Cofnodion Panel Pleidiau Cynulliad Cymru 29 Mawrth 2018
Cofnodion Panel Pleidiau Cynulliad Cymru
Dyddiad: 29 Mawrth 2018
Yn bresennol
Pleidiau Gwleidyddol
- Geraint Day, Plaid Cymru (GD)
- Craig Williams, Ceidwadwyr Cymreig (CW)
- Louise Magee, Plaid Lafur Cymru (LM)
Cymdeithas y Gweinyddwyr Etholiadol (AEA)
- Rhys George, Cadeirydd AEA Cymru (RG)
Y Comisiwn Etholiadol
- Elan Closs Stephens, Comisiynydd Etholiadol (ECS)
- Rhydian Thomas, Pennaeth y Comisiwn Etholiadol, Cymru (RT)
- Robert Coombs, Uwch Swyddog Cyswllt y Pleidiau Gwleidyddol (RC)
- Laura Ward, Cynghorydd (LW)
- Denise Bottom, Uwch Gynghorydd, tîm Canllawiau (DB) (Eitem 3)
Cofnodion Panel Pleidiau Cynulliad Cymru 29 Mawrth 2018
Ymddiheuriadau
Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Colin Everett, Richard Minshull, Ceidwadwyr Cymreig (daeth Craig Williams fel dirprwy) a Matthew Palmer, Democratiaid Rhyddfrydol Cymru. Gwahoddwyd cynrychiolydd o UKIP Cymru ond ni ddaeth i’r cyfarfod.
Cofnodion y cyfarfod diwethaf (18/07/17)
Derbyniwyd cofnodion y cyfarfod blaenorol fel cofnod cywir.
Dywedodd RC fod seminar ar uniondeb wedi’i chynnal ym mis Medi 2017. Bwriadwyd cynnal un arall yn ddiweddarach eleni a byddai’n ddefnyddiol pe bai cynrychiolydd o PPCC yn bresennol.
Cam gweithredu: Y Comisiwn Etholiadol i wahodd cynrychiolydd o PPCC i ddod i’r seminar nesaf ar uniondeb
Codau Ymarfer - Denise Bottom (Uwch Gynghorydd, tîm Canllawiau)
Esboniodd DB ei bod wedi ysgrifennu at aelodau PPCC ym mis Ionawr 2018 yn manylu ar y cynlluniau ar gyfer Cod Ymarfer ac yn gofyn am sylwadau erbyn 28 Chwefror.
O ran ffurflenni gwariant, mae Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 yn rhestru nifer o benawdau ar gyfer categorïau o wariant. Mae gan y Comisiwn Etholiadol bwerau i egluro’r hyn sy’n gyfystyr â gwariant o dan y categorïau hyn. Ar hyn o bryd, mae gwariant digidol yn gydnaws â’r penawdau presennol ond mae’r Comisiwn yn awyddus i gael sylwadau ar y mater hwn.
Bydd y cod yn rhoi mwy o eglurder ynglŷn â’r hyn y dylid ei ddatgan yn y ffurflenni gwariant a ble, a bydd yn ceisio gwella tryloywder ac ymddiriedaeth pleidleiswyr yn y ffurflenni. Bydd hefyd yn ei gwneud yn haws cymharu ffurflenni. Bydd mwy o eglurder ynglŷn â’r hyn sy’n gyfystyr â gwariant ymgeisydd a’r hyn y dylid ei ddosbarthu’n wariant plaid.
Mae’r Comisiwn wrthi’n drafftio’r cod ynglŷn ag etholiadau cyffredinol Senedd y DU ac mae’n gofyn am adborth. Bydd ymgynghoriad helaethach ar y cod yn ddiweddarach eleni. Bydd y cod yn mynd drwy’r Senedd a bydd yn fwy na chanllawiau.
Dywedodd RT fod trafodaethau wedi’u cynnal gyda Llywodraeth Cymru ar lunio codau tebyg ar gyfer etholiadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac etholiadau llywodraeth leol.
Dywedodd LM ei bod yn croesawu canllawiau ychwanegol ac yr hoffai weld cysondeb rhwng etholiadau er mwyn lleihau’r risg o gamgymeriadau.
Dywedodd CW y byddai’n trafod hyn ymhellach â chydweithwyr a rhoi adborth.
Dywedodd RT fod ymgynghoriad Comisiwn y Cynulliad ar ddiwygio etholiadol yn gofyn p’un a ddylai fod eithriad ar gyfer costau cyfieithu Cymraeg / Saesneg mewn terfynau gwariant. Mae’r Comisiwn wedi awgrymu y dylai hyn fod yn gymwys i ymgeiswyr a phleidiau gwleidyddol fel y mae’n gymwys ar hyn o bryd i ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau. Mae cynnig tebyg hefyd sy’n ymwneud â chostau sy’n gysylltiedig ag anableddau.
Prosiect Cyflwyno Canllawiau Modern a Phrosiect Rheoleiddio Cyllid Gwleidyddol (Cyllid Pleidiau ac Etholiadau Ar-lein)
Prosiect Canllawiau Modern
Esboniodd RC fod y Comisiwn wrthi’n ystyried gwella’r ffordd y caiff canllawiau eu harddangos i ddefnyddwyr. Ar ôl nifer o sesiynau grŵp profi i ddefnyddwyr penderfynwyd symud i ffwrdd oddi wrth y system PDF bresennol i system ar y we.
Bydd taith symlach i ddefnyddwyr yn seiliedig ar bwy yw’r defnyddiwr, o ble mae’n dod a pha ddigwyddiad etholiadol y mae ganddo/ganddi ddiddordeb ynddo. Bydd natur hollgynhwysol y canllawiau yn parhau ond bydd yn haws dod o hyd i’r wybodaeth berthnasol. Bydd modd symud rhwng fersiynau Cymraeg a Saesneg o’r canllawiau.
Bydd sylfaen gyson o ganllawiau gyda gwybodaeth ychwanegol yn dibynnu ar y math o etholiad.
Caiff y system newydd ei rhoi ar waith fesul cam yn dechrau ym mis Ionawr 2019 ar y cyd ag ailddatblygu’r wefan. Yn y cyfamser, bydd y cam ymgynghori yn parhau fel bod defnyddwyr yn dal yn rhan o’r broses.
Bydd cyfrifon defnyddwyr gwirfoddol ar gael a fydd yn gallu cael rhybuddion os bydd unrhyw newidiadau i’r canllawiau.
Dywedodd GD y byddai’r cyfrifon defnyddwyr yn ddefnyddiol, yn enwedig pe gallech gael manylion cyswllt y Swyddog Canlyniadau perthnasol a therfynau amser ar gyfer papurau enwebu a ffurflenni drwy gofnodi’ch lleoliad.
Y Rheoleiddio Cyllid Gwleidyddol Newydd
Dywedodd RC fod y system Cyllid Pleidiau ac Etholiadau bresennol wedi mynd yn hen ffasiwn ac felly fod y Comisiwn yn datblygu system newydd y gellir ei defnyddio i lanlwytho ffurflenni gwariant, manylion cofrestru plaid a cheisiadau adnewyddu blynyddol. Caiff pleidiau gwleidyddol eu hamog i wneud mwy o ddefnydd o’r system.
Caiff grwpiau defnyddwyr eu sefydlu i brofi’r system newydd a bydd aelodau PPCC yn cael eu gwahodd i gymryd rhan.
Cam gweithredu: Gwahodd aelodau PPCC i gymryd rhan mewn grwpiau profi i ddefnyddwyr ar gyfer y Prosiect Rheoleiddio Cyllid Gwleidyddol newydd
Diweddariadau gan y Comisiwn Etholiadol
Seminar gan y Comisiwn Etholiadol – 14 Chwefror
Dywedodd RC fod y Comisiwn wedi cynnal y seminar gyntaf mewn cyfres o seminarau ym mis Chwefror. Roedd Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus, Alun Davies AC, wedi sôn am ei weledigaeth ar gyfer diwygio yn dilyn yr ymgynghoriad a’r datganiad llafar.
Bu amrywiaeth o randdeiliaid yn bresennol yn y seminar, gan gynnwys Swyddogion Canlyniadau, Rheolwyr Gwasanaethau Etholiadol, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ac Aelodau Cynulliad. Roeddent yn gallu cymryd rhan mewn sesiwn holi ac ateb er mwyn ystyried eu safbwyntiau ar y cynigion.
Cafodd araith Ysgrifennydd y Cabinet ei recordio ac mae ar gael i’w gweld ar sianel YouTube a chyfrif Twitter y Comisiwn Etholiadol.
Ymgynghoriad Comisiwn y Cynulliad ar ddiwygio etholiadol
Nododd RC i Gomisiwn y Cynulliad gyhoeddi ei ymgynghoriad ar ddiwygio etholiadol y Cynulliad ar 12 Chwefror, yn dilyn gwaith y panel arbenigol ar ddiwygio etholiadol o dan gadeiryddiaeth yr Athro Laura McCallister.
Mae’r Comisiwn wedi drafftio ymateb i’r ymgynghoriad a gaiff ei ddosbarthu i aelodau PPCC.
Cam gweithredu: Dosbarthu ymateb y Comisiwn Etholiadol i ymgynghoriad Comisiwn y Cynulliad ar ddiwygio etholiadol
Holodd GD am y cynlluniau peilot a oedd yn cael eu cynnal yn ystod etholiadau lleol Mai 2018 yn Lloegr a ph’un a fyddai’r Comisiwn yn cyflwyno adroddiad ar y rhain.
Cadarnhaodd RT y byddai’r Comisiwn yn cyflwyno adroddiad ar y cynlluniau peilot.
Cam gweithredu: Dosbarthu manylion am y cynlluniau peilot a oedd yn cael eu cynnal yn ystod etholiadau lleol Mai 2018
Bwrdd Cydlynu Etholiadol Cymru – 5 Mawrth
Rhoddodd LW ddiweddariad o gyfarfod Bwrdd Cydlynu Etholiadol Cymru (BCEC) ar 5 Mawrth 2018. Roedd Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus, Alun Davies AC, yn bresennol yn y cyfarfod a soniodd am y cynlluniau ar gyfer diwygio etholiadol ym maes llywodraeth leol yng Nghymru.
Roedd Llywodraeth Cymru yn gobeithio cyhoeddi Bil ddiwedd yr hydref a chael Cydsyniad Brenhinol o bosibl ym mis Tachwedd 2019.
Y flaenoriaeth oedd ystyried yr etholfraint, gan gynnwys lleihau’r isafswm oedran pleidleisio, hawliau pleidleisio i garcharorion a gwladolion nad ydynt yn wladolion y DU sy’n byw yng Nghymru. Roedd materion eraill i’w hystyried wedyn yn cynnwys pleidleisio ar wahanol ddiwrnodau neu ar benwythnosau, cyfrif electronig a chreu un gofrestr electronig.
Bu Anna Daniel o Gomisiwn y Cynulliad yn bresennol yn y cyfarfod hefyd a soniodd am ei ymgynghoriad ar greu Senedd i Gymru.
Lansiodd Comisiwn y Cynulliad yr ymgynghoriad ar 12 Chwefror a byddai’n dod i ben ar 6 Ebrill. Mae’r ymgynghoriad yn seiliedig ar yr argymhellion a wnaed gan y Panel Arbenigol ar ddiwygio etholiadol ym mis Rhagfyr 2017. Bydd BCEC yn ymateb i’r ymgynghoriad, gan gynnwys amserlen o ran pryd y byddai angen rhoi deddfwriaeth ar waith cyn etholiadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn 2021.
Nododd BCEC fod angen cefnogi Swyddogion Canlyniadau a Swyddogion Cofrestru Etholiadol newydd ac mae wedi lansio cynllun sefydlu a mentora mewn ymateb i hyn.
Byddai BCEC a’r Comisiwn Etholiadol yn cysylltu â phob Swyddog Canlyniadau newydd ac yn rhoi canllaw iddynt yn nodi’r prif rolau a chyfrifoldebau, manylion cyswllt allweddol a chyfleoedd ar gyfer hyfforddiant a chymorth. Bydd mentor, sef Swyddog Canlyniadau profiadol yng Nghymru, yn cael ei neilltuo i’r Swyddog Canlyniadau, a bydd hefyd yn cael cynnig cyfarfod gyda Rhydian Thomas o’r Comisiwn Etholiadol a Mark James, Swyddog Canlyniadau Sir Gaerfyrddin.
Diwygiodd y Bwrdd ei gylch gorchwyl er mwyn gwahaniaethu rhwng aelodau a chynghorwyr. Bydd Swyddogion Canlyniadau Rhanbarthol a chynrychiolwyr AEA yn aelodau o’r Bwrdd a bydd cynrychiolwyr y Comisiwn Etholiadol, Llywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU a Chynulliad Cenedlaethol Cymru yn gynghorwyr.
Diwygiwyd y cylch gorchwyl hefyd i’w gwneud yn ofynnol i Swyddogion Canlyniadau Rhanbarthol ddynodi dirprwy i fynd i gyfarfodydd yn eu lle pan fo angen ac i ychwanegu’r trefniadau ar gyfer mentora a chefnogi Swyddogion Canlyniadau a Rheolwyr Gwasanaethau Etholiadol newydd at amcanion y Bwrdd.
Cytunodd y Bwrdd ar ei flaenraglen waith ar gyfer 2018 sy’n cynnwys y canlynol:
- Rheoli’r broses o gydlynu etholiadau a all gael eu galw
- Gwaith yn ymwneud â diwygio etholiadol ar gyfer etholiadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru a llywodraeth leol
- Mentora a hyfforddi Swyddogion Canlyniadau
- Materion sy’n ymwneud â’r Gymraeg mewn perthynas ag etholiadau a chofrestru etholiadol
- Capasiti a chynllunio olyniaeth
- Safonau perfformiad ar gyfer Swyddogion Canlyniadau a Swyddogion Cofrestru Etholiadol
- Canllawiau ar y cyfryngau cymdeithasol
- Cyfrifyddu ar gyfer etholiadau
Awgrymodd RG y gallai cynrychiolydd o PPCC fynd i gyfarfod BCEC yn y dyfodol.
Cam gweithredu: Y Comisiwn Etholiadol i wahodd cynrychiolydd o Banel Pleidiau Cynulliad Cymru i fynd i un o gyfarfodydd Bwrdd Cydlynu Etholiadol Cymru yn y dyfodol.
Y wybodaeth ddiweddaraf gan AEA – Rhys George (Cadeirydd, AEA Cymru)
Dywedodd RG fod rhai uwch arweinwyr yn AEA wedi newid ar lefel genedlaethol. Mae John Turner wedi ymddeol ac mae Peter Stanyon wedi cael ei benodi’n Brif Weithredwr. Laura Lock yw’r Dirprwy Brif Weithredwr.
Cynhaliwyd cynhadledd genedlaethol AEA ym mis Chwefror. Bu llawer o drafodaethau ynglŷn â diwygio etholiadol yng Nghymru gyda Frank Cuthbert o Lywodraeth Cymru yn traddodi’r brif araith.
Cynhaliwyd cyfarfod cangen AEA Cymru ar 27 Mawrth, a ganolbwyntiodd ar baratoi ar gyfer cyflwyno Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data 2018.
Bydd AEA Cymru yn cyflwyno ymateb cyfyngedig i ymgynghoriad Comisiwn y Cynulliad. Bydd yr ymateb yn canolbwyntio ar weithgareddau technegol a gweithredol y mae angen eu hystyried o ran yr etholfraint a chofrestru etholiadol.
Dyddiadau cyfarfodydd i ddod yn 2018
Caiff y cyfarfod nesaf ei gynnal ar 6 Mehefin 2018.
Cam gweithredu: Y Comisiwn Etholiadol i ddosbarthu dyddiadau ar gyfer cyfarfod yn yr hydref
Awgrymodd CW y byddai’n fuddiol gwahodd rhywun o’r Alban i drafod pleidleisiau i bobl ifanc16 oed.
Cam gweithredu: Gwahodd cynrychiolwyr o’r Alban i’r cyfarfod ym mis Mehefin i drafod oedran pleidleisio is.
Unrhyw fater arall
Ni chodwyd unrhyw fater arall