Rhyddid Gwybodaeth
Highlights
Ynglŷn â Rhyddid Gwybodaeth
Mae'r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth yn gyfraith sy'n rhoi'r hawl i'r cyhoedd weld y wybodaeth a gedwir gan gyrff cyhoeddus, megis ninnau. Cewch ragor o wybodaeth am y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth drwy fynd i wefan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (Yn agor mewn ffenestr newydd).
Eich hawl i wybodaeth
Gall unrhyw un ofyn am wybodaeth gennym. Nid oes unrhyw gyfyngiadau ar oedran, cenedligrwydd nac o ran ble rydych yn byw. Gellir ymdrin â'ch cais o dan reoliadau gwahanol, yn ddibynnol ar y math o wybodaeth rydych yn gofyn amdano, megis y canlynol:
- Deddf Diogelu Data 2018 (Yn agor mewn ffenestr newydd) os byddwch yn gofyn am wybodaeth y mae sefydliad yn ei chadw amdanoch, sef eich data personol
- Y Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol (Yn agor mewn ffenestr newydd) os byddwch yn gofyn am wybodaeth amgylcheddol
Gallwn wrthod eich cais os bydd y gost o gyflawni'r cais yn rhy uchel, os bydd y wybodaeth ar gael yn hawdd yn rhywle arall, neu os bydd y wybodaeth o fewn cwmpas eithriad. Gweler yr adran Gwneud Cais Rhyddid Gwybodaeth am ragor o wybodaeth.