Gwneud Cais Rhyddid Gwybodaeth
Cyn gwneud cais
Rydym yn cyhoeddi llawer o wybodaeth yn rhagweithiol. Gallwch gael y wybodaeth hon yn:
- ein cynllun cyhoeddiadau
- ein hymatebion rhyddid gwybodaeth
- ein diweddariadau rhyddid gwybodaeth a'n tudalen ystadegau
Rydym yn cyhoeddi ein holl ymatebion ar gyfer y tair blynedd flaenorol ar ein gwefan. Rydym yn argymell eich bod yn chwilio ein hymatebion cyhoeddedig cyn cyflwyno cais. Rydym hefyd yn argymell eich bod yn darllen y canllawiau a ddarperir gan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth ynghylch sut i ddefnyddio eich hawliau mynediad yn effeithiol (Yn agor mewn ffenestr newydd).
Er mwyn gwneud cais llenwch y ffurflen isod; bydd angen i chi roi'r manylion canlynol i ni:
- eich enw
- cyfeiriad cyswllt, naill ai cyfeiriad e-bost neu gyfeiriad cartref
- disgrifiad manwl o'r wybodaeth rydych yn chwilio amdani, gan gynnwys pwnc ac ystod dyddiadau
- fformat y wybodaeth, sef electronig neu bapur
Make a Freedom of Information request
Answering Freedom of Information requests
Gallwch hefyd e-bostio eich cais i [email protected] (Yn agor mewn ffenestr newydd), neu ysgrifennu atom yn y cyfeiriad canlynol:
Access to Information Officer
The Electoral Commission
3 Bunhill Row
London
EC1Y 8YZ
Mae gennym swyddfeydd yng Nghaerdydd, Belfast, Caeredin a Llundain. Dylai pob cais Rhyddid Gwybodaeth a gyflwynir drwy lythyr gael ei anfon i'r swyddfa yn Llundain.
Byddwn yn ymateb i'ch cais ymhen 20 diwrnod gwaith.
Os na allwn ymateb i'ch cais ymhen 20 diwrnod gwaith, byddwn yn cysylltu â chi ac yn rhoi amcangyfrif o ran pryd y byddwn yn ymateb yn llawnach. Os byddwn yn cymhwyso cais eithriad amodol, efallai y bydd angen mwy nag 20 diwrnod gwaith arnom i ystyried a yw datgelu'r wybodaeth er budd y cyhoedd.
Rydym yn ceisio bod yn agored ac yn dryloyw ond mewn rhai amgylchiadau, ni allwn ryddhau'r wybodaeth y gofynnwyd amdani mewn modd cyfrifol. Nid yw'n ofynnol yn ôl y Ddeddf i ni greu gwybodaeth newydd na thrin gwybodaeth er mwyn ymateb i gais penodol.
Mae'r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth yn cydnabod y bydd rhesymau dilys dros ddal rhai mathau o wybodaeth yn ôl, megis petai rhyddhau'r wybodaeth yn dylanwadu ar ymchwiliad, yn niweidio buddiannau masnachol neu'n torri deddfwriaeth arall mewn modd troseddol. Mewn achosion o'r fath, gallwn ddal gwybodaeth yn ôl o dan yr eithriad perthnasol.
Mae dau fath o eithriad o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth:
- eithriadau absoliwt, nad ydynt yn gofyn am brawf pellach o fudd y cyhoedd mewn perthynas â rhyddhau'r data am ei fod yn torri hawl sylfaenol megis peidio â rhyddhau data personol am unigolion byw
- eithriadau amodol, sy'n gofyn i ni ystyried a fydd datgelu'r wybodaeth er budd y cyhoedd a chaiff yr ystyriaeth hon a'n penderfyniad eu cynnwys yn yr ymateb
Os bydd eich cais yn rhy fawr ac yn cymryd dros 24 awr neu'n costio mwy na £600 i ni ei brosesu, caiff ei wrthod. Nid ydym yn derbyn taliad am geisiadau mawr ac nid oes rhaid i ni wneud hynny o dan y Ddeddf.
Gallwn ofyn i chi fod yn fwy penodol gyda'ch cais neu gyfyngu cwmpas y wybodaeth rydych yn chwilio amdani os bydd yn aneglur i ni ba wybodaeth rydych yn chwilio amdani. Nod hyn yw ein helpu i nodi'r wybodaeth sydd ei hangen arnoch.
Nid ydym yn derbyn ceisiadau sy'n cynnwys iaith ddifrïol na cheisiadau sy'n cael eu llunio gyda'r nod o ddifrïo, bygylu neu fygwth staff y Comisiwn Etholiadol.
Os na fyddwn yn rhoi'r wybodaeth y gwnaethoch ofyn amdani i chi, dylech ofyn i ni adolygu ein penderfyniad yn gyntaf. Gallwch gyflwyno cais am adolygiad drwy'r ffurflen we ar y dudalen Gwneud Cais Rhyddid Gwybodaeth ar ôl i chi gael ymateb gennym.
Dylech esbonio pam rydych am gael yr adolygiad hwn a pha ran o'n penderfyniad rydych yn anghytuno â hi. Er enghraifft, nid oedd y defnydd o'r prawf budd y cyhoedd yn glir neu roedd yr amser a gymerwyd gennym i ymateb i'ch cais yn hwy na'r terfyn amser statudol.
Cynhelir ein hadolygiadau gan aelod o'r Uwch Grŵp Arwain o fewn y Comisiwn mewn tîm neu gyfarwyddiaeth na chymerodd ran uniongyrchol wrth brosesu nac ymateb i'ch cais.
Os na fyddwch yn fodlon ar ein hymateb neu ganlyniad adolygiad, gallwch gwyno i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth ar ei gwefan.
Rydym yn cyhoeddi ein hymatebion ar y wefan am dair blynedd, weithiau am gyfnod hwy ar ôl digwyddiadau etholiadol pwysig.
Os hoffech wybod a ydym wedi ymateb yn flaenorol i destun neu bwnc ac nad yw wedi'i gyhoeddi ar-lein mwyach, gallwch wneud cais amdano drwy ein ffurflen we.
Rhennir cynnwys eich cais o fewn y Comisiwn Etholiadol am y gall mwy nag un tîm gadw gwybodaeth sy'n berthnasol i'ch cais. Hefyd, rhennir cynnwys eich cais â thrydydd partïon fel rhan o'r broses ond ni rennir eich gwybodaeth bersonol yn fewnol nac yn allanol. Cyhoeddir ein hymateb ar wefan y Comisiwn ond caiff eich gwybodaeth bersonol ei golygu cyn ei gyhoeddi.
Ni rennir unrhyw fanylion eraill ac ni ddefnyddir eich gwybodaeth at unrhyw ddiben arall heblaw am ymateb i'ch cais. Mae gwybodaeth am sut rydym yn trin ac yn prosesu data personol yn y Comisiwn Etholiadol ar gael yn ein Hysbysiad Preifatrwydd.