Ein diwylliant a’n gwerthoedd
Ein siarter diwylliant
Rydym yn gwneud yn siŵr bod pawb yn y Comisiwn yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a’u cefnogi i gyflawni eu potensial. Mae ein siarter diwylliant a'n gwerthoedd yn dweud wrth ein pobl beth sy'n bwysig i ni a'r hyn yr ydym yn ei ddisgwyl ganddynt.
culture charter
- Rydym yn agored i syniadau newydd a ffyrdd newydd o feddwl, ac yn rhoi gwerth ar wybodaeth a sgiliau gwahanol.
- Rydym yn creu gweithle lle mae pawb yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi, yn cael eu hannog i gyfrannu ac yn gallu cyflawni eu potensial.
- Rydym yn sefyll yn erbyn bwlio ac aflonyddu. Mae gennym yr offer a'r gefnogaeth i herio'r ymddygiad hwn.
- Rydym yn creu amgylchedd agored, croesawgar a chynhwysol i bawb.
- Rydym yn annog datblygiad proffesiynol a phersonol, gan roi'r offer a'r hyfforddiant i'n pobl i greu gwaith o ansawdd uchel.
- Rydym yn croesawu adborth ac yn ei roi mewn ffordd gadarnhaol ac adeiladol.
- Rydym yn gofyn am gymorth pan fod ei angen arnom, ac yn barod i helpu eraill.
- Rydym yn hyrwyddo cyflawniadau proffesiynol neu bersonol eraill.
- Rydym yn gweithio ar y cyd â thimau ar draws ein sefydliad. Rydym yn rhannu adnoddau, gwybodaeth a syniadau, ac yn cefnogi ein gilydd i gyflawni ein nodau.
- Rydym yn gydymdeimladol ac yn hyblyg i anghenion ac amgylchiadau unigol ac i ffyrdd eraill o weithio.
- Rydym yn agored i newid a’r opsiynau a ddaw yn ei sgil.
Ein strategaeth pobl
Mae ein strategaeth pobl yn gosod ein pobl wrth wraidd yr hyn a wnawn.
Mae wedi cael ei ffurfio gan bawb yn y Comisiwn, gan dynnu ar adborth gan ein Grŵp Ymgysylltu â Staff, yr Uwch Dîm Arwain, cynrychiolwyr undebau llafur a grwpiau ffocws.
People strategy
Rydym yn helpu ein pobl i ddatblygu sgiliau gydol oes trwy greu amgylchedd cadarnhaol ar gyfer dysgu.
Rydym yn grymuso ac yn cymell ein pobl i ddysgu, tyfu a chymryd perchnogaeth o ddatblygiad eu gyrfa.
Rydym yn sicrhau bod dysgu yn cael ei weld fel rhan bwysig o gyflawni nodau’r Comisiwn.
Rydym wedi gwneud datblygu yn ganolbwynt i'n proses adolygu perfformiad.
Rydym yn annog sgyrsiau agored, gonest ac adeiladol.
Mae ein proses recriwtio a dethol yn hawdd ei defnyddio, yn symlach, yn ddeniadol ac yn hygyrch. Mae'n sicrhau bod y Comisiwn yn adlewyrchu'r bobl y mae'n eu gwasanaethu.
Rydym wedi ymrwymo i ddarparu amgylchedd gwaith cynhwysol ac amrywiol. Caiff pob cydweithiwr ei drin â chydraddoldeb, urddas a pharch.
Nid ydym yn goddef bwlio ac aflonyddu, o fewn y sefydliad ac yn ein perthynas â rhanddeiliaid.
download our people strategy
Lawrlwythwch ein strategaeth pobl
Shivam, Cynorthwyydd Cyllid
Fel prentis cyntaf y Comisiwn, dwi wir yn gwerthfawrogi’r cyfle dwi wedi’i gael. Rydw i wedi cael tyfu i mewn i fy rôl ac wedi cael yr ymddiriedaeth i gymryd dyletswyddau a chyfrifoldebau sydd wedi gwneud i mi deimlo’n rhan o’r tîm. Rwy’n obeithiol y bydd llawer mwy o brentisiaid ar fy ôl, oherwydd mae’r Comisiwn Etholiadol yn lle gwych i weithio, ac mae hefyd yn cynnig digon o gymorth gydag astudiaethau a datblygu.