Swyddfa Llundain

Mae’r rhan fwyaf o’n timau wedi’u lleoli yn ein swyddfa yn Llundain.

Mae ein swyddfa wedi'i dylunio i greu gwagle deniadol, cydweithredol a phroffesiynol. Mae wedi'i addasu i gefnogi'r ffyrdd o weithio sy'n gweddu ein pobl orau.

Mae yna ardaloedd ymneilltuo sydd wedi'u sefydlu ar gyfer gweithio fel grŵp, a mannau tawel sy'n caniatáu i'n pobl ganolbwyntio. Mae ein hystafelloedd cyfarfod wedi’u haddasu ar gyfer gweithio hyblyg. Gall pawb ymuno â chyfarfodydd yn rhwydd, naill ai o gartref neu o'n swyddfeydd eraill.
 

Sut i ddod o hyd i ni

Rydym wedi ein lleoli yn 3 Bunhill Row, London, EC1Y 8YZ