Rydym yn gyfrifol am reoli cyllid y Comisiwn o ddydd i ddydd. Mae hyn yn cynnwys:
gweinyddu a rheoli ein cyfrifon yn effeithiol ac effeithlon
cyngor ynghylch caffael a chontractau
darparu fframwaith ar gyfer rheoli a chynnal rheolaethau ariannol a chydymffurfiaeth ar draws y sefydliad
Mae ein tîm Cynllunio a Pherfformiad yn cefnogi'r Comisiwn i wneud penderfyniadau, perfformio'n effeithiol, a chynllunio a pharatoi ar gyfer y dyfodol. Mae hyn yn cynnwys rheoli'r rhaglen a’r fframwaith rheoli prosiectau. Gyda’n gilydd, rydym yn cefnogi’r sefydliad i gyflawni ein nod a’n hamcanion corfforaethol.