Beth rydym yn ei wneud

Rydym yn gweithio gyda thimau ar draws y sefydliad i gyflawni gwaith y Comisiwn yn yr Alban.
Mae hyn yn cynnwys:

  • Darparu cyngor ac arweiniad i ymgeiswyr, pleidiau ac ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau mewn etholiadau a refferenda
  • Monitro gweithgareddau'r grwpiau hyn i fesur gwariant a chydymffurfiaeth
  • Gweithio gyda gweinyddwyr etholiadol i annog arfer da a lefelau uchelo wasanaeth i bleidleiswyr yn yr Alban
  • Darparu cyngor ac arweiniad i unrhyw un sy'n cofrestru a chynnal plaid wleidyddol newydd
  • Cynnal ymgyrchoedd ymwybyddiaeth y cyhoedd fel bod pleidleiswyr yn gwybod sut i gofrestru a bwrw eu pleidlais
  • Rheoli perthnasoedd rhanddeiliaid ag Aelodau Senedd yr Alban (ASA), y cyfryngau a sefydliadau partner
  • Cyflawni ein cynllun achredu arsyllwyr etholiadol

Sut i ddod o hyd i ni

Rydym wedi ein lleoli yn City Chambers, High Street, Edinburgh, EH1 1YJ

Sarah, Rheolwr

Mae gweithio mewn swyddfa ddatganoledig yn y Comisiwn wedi fy ngalluogi i gael golwg gyflawn ar bob rhan o’n prosesau democrataidd a gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i sicrhau bod cymaint o bobl â phosibl yn gallu cymryd rhan yn ein democratiaeth. Fel rhiant sy'n gweithio, mae'r trefniadau gweithio hyblyg y mae'r Comisiwn yn eu darparu wedi fy ngalluogi i fanteisio ar gyfleoedd i ddatblygu fy ngyrfa tra'n dal i allu bod yn hyblyg o amgylch anghenion newidiol fy nheulu.

Sarah, Rheolwr