Cofnodion Bwrdd y Comisiwn: eitemau busnes electronig: Dydd Llun 1 Mehefin 2020
Meeting overview
Hysbyswyd trwy e-bost: Dydd Llun 1 Mehefin 2020
Present
John Holmes, Cadeirydd
Alasdair Morgan
Anna Carragher
Elan Closs Stephens
Joan Walley
Sarah Chambers
Stephen Gilbert
Sue Bruce
Q4 2019/20 Adroddiad Perfformiad Chwarterol (eEC 42/20)
Cynigiodd y Bwrdd adborth ar yr adroddiad. Ymhlith y materion a godwyd roedd gohirio lansio Cyllid Gwleidyddol Ar-lein. Nodwyd hefyd fod Safonau Perfformiad ar gyfer Swyddogion Canlyniadau a Swyddogion Cofrestru Etholiadol ond yn gymwys ym Mhrydain Fawr.
Nodwyd yr ymgymerir â’r Adroddiadau Perfformiad Chwarterol fel busnes mewn cyfarfodydd Bwrdd y Comisiwn o hyn allan.
Penderfynwyd: Bod y papur i gael ei nodi.
Adolygiad cyntaf o’r Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2019/20 (eEC 43/20)
Cafwyd ymholiad ynghylch agweddau ar danwario, gan gynnwys gohirio etholiadau mis Mai 2020. Codwyd cwestiwn am y darged ar gyfer gwirio ffurflenni ariannol. Mae nifer y ffurflenni a gaiff eu gwirio’n flynyddol yn amrywio, ac mae wedi bod yn uwch yn y blynyddoedd diwethaf gyda digwyddiadau etholiadol.
Gofynnwyd am ddiwygiadau i gynnwys cyfeiriad at ymgyfreitha yn y rhagair, eglurder o ran pryd bydd y porth ar gyfer cyllid a chofrestru pleidiau ar gael, a diweddariad i dabl termau’r Comisiynydd i gynnwys troednodyn eglurhaol.
Penderfynwyd: Y cytunir ar y papur, yn ddarostyngedig i’r pwyntiau hyn
Cofnodion Bwrdd y Comisiwn (eEC 44/20)
Diweddarwyd y Comisiynwyr bod y Swyddfa Archwilio Genedlaethol yn dal i fod wrthi’n cwblhau eu harchwiliad. Hyd yn hyn, nid amlygwyd unrhyw broblemau mawr gyda’r cyfrifon.
Penderfynwyd: Bod y papur i gael ei nodi.
Blaengynllun Bwrdd y Comisiwn (eEC 45/20)
Penderfynwyd: Bod y papur i gael ei nodi.
Traciwr gweithredu Bwrdd y Comisiwn
Penderfynwyd: Bod y papur i gael ei nodi.
Diweddariad y Prif Weithredwr ar gyfer mis Mai 2020 (eEC 47/20)
Rhoddwyd sicrwydd i’r Bwrdd nad oeddem yn rhagweld problem o ran parhau ar y trywydd iawn gyda gwaith y Comisiwn yn ystod y pandemig coronafeirws, ar yr un pryd â chydnabod bod y coronafeirws wedi effeithio ar aelodau staff a’r Comisiwn fel cyfangorff, a bod angen rheoli rhagweithiol.
Nodwyd bod croeso i Gomisiynwyr unigol fod yn rhan o ddatblygu meysydd priodol o’r Cynllun Corfforaethol, ac y byddai cyfarfodydd yn cael eu hamserlennu a’u trefnu. Byddai ymgysylltu â rhanddeiliaid yn y cynllun yn ceisio cynnwys grwpiau oedolion ifainc, a grwpiau Du, Asiaidd,a Lleiafrifoedd Ethnig (BAME).
Cafwyd ymholiad ynghylch canlyniad heriau cyfreithiol hir-sefydlog. Diweddarodd y Prif Weithredwr y Bwrdd ynghylch trefniannau gweithio gyda Gwasanaeth Erlyn y Goron. Nodwyd y byddai’r Pwyllgor Safonau mewn Bywyd Cyhoeddus yn dechrau gwaith adolygu a groesawyd gan y Comisiwn.
Penderfynwyd: Bod y papur i gael ei nodi.