Crëwyd Bwrdd Cydlynu Etholiadol Cymru o ganlyniad i'r adroddiad ar etholiadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2016.
Mae’r Bwrdd yn cydlynu cynllunio digwyddiadau etholiadol, gweithgarwch etholiadol a moderneiddio a diwygio etholiadol ledled Cymru, yn ogystal â hwyluso cydweithio gwell rhwng Swyddogion Canlyniadau, Swyddogion Cofrestru Etholiadol a phartneriaid allweddol yng Nghymru.