Ein Huwch Tîm Arwain
Gwybodaeth am ein Huwch Tîm Arwain
Mae ein Huwch Tîm Arwain yn cefnogi'r cyfarwyddwyr ac yn sicrhau bod eu timau'n gallu cyflwyno ein strategaethau a gweithio'n effeithiol.
Gweinyddiaeth Etholiadol a Chanllawiau
Mae gan y gyfarwyddiaeth Gweinyddiaeth Etholiadol a Chanllawiau rôl bwysig wrth sicrhau bod etholiadau yn y DU yn cael eu cynnal yn dda.
Maent yn gweithio gydag ystod amrywiol o randdeiliaid, megis gweinyddwyr etholiadol, pleidiau, ymgyrchwyr, llywodraethau, a sefydliadau trydydd sector.
Maent yn darparu cyngor ac arweiniad i'r rhanddeiliaid hyn, ac i dimau ar draws y sefydliad. Mae hyn yn sicrhau eu bod yn diwallu anghenion pawb sy'n ymwneud ag etholiadau yn y DU.
Arweinwyr yn y gyfarwyddiaeth Gweinyddiaeth Etholiadol a Chanllawiau
- Melanie Davidson, Pennaeth Cefnogaeth a Gwella
- Charlene Hannon, Pennaeth Canllawiau
Cyfathrebu, Polisi ac Ymchwil
Mae’r gyfarwyddiaeth Cyfathrebu, Polisi ac Ymchwil yn cefnogi’r sefydliad i:
- deall y broses ddemocrataidd a sut mae'n gweithio
- deall yr hyn y credwn y gellir ei wneud i'w wella
- dweud wrth bobl eraill beth sy'n bwysig yn ein barn ni
Maent yn gweithio gyda thimau ar draws y sefydliad i'w cefnogi gyda'u gwaith, ac i godi ymwybyddiaeth o'r hyn y maent yn ei wneud yn allanol.
Arweinwyr yn y gyfarwyddiaeth Cyfathrebu, Polisi ac Ymchwil
- Tim Crowley, Pennaeth Cyfathrebu Digidol ac Ymgysylltu â Phleidleiswyr
- Su Crown, Pennaeth Ymgyrchoedd a Hunaniaeth Gorfforaethol
- Tom Hawthorn, Pennaeth Polisi
- Niki Nixon, Pennaeth Cyfathrebu Allanol
- Phil Thompson, Pennaeth Ymchwil
Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol
Mae'r gyfarwyddiaeth Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol yn gyfrifol am reoli cyllid y Comisiwn o ddydd i ddydd.
Mae’r tîm Cynllunio a Pherfformiad yn cefnogi'r sefydliad i wneud penderfyniadau, perfformio'n effeithiol, a chynllunio a pharatoi ar gyfer y dyfodol.
Gyda’i gilydd, maent yn cefnogi’r sefydliad i gyflawni ein nodau a’n hamcanion corfforaethol.
Arweinwyr yn y gyfarwyddiaeth Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol
- Tracey Blackman, Pennaeth Cyllid a Chaffael
- Asam Iqbal, Pennaeth Dros Dro Partneru Busnes Cyllid a Chynllunio
- Denise Morgan-Agbenyegah, Pennaeth Adnoddau Dynol
- Bola Raji, Pennaeth Dros Dro Cynllunio Strategol a Pherfformiad
- Carol Sweetenham, Pennaeth Prosiectau
Gwasanaethau Cyfreithiol a Diwygio
Arweinwyr yn y gyfarwyddiaeth Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol
- Cahir Hughes, Pennaeth y Comisiwn Etholiadol, Gogledd Iwerddon
- Katy Knock, Pennaeth Deddfwriaeth, Strategaeth a Chydlynu
- Andy O'Neill, Pennaeth y Comisiwn Etholiadol, Yr Alban
- Rhydian Thomas - Pennaeth y Comisiwn Etholiadol, Cymru
Rheoleiddio a Thrawsnewid Digidol
Mae’r gyfarwyddiaeth Rheoleiddio a Thrawsnewid Digidol yn gyfrifol am reoleiddio pleidiau gwleidyddol, derbynwyr rheoledig ac ymgyrchwyr. Maent hefyd yn gyfrifol am welliannau TG a seilwaith.
Maent yn cefnogi pleidiau, ymgeiswyr ac ymgyrchwyr i ddeall a chydymffurfio â chyfraith etholiadol. Maent yn cynnig offer i gefnogi cydymffurfiaeth, megis gweminarau, sesiynau un i un a hyfforddiant pwrpasol.
Mae’r gyfarwyddiaeth hefyd yn darparu gwasanaeth cynghori fel y gall aelodau o'n cymuned a reoleiddir gysylltu â ni mewn ffordd ac ar amser sy'n gweithio iddynt.
Arweinwyr yn y gyfarwyddiaeth Rheoleiddio a Thrawsnewid Digidol
- Denise Bottom, Pennaeth Dros Dro Cefnogaeth Rheoleiddio
- Hannah Brown, Pennaeth Cofrestru, Cydymffurfiaeth a Thryloywder
- Andrew Simpson, Pennaeth Digidol, Data, Technoleg a Chyfleusterau