Rheoleiddio a Thrawsnewid Digidol
Intro
Mae ein cyfarwyddiaeth yn gyfrifol am reoleiddio pleidiau gwleidyddol, derbynwyr rheoledig ac ymgyrchwyr. Rydym hefyd yn gyfrifol am welliannau TG a seilwaith.
Rydym yn cefnogi pleidiau, ymgeiswyr ac ymgyrchwyr i ddeall a chydymffurfio â chyfraith etholiadol. Rydym yn cynnig offer i gefnogi cydymffurfiaeth, megis gweminarau, sesiynau un i un a hyfforddiant pwrpasol.
Rydym hefyd yn darparu gwasanaeth cynghori fel y gall aelodau o'n cymuned a reoleiddir gysylltu â ni mewn ffordd ac ar amser sy'n gweithio iddynt.
Mae ein cyfarwyddiaeth yn cyhoeddi canllawiau a chyngor i bleidiau gwleidyddol, ymgyrchwyr, ymgeiswyr ac asiantiaid. Mae hyn yn sicrhau eu bod yn deall ac yn gallu cydymffurfio â chyfreithiau cyllid. Rydym yn cynnal y cofrestrau o bleidiau gwleidyddol ac ymgyrchwyr ac yn cyhoeddi eu gwybodaeth ariannol. Mae hyn yn cynnwys:
- rhoddion a benthyciadau a roddwyd iddynt
- yr hyn y maent wedi’i wario ar eu hymgyrch ar ôl etholiad neu refferendwm
- eu cyfrifon blynyddol
Neil, Rheolwr Prosiect, Cyllid Gwleidyddol Ar-lein
Rydw i'n mwynhau bod yn rhan o gyfarwyddiaeth fawr sy'n edrych i'r dyfodol. Mae'n darparu cyfleoedd dysgu gwych ar draws ystod eang o feysydd swyddogaethol y Comisiwn. Mae'n wych bod yn rhan o dîm sydd â chyfres o sgiliau mor arbenigol, sydd yn ehangu fy ngwybodaeth am y gyfarwyddiaeth gyfan. Mae gweithio oriau cywasgedig wedi gwella fy mywyd gwaith, gan fy ngalluogi i ganolbwyntio ar flaenoriaethau uniongyrchol tra'n rhoi amser ychwanegol i mi ei dreulio gyda fy nheulu ifanc.
More info
Rydym yn cyhoeddi'r cofrestrau a'r wybodaeth ariannol fel y gall pleidleiswyr weld sut mae pleidiau gwleidyddol, ymgyrchwyr a grwpiau eraill yn cael eu hariannu, a sut maent yn gwario'r arian hwnnw i ddylanwadu ar bleidleiswyr.
O ymyrraeth gynnar i ymchwiliadau, rydym yn cymryd camau rheoleiddio i gynnal lefelau uchel o gydymffurfiaeth gan bleidiau ac ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau.
Mae ein gwaith gorfodi yn defnyddio dull rheoleiddio cadarn sy'n cael ei arwain gan gudd-wybodaeth. Rydym yn monitro pawb rydym yn eu rheoleiddio i sicrhau eu bod yn dilyn y rheolau.
Mae ein cyfarwyddiaeth hefyd yn cynnwys ein swyddogaeth ddigidol, data, technoleg a chyfleusterau. Mae'r swyddogaeth hon yn cefnogi ein pobl trwy ein desg gymorth TG, ac yn gwella ein seilwaith a chyfleusterau TG ar draws ein swyddfeydd.
Esrar, Rheolwr Desg Gwasanaeth TG
Rydw i wedi gweithio yn y Comisiwn ers bron i 20 mlynedd, gan symud ymlaen o rolau cymorth TG i reoli gwasanaethau cymorth TG. Rydw i wedi cael rheolwyr anhygoel a wnaeth fy nghefnogi a'm hannog i dyfu. Mae'r bobl rydw i'n gweithio gyda nhw yn anhygoel ac mae'r gefnogaeth gan fy rheolwyr wedi bod yn un o'r rhesymau mwyaf pam rydw i wedi bod yma cyhyd. Mae gennym ni rai prosiectau cyffrous ar y gweill ym maes TG a fydd yn ein symud ymlaen. Mae sicrhau bod gennym system TG wych sy'n cefnogi ein sefydliad i gyflawni'r gwaith y mae'n ei wneud yn agos at fy nghalon.