Newidiadau i bleidleisio drwy'r post a thrwy ddirprwy
Introduction
Bu newidiadau i bleidleisio drwy’r post a thrwy ddirprwy:
- Gall pleidleiswyr nawr wneud cais ar-lein i bleidleisio drwy'r post a rhai mathau o bleidleisio drwy ddirprwy
- Mae angen i bleidleiswyr brofi pwy ydynt wrth wneud cais i bleidleisio drwy'r post a thrwy ddirprwy
- Mae terfynau ar faint o bobl y gall rhywun weithredu fel dirprwy ar eu rhan
- Mae angen i bleidleiswyr ailymgeisio am bleidlais bost bob tair blynedd
Mae’r newidiadau yn berthnasol i etholiadau Senedd y DU, gan gynnwys is-etholiadau a deisebau adalw, etholiadau lleol yn Lloegr ac etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu yng Nghymru a Lloegr.
Bydd y cyfyngiad ar faint o bobl y gall pleidleisiwr weithredu fel dirprwy ar eu rhan hefyd yn berthnasol mewn etholiadau lleol ac etholiadau’r Cynulliad yng Ngogledd Iwerddon.
Cyflwyno pleidleisiau post
O 2 Mai, yn etholiadau Senedd y DU, mewn etholiadau lleol yn Lloegr ac yn etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu yng Nghymru a Lloegr, bydd pleidleiswyr dim ond yn gallu cyflwyno’u pleidlais bost eu hunain, a phleidleisiau post hyd at bum person arall, mewn swyddfa bleidleisio.
Bydd ymgyrchwyr dim ond yn gallu cyflwyno’u pleidlais bost eu hunain, a phleidleisiau post ar gyfer hyd at bum person arall sydd naill ai’n berthynas agos neu’n rhywun y maent yn darparu gofal rheolaidd ar ei gyfer.
Yng Ngogledd Iwerddon, bydd hi'n drosedd i ymgyrchydd drin pleidlais bost pleidleisiwr arall. Ni ellir derbyn pleidleisiau post mewn gorsafoedd pleidleisio.
Lawrlwythwch ein hadnoddau
Rydym wedi cynhyrchu ystod o adnoddau i helpu awdurdodau lleol, Swyddogion Cofrestru Etholiadol a phartneriaid eraill i gyfleu'r newidiadau hyn i drigolion. Mae'r rhain yn cynnwys posteri, taflen, Cwestiynau Cyffredin ar gyfer y Wasg, graffeg cyfryngau cymdeithasol a phostiadau templed, baneri y we, copi cylchlythyr a gwe templed.
Posteri a Thaflen A5
Mae’r posteri a’r daflen yn crynhoi’r newidiadau hyn, ac maent ar gael mewn dau fformat:
- ‘Print proffesiynol’, yn cynnwys olion torri ac estyn
- ‘Argraffu parod’, i’w argraffu ar argraffydd cartref neu swyddfa
Newidiadau i Bleidleisio drwy'r Post a thrwy Ddirprwy – Posteri a Thaflen – Cymru
Cwestiynau Cyffredin ar gyfer y Wasg
Gall awdurdodau lleol ddefnyddio’r Cwestiynau Cyffredin ar gyfer y Wasg wrth ymateb i ymholiadau'r wasg yn ymwneud â'r newidiadau hyn.
Newidiadau i Bleidleisio drwy'r Post a thrwy Ddirprwy - Cwestiynau Cyffredin ar gyfer y Wasg - Cymru
Graffeg cyfryngau cymdeithasol a phostiadau templed
Mae'r graffeg cyfryngau cymdeithasol yn syml i'w defnyddio, gydag eiconau yn cynrychioli pob un o'r newidiadau amrywiol i bleidleisio drwy'r post a thrwy ddirprwy. Mae pob graffig yn cyfateb i bostiad templed gwahanol yn egluro'r newid perthnasol.
Baneri y we
Mae baneri y we yn cynnwys neges generig yn cyhoeddi'r newidiadau hyn. Gellir eu harddangos ar wefannau cynghorau i helpu i wneud trigolion yn ymwybodol a’u cyfeirio at wefan y Comisiwn Etholiadol am ragor o wybodaeth.
Newidiadau i Bleidleisio drwy'r Post a thrwy Ddirprwy - Baneri y we - Cymru
Gwe a chopi cylchlythyr
Newidiadau i Bleidleisio drwy'r Post a thrwy Ddirprwy - Gwe a Chopi Cylchlythyr - Cymru
Newidiadau i drin pleidleisiau post a chyfrinachedd
Newidiadau i drin pleidleisiau post a chyfrinachedd - Gwe a chopi cylchlythyr - Cymru