Cofnodion Gweithgor Ymarferwyr Etholiadol Cymru 28 Mawrth 2018

Cofnodion Gweithgor Ymarferwyr Etholiadol Cymru 28 Mawrth 2018

Dyddiad: 28 Mawrth 2018

Cofnodion Gweithgor Ymarferwyr Etholiadol Cymru 28 Mawrth 2018

AEA Cymru

  • Amanda Bebb, Canolbarth a Gorllewin Cymru (AB)
  • Gaynor Coventry, Gogledd Cymru (GC)
  • Rebecca Light, Canol De Cymru (RL)
  • Clare Sim, Gorllewin De Cymru (CSi)
  • Rhys George, Cadeirydd, AEA Cymru (RG)
  • Glynne Morgan, Is-gadeirydd, AEA Cymru (GM)

Y Comisiwn Etholiadol

  • Rhydian Thomas, Pennaeth y Comisiwn Etholiadol, Cymru (RT)
  • Catherine Uphill, Uwch Swyddog Arfer a Pherfformiad Etholiadol (CU)
  • Laura Ward, Swyddog Cymorth (LW)
  • Carol Sweetenham, Arweinydd Canllawiau a Strategaeth(CSw) 

Gwesteion

  • Adrian Crompton, Cyfarwyddwr Busnes y Cynulliad (AC) 

  • Dave Beecham, Dwyrain De Cymru

Adrian Crompton, Cyfarwyddwr Busnes y Cynulliad: Ymgynghoriad Comisiwn y Cynulliad - Creu Senedd i Gymru

Roedd AC yn ddiolchgar am y cyfle i wneud cyflwyniad. Eglurodd fod y Llywydd a Chomisiwn y Cynulliad wedi lansio ymgynghoriad ar Greu Senedd i Gymru er mwyn ystyried y canlynol:

  • maint y Cynulliad
  • y system etholiadol
  • pwy sy'n cael bwrw pleidlais
  • y gyfraith etholiadol
  • anghymwysiadau
  • trefniadau mewnol

Roedd yr ymgynghoriad yn seiliedig i raddau helaeth ar argymhellion a wnaed gan y Panel Arbenigol ar ddiwygio etholiadol y Cynulliad ym mis Rhagfyr 2017.

Daeth y Panel Arbenigol i'r casgliad bod y Cynulliad presennol yn rhy fach a bod angen rhwng 80 a 90 o aelodau arno er mwyn gweithredu'n effeithiol.

Asesodd y panel nifer o wahanol systemau etholiadol a chanolbwyntiodd ar dair system bosibl:

  • Pleidlais Sengl Drosglwyddadwy (STV)
  • Cynrychiolaeth Gyfrannol ar sail Rhestr Hyblyg (FLPR)
  • System Gyfrannol Aelodau Cymysg (fersiwn o'r System Aelodau Ychwanegol)

Byddai angen etholaethau aml-aelod newydd ar STV a FLPR yn dilyn adolygiad o ffiniau. Nid oedd unrhyw ddull nac amser i gynnal adolygiad cyn etholiadau 2021. Roedd dau gynnig ar gyfer defnyddio'r ffiniau presennol:

  • gellid creu 20 o etholaethau newydd yn seiliedig ar y 40 o etholaethau presennol, neu
  • gellid creu 17 o etholaethau yn seiliedig ar y 22 o ardaloedd awdurdod
  • lleol gyda phob un yn ethol rhwng pedwar a saith Aelod

Gofynnodd yr ymgynghoriad:

  • pwy y dylid caniatáu iddynt bleidleisio yn etholiadau'r Cynulliad a chyfeiriodd at bobl ifanc 16 ac 17 oed, gwladolion nad ydynt yn perthyn i'r DU sy'n byw yng Nghymru a charcharorion
  • p'un a ddylid defnyddio'r un etholfraint ar gyfer etholiadau'r Cynulliad ag a ddefnyddir ar gyfer etholiadau llywodraeth leol
  • pwy ddylai fod yn gymwys i fod yn Aelod Cynulliad
  • a ph'un a ddylai anghymwysiadau fod yn gymwys ar adeg enwebu
  • unigolion neu pan fydd unigolyn wedi'i ethol

Daeth yr ymgynghoriad i ben ar 7 Ebrill. Byddai Comisiwn y Cynulliad yn pennu cwmpas ac amseru deddfwriaeth ym mis Gorffennaf 2018 a châi Bil ei gyflwyno yn ystod hydref 2018 gan dderbyn Cydsyniad Brenhinol o bosibl yn ystod haf 2019. Wedyn, byddai unrhyw newidiadau ar waith ar gyfer tholiadau'r Cynulliad ym mis Mai 2021.

Mewn ymateb i'r cyflwyniad, dywedodd RG pe na châi'r diwygiadau rfaethedig ar gyfer etholiadau'r Cynulliad ac etholiadau llywodraeth leol eu gweithredu, y byddai hyn yn arwain at wahanol etholfreintiau ar gyfer etholiadau lleol, etholiadau'r Cynulliad, etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu ac etholiadau Cyffredinol Senedd y DU. Byddai angen i awdurdodau lleol gadw pedair cofrestr gwahanol a gallai cymhlethdod y trefniadau hyn arwain at wallau a lleihau cywirdeb y gofrestr. Gallai hyn hefyd fod yn ddryslyd i bleidleiswyr.

Dywedodd RT pe gostyngwyd yr isafswm oedran pleidleisio, y byddai angen i'r Comisiwn Etholiadol gynnal ymgyrch ymwybyddiaeth gyhoeddus er mwyn hysbysu pobl ifanc 16 ac 17 oed o'u hawl i bleidleisio yn etholiadau'r Cynulliad ym mis Mai 2021. Pe na ostyngwyd yr etholfraint ar gyfer etholiadau lleol, byddai angen ymgyrch arall y flwyddyn ganlynol er mwyn hysbysu'r grŵp hwn na allent bleidleisio yn yr etholiadau lleol ym mis Mai 2022.

Dywedodd AB y gallai hyn beri i bobl ifanc deimlo'n ddifreintiedig ac yn ddig.

Eglurodd RG y byddai costau sylweddol yn gysylltiedig â chreu un gofrestr electronig a chostau sylweddol o ran trosglwyddo i system o'r fath.

Dywedodd RG y byddai'n gobeithio y câi egwyddorion Gould eu rhoi ar waith lle y byddai newidiadau deddfwriaethol ar waith chwe mis cyn nrhyw tholiadau a drefnwyd. Byddai angen cyfnod o 12 mis i roi newidiadau i'r system gofrestru ar waith er mwyn sicrhau y gellid cwblhau'r canfas cyn yr etholiadau yn llawn. Rhoddwyd dwy flynedd o rybudd yn yr Alban cyn gwneud newidiadau deddfwriaethol sylweddol.

Dywedodd RT fod gan y Comisiwn Etholiadol gwestiynau mewn perthynas ag ACau yn rhannu swyddi, ond nad oedd ganddo farn ar y polisi ei hun.

Gofynnodd beth fyddai'n digwydd pe byddai un person a etholwyd yn unol â threfniant rhannu swydd yn ymddiswyddo a ph'un a fyddai angen cynnal is-etholiad.

Ychwanegodd RG y byddai angen i'r sefyllfa fod yn glir ac yn ddealladwy i ymgeiswyr a fyddai'n sefyll ar y sail hon ac y byddai angen i'r sefyllfa fod yn glir i ymgeiswyr ar y papur pleidleisio.

Cam gweithredu: Dosbarthu'r sleidiau o gyflwyniad Adrian Crompton 

Cofnodion y cyfarfod diwethaf (12/12/17), pwyntiau gweithredu a chylch gorchwyl

Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol fel cofnod cywir.

Roedd Matthew Redmond, Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol, wedi bwriadu dod i'r cyfarfod i drafod yr adolygiad presennol o ffiniau, ond oherwydd cyfyngiadau amser, byddai bellach yn dod i gyfarfod yn y dyfodol.

Cam gweithredu: Gwahodd Matthew Redmond, Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol, i gyfarfod yn y dyfodol

Gofynnodd RT a oedd gan unrhyw un syniadau ar gyfer gwesteion allanol eraill y gellid eu gwahodd i'r cyfarfodydd hyn. Awgrymodd RG y gellid gwahodd yr Uned Ddata Llywodraeth Leol i roi'r wybodaeth ddiweddaraf am arolwg Ymgeiswyr Llywodraeth Leol 2017.

Cam gweithredu: Gwahodd Jenny Murphy, Uned Ddata Llywodraeth Leol i gyfarfod mis Mehefin

Dywedodd RG nad oedd arolwg AEA wedi'i ddosbarthu, gan fod Bwrdd Cydlynu Etholiadol Cymru (BCEC) yn bwriadu cyhoeddi arolwg mwy ynhwysfawr ac y byddai hwnnw'n cael ei anfon at y cadeiryddion rhanbarthol er mwyn iddynt wneud sylwadau arno.

Cam gweithredu: Dosbarthu arolwg gallu BCEC i'r cadeiryddion rhanbarthol

Dywedodd RG na fu llawer o ddiddordeb mewn arsylwi'r etholiadau lleol ym mis Mai 2018. Dywedodd GM y byddai diddordeb ganddo mewn arsylwi'r ardaloedd peilot lle byddai gofyn i bleidleiswyr gyflwyno prawf adnabod.

Cam gweithredu: Gofyn i gangen AEA Cymru a hoffai anfon cynrychiolydd i arsylwi un o'r ardaloedd peilot lle byddai gofyn i bleidleiswyr gyflwyno prawf adnabod

Cam gweithredu: Dosbarthu manylion yr ardaloedd peilot lle byddai gofyn i
bleidleiswyr gyflwyno prawf adnabod 

Eglurodd RT fod BCEC wedi diwygio ei gylch gorchwyl yn ddiweddar er mwyn i ddirprwyon allu mynychu cyfarfodydd pan fo angen ac awgrymodd y dylai GYEC fabwysiadu'r dull gweithredu hwn.

Cam gweithredu: Cadeiryddion rhanbarthol benodi dirprwy i fynychu cyfarfodydd ar eu rhan lle bo angen

Cam gweithredu: Diwygio'r cylch gorchwyl er mwyn i gadeiryddion rhanbarthol allu dynodi dirprwy penodedig i fynychu cyfarfodydd ar eu rhan pan fo angen.

Dywedodd RT nad oedd unrhyw gynrychiolwyr o Gymru yng nghyfarfodydd diweddar y Gweithgor Etholiadau, Refferenda a Chofrestru (ERRWG). Awgrymodd y dylai GYEC benodi unigolyn i fynd i'r cyfarfodydd chwarterol.

Cam gweithredu: Dosbarthu manylion cyfarfod nesaf ERRWG

Cam gweithredu: Cadeiryddion rhanbarthol i benodi cynrychiolwyr i fynychu cyfarfod nesaf ERRWG

Ymateb arfaethedig i ymgynghoriad Comisiwn y Cynulliad (AEA/Y Comisiwn Etholiadol)

Dywedodd RG y byddai'n drafftio ymateb ar ran AEA Cymru i ymgynghoriad Comisiwn y Cynulliad ac y dylid annog awdurdodau lleol unigol i ymateb hefyd.

Cam gweithredu: Cadeiryddion rhanbarthol i annog awdurdodau lleol i gyflwyno ymatebion i ymgynghoriad Comisiwn y Cynulliad ar Greu Senedd i
Gymru.

Dywedodd GM fod risg ynghlwm wrth ddileu rôl annibynnol y Swyddog Canlyniadau.

Ychwanegodd RG y gall fod yn anodd penodi Swyddogion Canlyniadau Rhanbarthol.

Dywedodd RT y byddai'r Comisiwn Etholiadol yn dosbarthu copi drafft o'i ymateb i'r ymgynghoriad.

Cam gweithredu: Dosbarthu ymateb drafft y Comisiwn Etholiadol i ymgynghoriad Comisiwn y Cynulliad ar Greu Senedd i Gymru

Dywedodd GC nad oedd ei gydweithwyr yng ngogledd Cymru yn teimlo'n rhan o'r broses diwygio etholiadol ac ychwanegodd fod cydweithwyr yn ne Cymru wedi cael cyfle i fynychu seminar y Comisiwn Etholiadol yng Nghaerdydd ym mis Chwefror.

Dywedodd RT fod y seminar yng Nghaerdydd ar gael i'w gweld ar dudalen YouTube y Comisiwn Etholiadol a bod y Comisiwn yn bwriadu cynnal seminarau yng Ngorllewin Cymru a Gogledd Cymru.

Cam gweithredu: GC i hwyluso trafodaeth gyda chydweithwyr yng Ngogledd Cymru o ran yr hyn yr hoffent i'r Comisiwn Etholiadol ei gynnwys mewn seminar yn y dyfodol

Dywedodd RG fod aelodau yn siomedig ynghylch y diffyg ymgysylltu a fu rhwng Llywodraeth Cymru a gweinyddwyr etholiadol yng Nghymru yn ystod y misoedd diwethaf, er gwaethaf cynnig sawl cyfle i Lywodraeth Cymru. Roedd yn ymwybodol y cynhaliwyd cyfarfod ad hoc gyda gweinyddwyr yn Sir Fynwy, ond yn teimlo bod angen dull gweithredu mwy cydgysylltiedig.

Cyfeiriodd at raglen trawsnewid Cofrestriadau Etholiadol Unigol Swyddfa'r Cabinet a'r ffordd yr oedd Swyddfa'r Cabinet wedi ymgysylltu'n rheolaidd â thimau etholiadau. Awgrymodd y gallai Llywodraeth Cymru sefydlu fforwm tebyg ar gyfer diwygio etholiadol gan gynnal trafodaethau neu weithdai gyda staff etholiadau. Fel arall, byddai croeso i Lywodraeth Cymru ddod i un o gyfarfodydd cangen AEA neu un o gyfarfodydd GYEC.

Cytunwyd y dylai'r Grŵp ysgrifennu at Lywodraeth Cymru a chynnig cyfarfod i drafod rhaglen ymgysylltu a'r heriau mwy technegol a ymarferol sy'n ysylltiedig â diwygiadau etholiadol.

Cam gweithredu: GYEC i ysgrifennu i Lywodraeth Cymru a mynegi siom o ran y dull gweithredu presennol. Annog Llywodraeth Cymru i gydweithio'n agos ag Changen AEA Cymru mewn ffordd debyg i'r ffordd a fabwysiadwyd gan y Swyddog Cyfrif wrth newid i Gofrestriadau Etholiadol Unigol.  

Carol Sweetenham, Comisiwn Etholiadol: Diweddariad am y Prosiect Moderneiddio Canllawiau

Eglurodd CSw fod y Comisiwn wedi bod yn llunio nifer gynyddol uchel o ganllawiau a'i bod wedi dod yn anodd cynnal y canllawiau hynny ac ymdrin â nhw.

Dangosodd gwaith profi fod defnyddwyr am i'r canllawiau fod yn gynhwysfawr o hyd ond wedi'u cyflwyno mewn ffordd mor glir â phosibl heb unrhyw chosion o ddyblygu. Felly, penderfynwyd symud i system ar y we a fyddai'n ystyried pwy oedd y defnyddiwr, ei leoliad a pha etholiad yr oedd angen canllawiau ar ei gyfer. 

Byddai fersiwn fwy cryno, haws ei defnyddio ar gael gyda graddfa canllawiau y gellid ei haddasu ar gyfer pob math o etholiad. Byddai'r adnoddau a'r enghreifftiau o arfer da yn parhau yr un fath ond byddai modd cysylltu â'r deunyddiau hyn o'r canllawiau a byddai mynegai ar gael o'r holl adnoddau. Byddai hefyd yn bosibl symud rhwng fersiynau Cymraeg a Saesneg.

Byddai cyfrifon defnyddwyr gwirfoddol ar gael er mwyn darparu hysbysiadau, nodi ffefrynnau a gweithredu fel ffynhonnell o adborth ar y canllawiau. Gobeithio y byddai'r canllawiau newydd ar gael ar gyfer etholiadau mis Mai 2019.

Diweddariadau gan AEA

Dywedodd RG fod AEA Cymru yn awyddus i ymgysylltu â Llywodraeth Cymru ynghylch yr agenda ddiwygio (fel y nodwyd ym mhara 4.7 a'r cam gweithredu dilynol).

Byddai AEA Cymru yn ymateb i ymgynghoriad Comisiwn y Cynulliad ar ddiwygio etholiadol a châi'r ymateb hwn ei ddosbarthu cyn y terfyn amser.

Byddai Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) 2018 yn dod i rym ar 24 Mai 2018. Roedd AEA Cymru yn ystyried cynnig hyfforddiant i Swyddogion Cofrestru Etholiadol a Rheolwyr Gwasanaethau Etholiadol.

Roedd y Comisiwn Etholiadol wedi cyhoeddi canllawiau yn ddiweddar ar hyn a oedd ar gael yn Bwletin 208.

Dywedodd GC fod y Comisiwn wedi darparu cynlluniau prosiect ar ffurf templed ar gyfer etholiadau ac y byddai rhywbeth tebyg yn ddefnyddiol ar gyfer y Rheoliad.

Cam gweithredu: Y Comisiwn Etholiadol i gadarnhau p'un a ellid darparu
hyfforddiant mewn perthynas â chyflwyno'r Rheoliad

Cam gweithredu:: RG i benderfynu p'un a oedd hyfforddiant AEA ar gael mewn perthynas â chyflwyno'r Rheoliad

Roedd yr Uned Ddata Llywodraeth Leol wedi nodi na chafodd yr arolwg ar-lein o ymgeiswyr ar gyfer yr etholiadau lleol yn 2016 ymateb cystal ag arolygon papur blaenorol, er y bu'n haws ei weinyddu.

Dywedodd RG y bu diweddariad da gan Swyddfa'r Cabinet y chwarter hwn, a nododd y pwysau ar gyllidebau canfas blynyddol.

Cafwyd neges e-bost gan Peter Stanyon (Prif Weithredwr, AEA) yn gofyn am awgrymiadau ar ffyrdd gwell o ymgysylltu â changhennau.

Gwahoddwyd dau gynrychiolydd o AEA Cymru i fynd i gyfarfod yn
Camden ar 14 Mai 2018. 

Diweddariadau gan y Comisiwn Etholiadol

Canllawiau

Eglurodd CU fod Bwletin 207 yn cynnwys gwybodaeth am gynlluniau peilot lle byddai gofyn i bleidleiswyr am brawf adnabod a dealltwriaeth o ymddygiad pleidleiswyr. Byddai Bwletin 210 yn cynnwys diweddaru'r canllawiau i  wyddogion Cofrestru Etholiadol er mwyn ymdrin â'r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol a fyddai'n dod i rym ym mis Mai.

Byddai gwaith pellach i ddiweddaru'r canllawiau i Swyddogion Cofrestru Etholiadol a rhai ffurflenni ym mis Gorffennaf mewn perthynas â manteisio i'r eithaf ar newidiadau cofrestru.

Newidiadau i'r broses cofrestru'n ddienw

Roedd Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) (Diwygio) 2018 wedi gwneud newidiadau i'r darpariaethau ar gyfer cofrestru'n ddienw. Roedd bellach yn haws i bobl agored i niwed yng Nghymru, Lloegr a Gogledd werddon gofrestru i bleidleisio heb roi eu diogelwch yn y fantol, drwy gofrestru'n ddienw.

Roedd y Comisiwn wedi llunio canllawiau i reolwyr llochesi ar y cyd â Cymorth i Fenywod ac i Swyddogion Cofrestru Etholiadol awdurdodau lleol.

Monitro perfformiad Swyddogion Cofrestru Etholiadol

Nododd pob Swyddog Cofrestru Etholiadol yng Nghymru eu bod wedi cwblhau'r canfas ac wedi bodloni'r gofynion statudol. Byddai'r Comisiwn yn ysgrifennu at y Swyddogion Cofrestru Etholiadol hynny a oedd yn rhan o'r sampl monitro perfformiad er mwyn rhoi gwybod iddynt eu bod wedi cyrraedd y safonau.

Digwyddiadau

Ym mis Chwefror, cynhaliodd y Comisiwn y seminar gyntaf mewn cyfres o seminarau a gynlluniwyd i roi llwyfan i bartneriaid drafod democratiaeth
yng Nghymru. Roedd Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a
Gwasanaethau Cyhoeddus, Alun Davies AC, wedi sôn am ei weledigaeth
ar gyfer diwygio etholiadol ym maes llywodraeth leol.

Briffio Llywodraeth Cymru

Ar 27 Chwefror, rhoddodd cynrychiolwyr o dimau cyfreithiol, canllawiau a Chymru y Comisiwn hyfforddiant i gyfreithwyr a swyddogion polisi Llywodraeth Cymru ar waith y Comisiwn a chyfraith etholiadol. Roedd a wnelo hyn â'r newidiadau arfaethedig i etholiadau llywodraeth leol yng Nghymru, er mwyn i'r swyddogion hynny a oedd yn gymharol newydd i'r maes gwaith hwn allu meithrin gwell dealltwriaeth a dod yn fwy ymwybodol o rôl y Comisiwn.

Adroddiadau'r Comisiwn Etholiadol

Ar 2 Mawrth, cyhoeddodd y Comisiwn ei adroddiad Dadansoddi achosion o dwyll etholiadol honedig yn y DU yn 2017. Roedd heddlu'r DU wedi cofnodi cyfanswm o 336 o achosion o dwyll etholiadol honedig yn ymwneud â throseddau o dan Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl yn 2017.

Diweddariad gan Fwrdd Cydlynu Etholiadol Cymru

Rhoddodd LW ddiweddariad o gyfarfod Bwrdd Cydlynu Etholiadol Cymru (BCEC) ar 5 Mawrth 2018. Roedd Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus, Alun Davies AC, yn bresennol yn y cyfarfod a soniodd am y blaenoriaethau o ran diwygio etholiadol ym maes llywodraeth leol yng Nghymru.

Roedd Llywodraeth Cymru yn gobeithio cyhoeddi Bil tua diwedd yr hydref a chael Cydsyniad Brenhinol o bosibl ym mis Tachwedd 2019.

Y flaenoriaeth oedd ystyried yr etholfraint, gan gynnwys lleihau'r isafswm oedran pleidleisio, hawliau pleidleisio i garcharorion a gwladolion nad ydynt yn perthyn i'r DU ac sy'n byw yng Nghymru. Roedd materion eraill i'w hystyried wedyn yn cynnwys pleidleisio ar wahanol ddiwrnodau neu ar benwythnosau, cyfrif electronig a chreu un gofrestr electronig.

Cafodd BCEC ei friffio hefyd gan Anna Daniel o Gomisiwn y Cynulliad, a soniodd am ymgynghoriad y Comisiwn ar greu Senedd i Gymru.

Roedd Comisiwn y Cynulliad wedi lansio ymgynghoriad ar 12 Chwefror a oedd yn canolbwyntio ar yr argymhellion a wnaed gan y Panel Arbenigol ar ddiwygio etholiadol ym mis Rhagfyr 2017. Byddai BCEC yn ymateb i'r ymgynghoriad, gan gynnwys amserlen o ran pryd y byddai angen rhoi deddfwriaeth ar waith cyn etholiadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn 2021.

Roedd BCEC wedi nodi bod angen cefnogi Swyddogion Canlyniadau a Swyddogion Cofrestru Etholiadol newydd ac wedi lansio cynllun sefydlu a mentora mewn ymateb i hyn.

Byddai BCEC a'r Comisiwn Etholiadol yn cysylltu â phob Swyddog Canlyniadau newydd ac yn rhoi canllaw iddynt yn nodi'r prif rolau a chyfrifoldebau, manylion cyswllt allweddol a chyfleoedd ar gyfer hyfforddiant a chymorth. Byddai mentor, sef Swyddog Canlyniadau profiadol yng Nghymru, yn cael ei neilltuo i'r Swyddog Canlyniadau, a byddai hefyd yn cael cynnig cyfarfod gyda Rhydian Thomas o'r Comisiwn Etholiadol a Mark James, Swyddog Canlyniadau Sir Gaerfyrddin. 

Roedd y Bwrdd wedi diwygio ei gylch gorchwyl er mwyn gwahaniaethu rhwng aelodau a chynghorwyr. Byddai Swyddogion Canlyniadau Rhanbarthol a chynrychiolwyr AEA yn aelodau o'r Bwrdd a byddai cynrychiolwyr y Comisiwn Etholiadol, Llywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU a Chynulliad Cenedlaethol Cymru yn gynghorwyr.

Diwygiwyd y cylch gorchwyl hefyd i'w gwneud yn ofynnol i Swyddogion Canlyniadau Rhanbarthol ddynodi dirprwy i fynd i gyfarfodydd yn eu lle pan fo angen ac i ychwanegu'r trefniadau ar gyfer mentora a chefnogi Swyddogion Canlyniadau a Rheolwyr Gwasanaethau Etholiadol newydd at amcanion y Bwrdd.

Roedd y Bwrdd wedi cytuno ar ei flaenraglen waith ar gyfer 2018 a oedd yn cynnwys y canlynol:

  • rheoli'r gwaith o gydgysylltu unrhyw ddigwyddiadau etholiadol wedi'u trefnu
  • gwaith yn ymwneud â diwygio etholiadol ar gyfer etholiadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru a llywodraeth leol
  • mentora a hyfforddi Swyddogion Canlyniadau
  • materion yn ymwneud â'r Gymraeg
  • capasiti a chynllunio olyniaeth
  • safonau perfformiad ar gyfer Swyddogion Canlyniadau a Swyddogion Cofrestru Etholiadol
  • canllawiau ar y cyfryngau cymdeithasol
  • cyfrifyddu ar gyfer etholiadau

Ychwanegodd RT fod y Grŵp Cynghori ar Ddeddfwriaeth Gymraeg yn ceisio sicrhau cysondeb o ran y geiriau Cymraeg a ddefnyddir ledled Cymru a'i fod wrthi'n llunio rhestr unigol o dermau etholiadol yn Gymraeg a Saesneg.

Cam gweithredu: Dosbarthu'r rhestr termau a luniwyd gan y Grŵp Cynghori ar Ddeddfwriaeth Gymraeg

Roedd RT o'r farn fod y diweddariadau hyn yn ddefnyddiol i gyfarfodydd GYEC ac y byddai hefyd o fudd cynnwys diweddariad gan GYEC yng nghyfarfodydd BCEC.

Cam gweithredu: Cynnwys adborth o gyfarfodydd GYEC fel eitem sefydlog
ar agenda BCEC 

Ehangu cynllun mentora Swyddogion Canlyniadau i Weinyddwyr Etholiadol

Dywedodd RT y câi cynllun mentora Swyddogion Canlyniadau ei ehangu i Reolwyr Gwasanaethau Etholiadol a staff etholiadau. Byddai'r Comisiwn Etholiadol yn dechrau llunio'r canllawiau gan anelu at roi'r cynllun ar waith ym mis Ionawr 2019.

Awgrymodd CSi wrth benodi mentoriaid, y byddai'n ddefnyddiol ystyried rhywun a oedd yn defnyddio'r un system meddalwedd rheoli etholiadau.

Awgrymodd GC y byddai hefyd yn ddefnyddiol ystyried penodi rhywun yn yr un rhanbarth daearyddol ac ychwanegodd fod fersiwn anffurfiol o'r cynllun hwn eisoes ar waith yng ngogledd Cymru.

Dywedodd RG fod cwrs sylfaen AEA hefyd yn cynnig cyflwyniad sylfaenol.

Cam gweithredu: Datblygu is-grŵp gan gynnwys y Comisiwn Etholiadol a chadeiryddion rhanbarthol er mwyn llunio fframwaith ar gyfer cynllun mentora a sefydlu Rheolwyr Gwasanaethau Etholiadol 

Wythnos Democratiaeth Genedlaethol 2-6 Gorffennaf 2018

Dywedodd RG ei fod wedi bwriadu cynnal digwyddiad gyda'r Maer yng Nghastell-nedd Port Talbot mewn perthynas â chanmlwyddiant y swffragetiaid a'r hawl i bleidleisio yn 16 oed.

Dywedodd CU mai menter gan Swyddfa'r Cabinet oedd hon a bod y Comisiwn yn rhan ohoni. Byddai 10 fideo ar wahanol rannau o'r broses ddemocrataidd er mwyn i awdurdodau lleol eu rhannu.

Cam gweithredu: Cadarnhau p'un a yw adnoddau Swyddfa'r Cabinet ar gael yn ddwyieithog 

Dyddiadau cyfarfodydd a drefnwyd

Cam gweithredu: Gwahodd Llywodraeth Cymru i ddod i gyfarfod mis Mehefin

Cam gweithredu: Cynnwys adolygiadau o orsafoedd pleidleisio ar yr agenda ar gyfer cyfarfod mis Mehefin