Mae gan wahanol etholiadau wahanol systemau i ethol cynrychiolwyr.
Mae gan bob system enw gwahanol, ac mae’n gallu ymddangos yn gymhleth. Gall y system sy’n cael ei defnyddio i ethol dy gynrychiolwyr effeithio ar sut rwyt ti’n cael dy gynrychioli, felly mae’n ddefnyddiol dod i ddeall sut mae pob un yn gweithio.
Sut caiff Senedd Cymru ei ethol
Mae Senedd Cymru yn defnyddio System Aelodau Ychwanegol i ethol ei aelodau.
Mae 60 Aelod o’r Senedd: 40 aelod etholaethol, ac 20 aelod rhanbarthol.
Pan fyddi di’n pleidleisio mewn etholiad Senedd, bydd gennyt ti ddwy bleidlais. Does dim rhaid i ti bleidleisio dros yr un blaid ar gyfer y ddwy bleidlais, ond gelli di wneud hynny os dymuni di.
Gyda’r bleidlais gyntaf, rwyt ti’n dewis rhwng ymgeiswyr sy’n sefyll yn dy etholaeth Senedd trwy farcio X wrth eu henw. Bydd yr ymgeisydd sy’n derbyn mwy o bleidleisiau na’r un ymgeisydd arall yn cael ei ethol i dy gynrychioli yn y Senedd.
Byddi di wedyn yn bwrw ail bleidlais i ddewis plaid wleidyddol i gynrychioli dy Ranbarth. Byddi di’n gweld rhestr o bleidiau gwleidyddol gydag enwau’r ymgeiswyr o danyn nhw. Rwyt ti’n dangos dy ddewis blaid wleidyddol trwy nodi ‘X’ wrthi. Mae pedwar aelod rhanbarthol i bob un o’r pum rhanbarth etholiadol yng Nghymru.
Mae’r fformiwla a ddefnyddir i gyfri canlyniadau’r seddi rhanbarthol yn gymhleth, hyd yn oed i bobl sy’n cynnal etholiadau.
I gyfri faint o safleoedd neu ‘seddi’ rhanbarthol y mae pob plaid yn eu hennill, rwyt ti’n rhannu nifer y pleidleisiau y mae pob plaid yn eu derbyn yn y bleidlais ranbarthol (dy ail bleidlais) dros nifer y seddi etholaethol a enillwyd gan y blaid (dy bleidlais gyntaf) gan ychwanegu un.
Rwyt ti’n ychwanegu un fel bod pleidiau sydd heb ennill unrhyw seddi etholaethol hefyd yn gallu cael eu cynnwys yn y cyfri ar gyfer seddi rhanbarthol.
Ar ôl y cyfri hwn, mae’r blaid gyda’r canlyniad uchaf yn ennill y sedd ranbarthol gyntaf. I bennu pa bleidiau sy’n ennill y seddi sydd dros ben, mae’n rhaid ail-wneud y cyfri hwn, ond gan ychwanegu unrhyw seddi ychwanegol sydd wedi eu hennill bob tro. Gan fod yna bedair sedd i bob rhanbarth, caiff hyn ei wneud bedair gwaith. Gall hi gymryd sbel weithiau i gael y canlyniadau llawn.
Mae'r seddi rhanbarthol y mae pob plaid wleidyddol yn eu hennill yn cael eu llenwi gan yr ymgeiswyr yn y drefn y maen nhw’n ymddangos ar y papur pleidleisio rhanbarthol. Caiff y drefn ei phennu gan y blaid wleidyddol.
Mae’r blaid sy’n ennill y nifer uchaf o seddi ar draws Cymru yn ffurfio’r Llywodraeth. Neu weithiau, daw pleidiau gwleidyddol ac ymgeiswyr annibynnol at ei gilydd i ffurfio Llywodraeth.
Sut y caiff Senedd y DU ei ethol
Caiff Aelodau Seneddol eu hethol i Dŷ’r Cyffredin trwy ddefnyddio system sy’n cael ei galw’n Gyntaf i’r Felin.
Rwyt ti’n pleidleisio dros un ymgeisydd yn dy etholaeth trwy roi X wrth eu henw.
Mae yna 650 o etholaethau ar draws y DU. Bydd y rhan fwyaf o ymgeiswyr yn sefyll dros blaid. Yn syml, bydd yr ymgeisydd gyda’r nifer uchaf o bleidleisiau yn dy etholaeth y cael ei ethol. Dyma fydd dy Aelod Seneddol.
Y blaid wleidyddol gyda’r nifer uchaf o Aelodau Seneddol wedi eu hethol ar draws y DU gyfan sy’n ennill yr etholiad. Nhw wedyn fydd y Llywodraeth. Os oes gan y blaid fwy o seddi na’r holl bleidiau eraill gyda’i gilydd, mae ganddyn nhw yr hyn sy’n cael ei alw’n fwyafrif, sy’n golygu bod ganddyn nhw fwyafrif o’r Aelodau Seneddol.
Mae’n bwysig cofio nad wyt ti’n bleidleisio am y Prif Weinidog. Yn hytrach, mae aelodau pob plaid wleidyddol yn ethol eu harweinydd eu hunain. Os yw eu plaid nhw yn ennill mwyafrif, eu harweinydd nhw fydd y Prif Weinidog, a’r person hwnnw sy’n dewis pwy sy’n cael safleoedd uwch eraill yn y Llywodraeth, fel Canghellor y Trysorlys, yr Ysgrifennydd Gwladol a’r Ysgrifennydd Tramor.
Sut mae cynghorau lleol yn cael eu hethol
Fel etholiadau Senedd y DU, mae’r system Cyntaf i’r Felin yn cael ei defnyddio i ethol cynghorwyr lleol.
Ar dy bapur pleidleisio, byddi di’n gweld rhestr o ymgeiswyr a byddi di’n cael dy ofyn i nodi ‘X’ wrth dy ddewis ymgeisydd, neu ymgeiswyr mewn rhai ardaloedd.
Yr ymgeisydd gyda’r nifer uchaf o bleidleisiau fydd dy gynrychiolydd. Mae gan rai ardaloedd ddau neu fwy o bobl yn eu cynrychioli, ond mae’r system yn gweithio yr un fath - yr ymgeiswyr gyda’r nifer uchaf o bleidleisiau sy’n ennill.