Cyn diwrnod yr etholiad, sy’n cael ei adnabod fel diwrnod pleidleisio, byddwch yn derbyn cerdyn sy’n cael ei alw’n gerdyn pleidleisio.
Bydd pawb sydd wedi cofrestru i bleidleisio yn eich cartref yn derbyn eu cerdyn pleidleisio eu hunain.
Mae eich cerdyn pleidleisio yn dweud wrthych ble a phryd y gallwch bleidleisio. Oni bai eich bod wedi trefnu fel arall, byddwch yn pleidleisio yn bersonol yn yr orsaf bleidleisio.
Nid oes angen i chi gofrestru i bleidleisio ar gyfer pob etholiad, dim ond os ydych wedi symud tŷ yn ddiweddar, heb gofrestru o’r blaen, neu wedi newid eich enw.