Yr hyn rydym yn ei gynnig
Intro
Rydym yn gwerthfawrogi ein staff, ac mae ein buddiannau’n adlewyrchu hyn. Rydym hefyd yn cynnig ystod o bolisïau gweithio hyblyg sy'n caniatáu i'n pobl weithio yn y ffordd sy'n gweddu orau i'w hanghenion.
What we offer info
Gwyliau Blynyddol
Mae gennym lwfans gwyliau hael sy'n cynyddu gyda gwasanaeth, gan ddechrau ar 27.5 diwrnod ynghyd â gwyliau cyhoeddus.
Gweithio hyblyg
Rydym yn rhoi gweithio hyblyg wrth wraidd ein sefydliad. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu cyfle cyfartal ac wedi datblygu polisïau sy’n cefnogi cydbwysedd bywyd a gwaith ein staff.
Mae staff ar bob lefel, ar draws y Comisiwn, yn elwa ar ein cynllun gweithio hyblyg. Er enghraifft, cywasgu eu horiau, rhannu swydd, gweithio gartref yn barhaol, neu weithio hybrid.
Rydym hefyd yn cynnig amser hyblyg. Mae hyn yn galluogi ein pobl i gael rhywfaint o amrywiaeth o ran oriau gwaith. Gall staff gymryd hyd at dri diwrnod o wyliau hyblyg bob mis. Gallant hefyd gronni hwn a'i gymryd fel gwyliau.
Stuart employee testimonial
Ces i a fy mhartner ferch fach hardd yng ngwanwyn 2022. Mae’r polisi sy'n Ystyriol o Deuluoedd a’r polisi Gweithio Hyblyg wedi fy ngalluogi i fynd ymlaen i batrwm gweithio oriau cywasgedig eleni. Mae hyn wedi arbed cannoedd o bunnoedd i mi bob mis ar ffioedd meithrinfa, ac mae wedi bod yn hyfryd cael yr amser ychwanegol hwnnw bob wythnos i’w dreulio yn magu fy merch.
More what we offer
Cynllun pensiwn
Rhoddir cyfle i weithwyr contract parhaol a chyfnod penodol gofrestru ar gynllun pensiwn Alpha y Gwasanaeth Sifil.
Rydym yn gorff annibynnol, sy'n golygu nad yw ein staff yn weision sifil. Fodd bynnag, os ydych yn ymuno o’r Gwasanaeth Sifil, gallwch barhau i fod yn rhan o gynllun pensiwn y Gwasanaeth Sifil a throsglwyddo gyda chofnod gwasanaeth pensiwnadwy parhaus.
Dysgwch ragor am gynllun pensiwn y Gwasanaeth Sifil
Benenden Health
O'r diwrnod cyntaf, mae ein pobl yn elwa o aelodaeth Benenden Health.
Mae'r aelodaeth hon yn diwallu anghenion pobl sy'n chwilio am fynediad i wasanaethau gofal iechyd fel diagnosteg feddygol, triniaethau meddygol a llawdriniaethau, ffisiotherapi, mynediad at Feddyg Teulu 24 Awr, a llinellau cymorth iechyd meddwl.
Cyfleoedd dysgu a datblygu
Rydym yn cefnogi ein pobl i barhau i ddysgu a datblygu eu sgiliau.
Byddwch yn cael mynediad i sesiynau dysgu rheolaidd. Maent yn ymdrin ag ystod o bynciau, o ddysgu sgiliau newydd i ofalu am eich lles, a dysgu am waith timau ar draws y Comisiwn.
Rydym yn cefnogi ein pobl i gael mynediad at gyrsiau datblygiad proffesiynol parhaus (DPP). Rydym hefyd yn cynnig hyfforddiant arweinyddiaeth a datblygu.
Rhaglen Cymorth i Weithwyr
Mae ein pobl yn elwa ar fynediad i'n Rhaglen Cymorth i Weithwyr.
Mae hyn yn cynnwys hyd at wyth sesiwn o gwnsela wyneb yn wyneb, dros y ffôn neu ar-lein, gwasanaethau gwybodaeth gyfreithiol, gwybodaeth am ddyledion a gwybodaeth ariannol, mynediad i borth iechyd a lles ar-lein, a mwy.
Laura, Learning and Development Advisor
Ar ôl bod yn y Comisiwn ers sawl blwyddyn bellach, gallaf ddweud ei fod yn lle gwych i weithio. Mae agwedd y sefydliad at weithio hyblyg, rhan amser yn wych gan ei fod wedi fy ngalluogi i barhau â’m gweithgareddau gwaith personol y tu allan i’r Comisiwn, sydd at ei gilydd yn rhoi ymdeimlad cyffredinol o foddhad a boddhad swydd i mi. Rwy’n teimlo bod y sefydliad yn cydnabod ac yn gwerthfawrogi patrymau a steiliau gwaith gwahanol pobl, sy’n un o’r nifer o fanteision a ddarperir.
What we offer info
Cynllun talebau cydnabod
Rydym yn cydnabod y gwaith gwych y mae ein pobl yn ei wneud. Gall unrhyw un yn y sefydliad enwebu cydweithiwr am daleb cydnabod.
Gall y rhain amrywio o £25 fel diolch bach i £500 i gydnabod perfformiad neu waith sydd gryn dipyn y tu allan i ofynion arferol eu swydd.
Cynllun Blynyddol Er Budd i Chi
Bob mis Chwefror, mae ein pobl yn cael y cyfle i newid uchafswm o bum niwrnod o wyliau blynyddol yn gyfnewid am fuddiannau o'u dewis.
Mae'r rhain yn cynnwys yswiriant ar gyfer costau deintyddol, asesiadau iechyd, rhoddion i elusen, yswiriant Benenden ar gyfer perthynas neu ffrind a thalebau profiad anrheg Red-Letter Days.
Cynllun Beicio i'r Gwaith
Trwy ein Cynllun Beicio i'r Gwaith, gall ein pobl brynu beic, ategolion ac offer diogelwch beiciau.
Talebau gofal llygaid
Mae gan ein pobl hawl i daleb ar gyfer archwiliad llygaid bob blwyddyn. Mae'r cynllun yn caniatáu i chi ddewis yr optegydd mwyaf cyfleus o rwydwaith o fwy na 7,000 ar draws y DU.
Rydym hefyd yn cynnwys sbectolau presgripsiwn hyd at derfyn wedi'i gapio.
Olu, IT Support Officer
As a parent, the flexible working schemes within the Commission allow me to thoroughly enjoy my job without the worry of childcare restraints. I'm excited about the future and can't wait to see how the Commission and I continue to grow!