Adnoddau ID pleidleisiwr
Introduction
Mae’n rhaid i bleidleiswyr ddangos ID ffotograffig wrth bleidleisio mewn gorsaf bleidleisio mewn rhai etholiadau.
Mae’r gofyniad hwn yn gymwys i is-etholiadau Senedd y DU, deisebau adalw ac etholiadau lleol yn Lloegr, ac etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu yng Nghymru a Lloegr.
Nid yw’n gymwys yn etholiadau Senedd Cymru, nac yn etholiadau Senedd yr Alban, nac mewn etholiadau cynghorau yng Nghymru a'r Alban.
Lawrlwythwch ein hadnoddau
Gall sefydliadau sy’n gweithio’n uniongyrchol gyda phleidleiswyr, gan gynnwys awdurdodau lleol ac elusennau, chwarae rôl bwysig wrth gynorthwyo pleidleiswyr i sicrhau fod ganddynt ID ffotograffig cyn unrhyw etholiad lle mae’r gofyniad yn gymwys.
Canllaw Cyflym i Bleidleisio
Rydym wedi creu cyfres newydd o animeiddiadau sy'n esbonio'r broses bleidleisio gam wrth gam, gan gynnwys ID pleidleisiwr. Mae'r animeiddiadau hyn wedi'u datblygu i'w rhannu gan bartneriaid ar eu sianeli digidol.
Mae'r gyfres yn cynnwys "pennod ragarweiniol" i chi rannu'r gyfres gyda'ch cynulleidfa, a hefyd naw pennod unigol sy'n canolbwyntio ar bynciau penodol.d ar eu sianeli digidol.
Welsh
Pa etholiadau sy’n gofyn am ID pleidleisiwr
Pa fathau o ID pleidleisiwr allwch chi eu defnyddio
Gwneud cais am ID pleidleisiwr am ddim
Gwneud cais am Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr
Beth i'w ddisgwyl yn yr orsaf bleidleisio
Gwirio eich ID ffotograffig yn yr orsaf bleidleisio
Cymorth yn yr orsaf bleidleisio
English
Which elections require voter ID
Which forms of voter ID can you use
Applying for a Voter Authority Certificate
What to expect at the polling station
Checking your photo ID at the polling station
Support at the polling station
Gellir gweld y gyfres Cymru gyfan hefyd ar ein sianel YouTube yn Gymraeg a Saesneg.
Pecynnau Partner
Rydym wedi cynhyrchu ‘pecyn partneriaid’ sy’n cynnwys set generig o adnoddau i’w defnyddio yng Nghymru, Lloegr a’r Alban. Bydd yr adnoddau hyn yn helpu sefydliadau i godi ymwybyddiaeth ac yn cynorthwyo pleidleiswyr gyda gwneud cais am Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr, os bydd angen. Mae’r pecyn hwn yn cynnwys gwybodaeth am gofrestru pleidleiswyr, yn ogystal â gwybodaeth sydd wedi’i theilwra at anghenion grwpiau yr ydym yn gwybod eu bod yn fwy tebygol o wynebu rhwystrau wrth fodloni’r gofyniad hwn ac a fydd efallai angen cymorth i gael mynediad at ID ffotograffig.
Mae’r pecyn yn cynnwys:
- Arweiniad i staff a gwirfoddolwyr
- Llyfryn i bleidleiswyr
- Mewnosodiad A5 sy’n crynhoi’r gofyniad
- Posteri
- Templed ar gyfer y we a chopi ar gyfer cylchlythyr
- Templedi graffigau dangosyddion digidol, graffigau cyfryngau cymdeithasol a chopi
Lawrlwythwch y Pecyn Partneriaid
Adnoddau ar gyfer pleidleiswyr dienw
Rydym hefyd wedi cyhoeddi adnoddau sydd wedi’u teilwra at anghenion pobl sydd wedi’u cofrestru i bleidleisio’n anhysbys, neu a allai elwa o wneud hynny, megis y sawl sy'n goroesi cam-drin domestig
Lawrlwythwch y Pecyn Partneriaid ar gyfer pleidleiswyr dienw
Adnoddau mewn fformatau hygyrch
Rydym wedi cyhoeddi gwybodaeth i helpu pleidleiswyr anabl gyda’r gofyniad.
Braille
Lawrlwythwch canllaw i staff mewn Braille
Lawrlwythwch yr arweiniad ar bleidleiswyr dienw sydd ar gyfer staff mewn Braille
Lawrlwythwch y llyfryn i bleidleiswyr mewn Braille
Lawrlwythwch y llyfryn i bleidleiswyr dienw mewn Braille
BSL
Lawrlwythwch Canllawiau BSL ar gyfer ID Pleidleisiwr
Gallwch hefyd weld y Canllawiau BSL ar gyfer ID Pleidleisiwr ar ein sianel YouTube.
Hawdd ei Ddarllen
Lawrlwythwch yr adnodd hwn mewn fformat Hawdd ei Ddarllen
Sain
Lawrlwythwch canllaw i staff mewn fformat sain
Lawrlwythwch yr arweiniad ar bleidleiswyr dienw sydd ar gyfer staff mewn fformat sain
Lawrlwythwch y llyfryn i bleidleiswyr mewn fformat sain
Lawrlwythwch y llyfryn i bleidleiswyr dienw mewn fformat sain
Testun plaen
Lawrlwythwch canllaw i staff mewn fformat testun plaen
Lawrlwythwch yr arweiniad ar bleidleiswyr dienw sydd ar gyfer staff mewn fformat testun plaen
Lawrlwythwch y llyfryn i bleidleiswyr mewn fformat testun plaen
Lawrlwythwch y llyfryn i bleidleiswyr dienw mewn fformat testun plaen