Ynghylch ein Pwyllgor Archwilio a Risg

Mae’r Pwyllgor Archwilio a Risg yn cefnogi’r Swyddog Cyfrifo wrth gynnal eu cyfrifoldebau atebolrwydd ffurfiol. Mae'r Pwyllgor yn cynnig cyngor gwrthrychol ac yn sicrhau bod y prosesau rheoli, risg, a llywodraethu mwyaf effeithiol, effeithlon ac economaidd ar waith. Mae’r Pwyllgor Archwilio a Risg hefyd yn gweithredu ar ran y Comisiynwyr i roi sicrwydd iddynt ar y materion hyn.

Fe fydd tri aelod o’r Pwyllgor Archwilio a Risg, bydd hyn yn cynnwys y Cadeirydd. Penodir y Cadeirydd gan Fwrdd y Comisiwn. Caniateir i Gynghorydd Annibynnol gael ei benodi gan Fwrdd y Comisiwn, ond ni chaniateir i fod yn aelod o’r Pwyllgor Archwilio a risg.

Bydd cofnodion y Pwyllgor Archwilio a Risg yn cael eu rhannu gyda’r Bwrdd a bydd adroddiad o waith y Pwyllgor Archwilio a Risg yn cael eu cyflwyno i’r Bwrdd yn flynyddol.