Adroddiad Monitro Blynyddol Safonau’r Gymraeg - 2022-2023
Overview
Yn unol â Safon 152, rydym wedi paratoi’r adroddiad hwn i ddangos ein bod wedi cydymffurfio â Safonau’r Gymraeg yn ystod blwyddyn ariannol 2022-23. Mae hyn yn rhoi cyfle gwerthfawr inni ddangos ein hymrwymiad sefydliadol i’r Gymraeg, a’i phwysigrwydd i’n gwaith yng Nghymru. Mater i’r Comisiwn Etholiadol gyfan yw Safonau’r Gymraeg a chyfrifoldeb pob tîm o’i fewn yw sicrhau cydymffurfiaeth, gyda chefnogaeth a mewnbwn cydweithwyr yn y Comisiwn Etholiadol yng Nghymru.
Safonau darparu gwasanaeth, llunio polisïau a gweithredu
Yn ystod y cyfnod 2022-23, bu cyfanswm o wyth aelod o staff llawn amser yn gweithio yn Swyddfa Cymru y Comisiwn Etholiadol, tri ohonynt yn siaradwyr Cymraeg rhugl. Ar hyn o bryd mae gennym 171 o staff yn gweithio ledled y DU. Yn ystod y flwyddyn ariannol 2022-2023, cynhaliwyd archwiliad o allu iaith Gymraeg yr holl staff sy’n gweithio i’r Comisiwn Etholiadol yng Nghymru gan ddefnyddio’r Fframwaith Cyfeirio Ewropeaidd Cyffredin (CEFR). Asesodd aelodau staff eu lefel eu hunain.
Mae'r lefelau'n amrywio o ddefnyddiwr sylfaenol (A1, A2) defnyddiwr annibynnol (B1, B2) a defnyddiwr hyfedr (C1, C2) mewn pum categori (gwrando, darllen, rhyngweithio llafar, cynhyrchu llafar ac ysgrifennu).
Gwrando | Darllen | Rhyngweithio llafar | Cynhyrchu llafar | Ysgrifennu | |
---|---|---|---|---|---|
A1 | 0 | 0 | 0 | 1 | 1 |
A2 | 0 | 1 | 2 | 0 | 0 |
B1 | 3 | 2 | 0 | 2 | 3 |
B2 | 0 | 0 | 1 | 1 | 0 |
C1 | 0 | 0 | 1 | 0 | 0 |
C2 | 4 | 4 | 3 | 3 | 3 |
Gall holl staff perthnasol Cymru gyfarch eraill drwy gyfrwng y Gymraeg, ac maent yn gwneud hynny wrth ateb galwadau ffôn. Maent hefyd yn cyfeirio rhanddeiliaid neu aelodau o’r cyhoedd at ein staff a’n gwasanaethau sy’n siarad Cymraeg os oes angen.
Gall staff yng Nghymru fynychu gwersi Cymraeg gyda chefnogaeth y sefydliad a chânt eu hannog i wella eu sgiliau Cymraeg.
Ni fynychodd unrhyw aelod o staff gyrsiau trwy gyfrwng y Gymraeg yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Fodd bynnag, yn unol â Safon 124, mae staff yn ymwybodol bod cyrsiau hyfforddi a gynigir yn fewnol ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg, os dymunir.
Yn ogystal â’r wybodaeth a ddarparwn mewn perthynas â’n polisi defnydd mewnol o’r Gymraeg, rydym yn darparu termau ac ymadroddion Cymraeg defnyddiol i’n haelodau. Mae’r termau hyn yn annog staff nad oes ganddynt sgiliau Cymraeg i gyfarch pobl yn Gymraeg, a defnyddio rhywfaint o Gymraeg bob dydd. Mae’r termau hyn yn annog staff nad oes ganddynt sgiliau Cymraeg i gyfarch pobl yn Gymraeg a defnyddio rhywfaint o Gymraeg bob dydd.
Yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf, fe wnaethom hysbysebu’r swyddi canlynol:
• Uwch Gynghorydd Polisi (swydd llawn amser)
• Cynghorydd Cymorth a Gwybodaeth (swydd llawn amser)
Hysbysebwyd y ddwy swydd yn allanol ac yn ddwyieithog a nodwyd bod sgiliau Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y ddwy rôl.
Mae’r adran hon yn mynd i’r afael â chwynion mewn perthynas â materion darparu gwasanaeth, llunio polisïau, a gweithredu. Mae hyn yn cynnwys unrhyw gwynion a wneir yn uniongyrchol i unrhyw un o swyddfeydd y Comisiwn Etholiadol yn y DU.
Rydym wedi rhoi mesurau ar waith i sicrhau bod aelodau’r cyhoedd yn gallu cyflwyno cwyn drwy gyfrwng y Gymraeg, ac yna’n cael ymateb yn Gymraeg.
Yn ystod blwyddyn ariannol 2022-2023 ni dderbyniwyd unrhyw gwynion ynghylch y materion hyn.
Mae gennym fesurau ar waith i sicrhau bod ein holl ohebiaeth â rhanddeiliaid yng Nghymru yn cael ei hanfon yn ddwyieithog. Yn ogystal, mae mesurau mewn lle i sicrhau bod unrhyw ohebiaeth a dderbyniwn yn Gymraeg yn cael ei hateb yn Gymraeg.
Mae mesurau mewn lle i sicrhau bod pob aelod o’r cyhoedd sy’n cysylltu â ni drwy e-bost neu dros y ffôn yn gallu gwneud hynny yn Gymraeg, ac na fydd gwneud hynny’n achosi oedi mewn ymateb. Os bydd aelod o’r cyhoedd yn ein ffonio ac yn dymuno defnyddio’r Gymraeg, gallant wneud hynny. Os nad oes siaradwr Cymraeg ar gael bryd hynny, bydd y person yn cael y dewis i alw’r person yn ôl cyn gynted ag y bydd siaradwr Cymraeg ar gael.
Mae gennym wasanaeth ffôn Cymraeg sy'n trosglwyddo'n uniongyrchol i aelod o staff sy'n siarad Cymraeg. Gyda thri siaradwr Cymraeg rhugl yn gweithio ar un adeg yn nhîm Cymru, nid oes fawr o risg na fydd yr alwad yn cael ei hateb o fewn amser rhesymol.
Mae ein holl ddeunydd cyhoeddusrwydd a hysbysebu yng Nghymru, neu sy’n cynnwys gwybodaeth sy’n berthnasol i Gymru, yn cael ei gynhyrchu’n ddwyieithog. Gyda thri siaradwr Cymraeg rhugl yn gweithio ar un adeg yn nhîm Cymru, does fawr o risg na fydd yr alwad yn cael ei hateb o fewn amser rhesymol. Mae ein holl ddeunydd cyhoeddusrwydd a hysbysebu yng Nghymru, neu sy'n cynnwys gwybodaeth sy'n berthnasol i Gymru, yn cael ei gynhyrchu'n ddwyieithog.
Mae pob ymgyrch a gynhelir yng Nghymru, neu sy'n ymwneud â Chymru, yn ddwyieithog. Parhaodd y gwaith ar ein hymgyrch ddwyieithog 'Croeso i’ch Pleidlais /Welcome to Your Vote' a sefydlwyd ym mlwyddyn ariannol 2019-2020, ac a redodd cyn yr etholiadau llywodraeth leol yn 2022. Anelwyd yr ymgyrch at y pleidleiswyr hynny a oedd newydd eu hetholfreinio o ganlyniad i Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021.
Parhaodd gwaith hefyd ar yr Ymgyrch ‘Oes 5 ‘da ti / Got 5’ a lansiwyd yn 2020-21. Roedd yr ymgyrch hon yn annog pobl i gofrestru i bleidleisio cyn etholiadau Mai 2022. Yn ogystal, mae adnoddau dwyieithog ar-lein am y broses ddemocrataidd wedi eu creu at ddefnydd athrawon a phobl ifanc.
Pan fyddwn yn trefnu i ymwelwyr fynychu cyfarfodydd, mae mesurau mewn lle i sicrhau bod yr ymwelwyr hyn yn derbyn gwasanaeth Cymraeg, os dymunant. Mae gwasanaeth cyfieithu ar y pryd ar gael i randdeiliaid sy’n dymuno cyfrannu drwy gyfrwng y Gymraeg mewn cyfarfodydd rhithwir pan fo cylch gorchwyl y cyfarfod yn nodi y bydd cynnal yn Gymraeg a Saesneg. Rydym hefyd yn darparu cyfieithu ar y pryd mewn digwyddiadau lle gwahoddir rhanddeiliaid, e.e. digwyddiad i ymgeiswyr ac asiantau neu ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau.
Mae pob neges/trydariad sy’n ymwneud â Chymru neu sy’n effeithio ar Gymru yn cael eu cyhoeddi’n ddwyieithog ar ein cyfrifon cyfryngau cymdeithasol. Mae un cyfrif Twitter dwyieithog (@ElectoralWales) a reolir gan staff y Comisiwn Etholiadol yng Nghymru. Mae gwybodaeth a fwriedir yn benodol ar gyfer Cymru yn cael ei chynhyrchu a'i rhannu gan y cyfrif hwn. Mae trydariadau'n cael eu creu'n ddwyieithog, naill ai o fewn un trydariad, neu drwy drydariad ar wahân sy'n cael ei rannu ar yr un pryd.
Os bydd unrhyw un yn cysylltu â ni yn Gymraeg trwy ein cyfryngau cymdeithasol, mae mesurau mewn lle i sicrhau eu bod yn derbyn ateb yn Gymraeg, ac nad yw hyn yn oedi ateb.
Cynhyrchir ein holl ganllawiau a chynnwys arall sy’n berthnasol i Gymru yn ddwyieithog, a chyhoeddir y fersiynau Cymraeg a Saesneg ar yr un pryd fel nad oes bwlch yn y ddarpariaeth Gymraeg. Lle ceir diweddariadau, bydd y fersiynau Cymraeg yn cael eu diweddaru ar yr un pryd â'r fersiynau Saesneg. Lle mae darpariaeth Gymraeg ar gael, caiff ei hyrwyddo'n rhagweithiol, a dangosir yr opsiwn ar gyfer cynnwys Cymraeg yn glir ar gynnwys Saesneg cyfatebol.
Mae gennym bolisi ar y defnydd o’r Gymraeg yn fewnol yn y Comisiwn Etholiadol yng Nghymru. Mae'r ddogfen hon yn nodi bod mesurau mewn lle i sicrhau bod unrhyw aelod o staff sy'n gweithio yn Swyddfa Cymru'r Comisiwn Etholiadol yn gallu derbyn gwasanaethau mewnol trwy gyfrwng y Gymraeg, os dymunant.
Mae’r ddogfen hon ar gael i’n holl staff drwy ein mewnrwyd. Mae polisïau perthnasol sy’n ymwneud â defnyddio’r Gymraeg ar gael yn adrannau Adnoddau Dynol ein mewnrwyd.
Mae ein holl bolisïau adnoddau dynol wedi'u cyfieithu ac maent i gyd ar gael yn ddwyieithog.
Mae gwybodaeth sy’n ymwneud ag unrhyw grantiau neu dendrau yng Nghymru yn cael ei chyhoeddi a’i hyrwyddo’n ddwyieithog, a gellir ei darparu yn Gymraeg, os dymunir.
Tynnwyd ein sylw yn ystod y flwyddyn ariannol hon (2023-2024) bod angen Polisi Dyfarnu Grantiau arnom, rydym yn y broses o’i gynhyrchu ar hyn o bryd.
Mae digwyddiadau'r Comisiwn Etholiadol yng Nghymru yn cael eu hysbysebu a'u hyrwyddo yn Gymraeg a Saesneg, ac mae darpariaeth Gymraeg ar gael. Yn ogystal, mae gwybodaeth am y digwyddiadau hyn, megis taflenni, arwyddion, ac ati, yn ddwyieithog.
Mae safonau llunio polisi wedi'u cynnwys yn ein dogfen 'Asesiadau Effaith Cydraddoldeb'. Mae'r ddogfen hon ar gael i'r holl staff drwy ein mewnrwyd. Bydd effaith unrhyw bolisi newydd ar y Gymraeg yn cael ei fesur drwy'r weithdrefn Asesu Effaith Cydraddoldeb.
Edrych i'r dyfodol, a'n camau nesaf
Yn ystod blwyddyn ariannol 2023-24 rydym wedi creu dwy rôl dros dro newydd, (Cyfieithydd Cymraeg a Swyddog Cymorth Digidol Cymraeg), gyda Sgiliau Iaith Gymraeg nid yn unig wedi’i nodi fel hanfodol yn y disgrifiad swydd ond fo dy Gymraeg yn rhan hanfodol o’r rôl. Crëwyd y rolau hyn i gynyddu ein capasiti i gyhoeddi dogfennau ac adnoddau yn y Gymraeg ac i sicrhau bod gofynion Safonau’r Gymraeg yn cael eu bodloni. Mae’r ddwy rôl am gyfnod o chwe mis a byddwn yn asesu llwyddiant yr adnodd ychwanegol hwn ar ddiwedd y cyfnod.
Rydym hefyd yn y broses o gynnal adolygiad o’n proses gyfieithu bresennol i wneud y mwyaf o’n hadnoddau ac adnabod unrhyw feysydd lle mae angen i ni gryfhau dealltwriaeth staff o’u cyfrifoldebau mewn perthynas â Safonau’r Gymraeg.