beth i’w ddisgwyl yn yr orsaf bleidleisio
• Ffyrdd eraill o bleidleisio
Fformatau sydd ar gael:
• Yn hygyrch ar sgrin
• Yn barod i’w argraffu (lliw)
• Yn barod i’w argraffu (graddlwyd)
• Argraffu proffesiynol (gyda marciau tocio ac estyn tudalennau)
Dalen fewnosod
Lawrlwytho’r ddalen fewnosod yn Gymraeg
Lawrlwythwch ddalen fewnosod gryno A5 i’w chynnwys wrth anfon deunyddiau eraill fel biliau’r
dreth gyngor neu wybodaeth am y canfasiad blynyddol at bleidleiswyr. Mae’r ddalen fewnosod
wedi’i dylunio i’w hargraffu’n broffesiynol.
Fformatau sydd ar gael:
• Yn hygyrch ar sgrin
• Argraffu proffesiynol (gyda marciau tocio ac estyn tudalennau
Posteri
Lawrlwytho’r posteri yn Gymraeg
Lawrlwythwch bosteri A4 ac A3 i godi ymwybyddiaeth o’r gofyniad ID pleidleisiwr.
Fformatau sydd ar gael:
• Yn hygyrch ar sgrin
• Argraffu proffesiynol (gyda marciau tocio ac estyn tudalennau)
Baneri y we
Lawrlwytho’r graffigau arddangosiadau digidol yn Gymraeg
Mae baneri y we yn amrywio mewn maint a dimensiynau. Mae’r ffeiliau hyn wedi’u dylunio’n benodol ar gyfer baneri llorweddol, a argymhellir yn 1080 x 580 picsel (amrywiol) ar gyfer brasfodeli yn y fan a’r lle.
Mae’r graffigau hyn mewn fformat lle y mae’n bosibl arddangos mewn unrhyw faint heb golli eglurdeb.
Postiadau cyfryngau cymdeithasol a graffigau
Lawrlwytho’r postiadau ar gyfer cyfryngau cymdeithasol yn Gymraeg
Lawrlwytho’r graffigau cymdeithasol sy’n barod i’w postio yn Gymraeg
Gallwch lawrlwytho testun enghreifftiol i rannu negeseuon allweddol ynglŷn â’r gofyniad ID pleidleisiwr ar eich sianeli cymdeithasol.
Mae graffigau sy’n barod i’w cyhoeddi ar gael ar gyfer Facebook, Instagram a Twitter. Gellir hefyd eu rhannu drwy grwpiau WhatsApp cymunedol.
Ffeiliau JPEG ydynt a gallwch eu lawrlwytho a’u rhannu.
Llofnod e-bost
Lawrlwythwch ein llofnod e-bost
Defnyddiwch ein llofnod e-bost i godi ymwybyddiaeth o'r gofyniad ID pleidleisiwr.
Copi ar gyfer gwefannau a chylchlythyrau
Lawrlwytho copi ar gyfer gwefannau a chylchlythyrau yn Gymraeg
Gallwch lawrlwytho copi templed i rannu gwybodaeth am y gofyniad ID pleidleisiwr a sut i wneud cais am Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr ar eich gwefan ac yn eich cylchlythyrau.
Adnoddau i’r wasg
Lawrlwytho adnoddau i’r wasg yn Gymraeg
Gallwch lawrlwytho adnoddau i’r wasg i godi ymwybyddiaeth o’r gofyniad ID pleidleisiwr yn eich ardal leol.