Grŵp Cynghori Deddfwriaeth Gymraeg Nodyn Cyfarfod 27 Mehefin 2018

Grŵp Cynghori Deddfwriaeth Gymraeg 27 Mehefin 2018

Dydd: Mercher 27 Mehefin 2018

Grŵp Cynghori Deddfwriaeth Gymraeg Nodyn Cyfarfod 27 Mehefin 2018

  • Bronwen Morgan (Ceredigion) – BM
  • Lauren Morrison (Llywodraeth Cymru) – LM
  • Gareth Evans (Sir Ddinbych) – GE
  • Gwynne Jones (Ynys Môn) – GJ
  • Alison O’Hara (Abertawe) - AO
  • Sioned Wyn (Comisiwn Etholiadol) - SW

Cofnodion y cyfarfod diwethaf a chamau Gweithredu

Roedd pawb yn hapus gyda’r cofnodion, a’r camau gweithredu wedi’u gwneud.

Y diweddaraf am yr eirfa

Cytuno i gynnwys unrhyw sylwadau sy’n codi nawr, a diwygio’r ddogfen wrth fynd ymlaen.

Nodwyd bod angen i Prysg baratoi’r fersiwn cof cyfieithu o’r eirfa cyn gynted â phosibl.

Diweddariad craffu ar ddeddfwriaeth

Nododd SW fod y ffurflenni gyda’r newidiadau wedi eu hanfon at Swyddfa’r Cabinet a bod Eileen Vagg wedi bod yn gweithio arnynt.

Bydd SW yn gwirio’r ffurflenni cyn diwedd y flwyddyn, ac yn cysylltu gyda Swyddfa’r Cabinet i gadarnhau os yw’r newidiadau’n iawn ai peidio.

Mae’n debygol mae etholiadau PCC fydd y rhai nesaf yng Nghymru - GE yn awgrymu efallai mai dyma’r ffurflenni nesaf i edrych arnynt.

Diwygio’r cylch gorchwyl

Cytunwyd ar y mân newidiadau awgrymwyd gan SW (camgymeriadau teipio yn bennaf).

Awgrymwyd nifer o enwau posibl newydd:

  • Grŵp cynghori ar ddefnyddio’r Gymraeg mewn deddfwriaeth
  • Grŵp cynghori ar ddwyieithrwydd mewn deddfwriaeth
  • Grŵp cynghori ieithyddol etholiadol
  • Grŵp cynghori’r Gymraeg y Comisiwn Etholiadol

SW i gynnig yr enwau i Rhydian Thomas a staff y Comisiwn yng Nghymru am eu barn.

Unrhyw fater arall

Awgrymwyd y dylai’r cyfarfod nesaf fod yn un wyneb yn wyneb os oes modd.

Angen nodi gwrthdaro buddiannau fel eitem ar yr agenda o hyn ymlaen.

BM i barhau yn gadeirydd y grŵp am y tro, i’w drafod yn y cyfarfod nesaf.

Mailmark – y Post Brenhinol wedi newid pris a dull anfon cardiau etholiadol. Anodd iawn neu’n amhosib i mailmark weithio’n Gymraeg/dwyieithog oherwydd y ffordd maent yn gweithio. BM i gysylltu gyda’r Post Brenhinol (drwy SW) ar ran y grŵp i ofyn am ddiweddariad a beth yw’r camau nesaf.

Dyddiad y cyfarfod nesaf

O bosib cyn cyfarfod WECB ym mis Medi.

Camau Gweithredu

  • SW i wirio’r newidiadau i’r ddeddfwriaeth a chadarnhau gyda Swyddfa’r Cabinet, a diweddaru’r grŵp
  • SW i drafod yr enwau posib newydd i staff swyddfa Cymru’r Comisiwn, ac adrodd yn ôl i’r grŵp.
  • BM i gysylltu â’r Post Brenhinol i gael diweddariad am mailmark.