NI office

Beth rydym yn ei wneud

Mae ein cyfrifoldeb yn cwmpasu'r broses etholiadol yng Ngogledd Iwerddon. Rydym yn sicrhau bod rhanddeiliaid yn cyfrannu at bob agwedd ar waith y Comisiwn, a bod arferion sy’n unigryw i Ogledd Iwerddon yn cael eu hadlewyrchu’n llawn.

Rydym yn gweithio gydag aelodau etholedig a swyddogion Cynulliad Gogledd Iwerddon, Llywodraeth y DU, awdurdodau lleol, a chyrff perthnasol y sector cyhoeddus a’r sector gwirfoddol.

Rydym hefyd yn gweithio'n agos gyda Phrif Swyddog Etholiadol Gogledd Iwerddon, uwch staff yn Swyddfa Etholiadol Gogledd Iwerddon, a swyddogion yn Swyddfa Gogledd Iwerddon. 

Rydym yn delio gydag ymholiadau a cheisiadau am gyngor gan y cyhoedd a sefydliadau perthnasol ar faterion etholiadol.

Rydym yn darparu gwybodaeth ymwybyddiaeth y cyhoedd ac yn gweithio gyda sefydliadau partner yng Ngogledd Iwerddon i hyrwyddo cofrestru pleidleiswyr. Rydym hefyd yn gweithio'n agos gyda chydweithwyr ar draws y DU, ac yn cyflawni ein cynllun achredu arsyllwyr etholiadol.

Sut i ddod o hyd i ni

Rydym wedi ein lleoli yn The Boat, 49 Queen's Square, Belfast, BT1 3FG