Adroddiad Monitro Blynyddol Safonau’r Gymraeg - 2023-2024

Overview

Rydym wedi paratoi’r adroddiad hwn yn unol â safon 152 i ddangos ein bod wedi cydymffurfio â Safonau’r Gymraeg yn ystod blwyddyn ariannol 2023-24. Creuwyd Safonau’r Iaith Gymraeg yn unol â Mesur y Gymraeg (2011). Mae’r safonau hyn yn cael eu rheoleiddio gan Gomisiynydd yr Iaith Gymraeg. Mae gan y Comisiwn Etholiadol ddyletswydd statudol i gydlynnu â’r safonau hyn. Mae’r adroddiad hwn yn rhoi cyfle gwerthfawr inni ddangos ein hymrwymiad sefydliadol i’r Gymraeg, a’i phwysigrwydd i’n gwaith yng Nghymru. 

Mater i’r Comisiwn Etholiadol gyfan yw Safonau’r Gymraeg a chyfrifoldeb pob tîm o fewn y sefydliad yw sicrhau cydymffurfiaeth, gyda chefnogaeth a mewnbwn cydweithwyr yn swyddfa y Comisiwn Etholiadol yng Nghymru a gwasanaethau cefnogol perthnasol eraill.