Cydraddoldeb ac amrywiaeth
Cynllun Cydraddoldeb 2014
Dyma'n cynllun cydraddoldeb ar gyfer Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon. Mae'n nodi sut rydym yn hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth fel cyflogwr, trwy ein gwaith rheoleiddio cyllid pleidiau ac etholiadau, a'n gwaith gosod safonau ar gyfer etholiadau a chofrestru etholiadol llwyddiannus.
Mae'r cynllun yn nodi ein blaenoriaethau cydraddoldeb ac amrywiaeth,gan gynnwys cynllun gweithredu sy'n dangos ein gweithgareddau cyfredol a'r gwaith y byddwn yn ei wneud i gyflawni ein blaenoriaethau.
Ein datganiad polisi cyfleoedd cyfartal
Mae'r datganiad hwn yn grynodeb o sut rydym yn hyrwyddo cyfleoedd cyfartal ar gyfer ein holl randdeiliaid.
Safonau’r Iaith Gymraeg
Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth dwyieithog yng Nghymru. Mae pob aelod o staff yn gyfrifol am ddarparu gwasanaeth dwyieithog.
Os hoffech ddysgu rhgaor am ein hymrwymiad i'r Iaith Gymraeg a'n Safonau Iaith Gymraeg, cysylltwch â ni.
Polisi Cyflogi Cyn-Droseddwyr
Mae’r Comisiwn yn hyrwyddo cydraddoldeb cyfleoedd mewn modd rhagweithiol er mwyn ymgyrraedd at y gymysgedd orau o dalent, sgiliau, a photensial, a chroesawu ystod eang o ymgeiswyr, gan gynnwys y rheiny â chofnod troseddol.
Darllenwch ein Polisi Cyflogi Cyn-Droseddwyr am ragor o wybodaeth.